bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
John 5
John 5
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 6 →
1
Wedi y pethau hyn yr oedd Gŵyl yr Iuddewon; a'r Iesu a aeth i fyny i Jerusalem.
2
Ac y mae yn Jerusalem, wrth Borth y Defaid, lyn a gyfenwir yn yr Hebraeg, Bethesda, ag iddo bum cyntedd:
3
yn y rhai y gorweddai lluaws o rai cleifion, deillion, cloffion, gwywedigion.
5
Ac yr oedd rhyw ddyn yno a fuasai yn ei afiechyd dri‐deg ac wyth o flynyddau.
6
Yr Iesu, pan welodd hwn yn gorwedd, ac yn gwybod ei fod ef felly weithian amser maith, a ddywed wrtho, A fyni di ddyfod yn iach?
7
Y claf a atebodd iddo, Syr, nid oes genyf ddyn, pan gynhyrfer y dwfr, i'm bwrw i'r llyn: ond tra yr wyf fi yn dyfod, arall a ddisgyn o'm blaen i.
8
Yr Iesu a ddywed wrtho, Cyfod, cymmer i fyny dy wely, a rhodia.
9
Ac yn ebrwydd y dyn a ddaeth yn iach, ac a gyfododd i fyny ei wely, ac a rodiodd. Yn awr, yr oedd y Sabbath ar y dydd hwnw.
10
Am hyny dywedodd yr Iuddewon wrth yr hwn oedd wedi ei wellhâu, Y Sabbath ydyw: ac nid cyfreithlawn i ti gyfodi i fyny y gwely.
11
Efe a atebodd iddynt, Yr hwn a'm gwnaeth i yn iach, efe a ddywedodd wrthyf, Cyfod dy wely, a rhodia.
12
Am hyny hwy a ofynasant iddo, Pwy yw y dyn a ddywedodd wrthyt ti, Cyfod i fyny dy wely, a rhodia?
13
A'r hwn a iachasid ni wyddai pwy ydyw efe: oblegyd yr Iesu a ymneillduodd, gan fod tyrfa yn y lle.
14
Ar ol y pethau hyn y mae yr Iesu yn ei gael ef yn y Deml, ac a ddywedodd wrtho, Wele, yr ydwyt wedi dyfod yn iach: na phecha mwyach, fel na ddygwyddo i ti beth a fyddo gwaeth.
15
Y dyn a aeth ymaith, ac a fynegodd i'r Iuddewon mai yr Iesu yw yr hwn a'i gwnaethai ef yn iach.
16
Ac o herwydd hyn yr oedd yr Iuddewon yn erlid yr Iesu,, oblegyd ei fod yn gwneuthur y pethau hyn ar y Sabbath.
17
Ond yr Iesu a'u hatebodd hwynt, Y mae fy Nhâd yn gweithio hyd yn awr, ac yr ydwyf finau yn gweithio.
18
O herwydd hyn yr oedd yr Iuddewon yn ceisio yn fwy ei ladd ef, canys nid yn unig yr oedd efe yn dirymu y Sabbath, ond hefyd dywedodd mai ei Dâd ei hun oedd Duw, gan ei wneuthur ei hun yn gyd‐radd â Duw.
19
Yr Iesu gan hyny a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Ni ddichon y Mab wneuthur dim o hono ei hunan, eithr yr hyn a welo efe y Tâd yn ei wneuthur: canys pa beth bynag y mae efe yn ei wneuthur, y pethau hyn hefyd y mae y Mab yr un modd yn eu gwneuthur.
20
Canys y Tâd sydd yn caru y Mab, ac yn dangos iddo yr holl bethau y mae efe yn eu gwneuthur: a gweithredoedd mwy na'r rhai hyn a ddengys efe iddo, fel y rhyfeddoch chwi.
21
Oblegyd megys y mae y Tâd yn cyfodi y meirw, ac yn eu bywhâu, felly hefyd y mae y Mab yn bywhâu y rhai a fyno.
22
Canys nid yw hyd y nod y Tâd yn barnu neb; ond y mae efe wedi rhoddi y Farn gyfan i'r Mab:
23
fel yr anrhydeddai pawb y Mab, fel y maent yn anrhydeddu y Tâd. Yr hwn nid yw yn anrhydeddu y Mab, nid yw yn anrhydeddu y Tâd, yr hwn a'i hanfonodd ef.
