bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
John 14
John 14
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 15 →