24
Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn sydd yn gwrando fy ngair, ac yn credu i'r hwn a'm hanfonodd i, sydd ganddo fywyd tragywyddol, ac nid yw yn dyfod i Farn, eithr y mae efe wedi myned trosodd allan o farwolaeth i fywyd.
25
Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Y mae yr awr yn dyfod, ac yn awr y mae, pan glywo y Meirw lais Mab Duw, a'r rhai a glywant a fyddant byw.
26
Canys megys y mae gan y Tâd fywyd ynddo ei hun, felly hefyd i'r Mab y rhoddodd efe i gael bywyd ynddo ei hun:
27
ac efe a roddodd iddo awdurdod i wneuthur barn, oblegyd ei fod yn Fab dyn.
28
Na ryfeddwch at hyn: canys y mae yr awr yn dyfod, yn yr hon y caiff pawb sydd yn eu beddau glywed ei lais ef,
29
ac a ddeuant allan: y rhai a wnaethant bethau da i Adgyfodiad bywyd, ond y rhai a ymarferasant bethau isel‐wael i Adgyfodiad barn.
30
Ni allaf fi wneuthur dim o honof fy hun: fel yr ydwyf yn clywed, yr ydwyf yn barnu: a'm barn i sydd gyfiawn, canys nid ydwyf yn ceisio fy ewyllys fy hunan, ond ewyllys yr hwn a'm danfonodd i.
31
Os ydwyf fi yn tystiolaethu am danaf fy hun, nid yw fy nhystiolaeth i yn wir.
32
Arall ydyw yr hwn sydd yn tystiolaethu am danaf fi, ac mi wn mai gwir yw y dystiolaeth y mae yn ei thystiolaethu am danaf fi.
33
Chwychwi ydych wedi anfon at Ioan, ac y mae efe wedi tystiolaethu i'r gwirionedd:
34
ond myfi nid ydwyf yn derbyn y dystiolaeth oddiwrth ddyn: eithr y pethau hyn yr ydwyf yn eu dywedyd, fel y'ch achuber.
35
Efe oedd y llusern sydd yn llosgi ac yn goleuo, a chwithau a fynasech am dymhor byr orfoleddu yn ei oleuni ef.
36
Ond y mae genyf fi dystiolaeth fwy nag Ioan: canys y gweithredoedd y mae y Tâd wedi eu rhoddi i mi, fel eu gorphenwyf, y gweithredoedd hyny yr wyf yn eu gwneuthur sydd yn tystiolaethu am danaf fi, mai y Tâd sydd wedi fy anfon i.
37
A'r Tâd, yr hwn a'm hanfonodd i, efe sydd wedi tystiolaethu am danaf fi. Nid ydych erioed naill nac wedi clywed ei lais ef, nac wedi gweled ei wedd ef.
38
A'i air ef nid yw genych yn aros ynoch: canys yr hwn a anfonodd efe, hwnw nid ydych chwi yn ei gredu.
39
Yr ydych yn chwilio yr Ysgrythyrau: canys yr ydych yn tybied cael ynddynt hwy fywyd tragywyddol; a hwynthwy yw y rhai sydd yn tystiolaethu am danaf fi:
40
ac ni fynwch chwi ddyfod ataf fi, fel y caffoch fywyd.
41
Nid ydwyf fi yn derbyn gogoniant oddi wrth ddynion.
42
Yr ydwyf wedi eich adnabod chwi, nad oes genych gariad Duw ynoch.
43
Yr ydwyf wedi dyfod yn enw fy Nhâd, ac nid ydych yn fy nerbyn i; os arall a ddaw yn ei enw ei hun, hwnw a dderbyniwch.
44
Pa fodd y gallwch chwi gredu, gan dderbyn gogoniant oddi wrth eich gilydd, ac heb geisio y gogoniant sydd oddi wrth yr Unig Dduw?
45
Na thybiwch y cyhuddaf chwi wrth y Tâd: y mae un a'ch cyhudda chwi, Moses, yn yr hwn yr ydych wedi gobeithio.
46
Canys pe credasech i Moses, chwi a gredasech i minau; canys am danaf fi yr ysgrifenodd efe.
47
Ond os chwi ni chredwch ei Ysgrifeniadau ef, pa fodd y credwch fy ngeiriau i?
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21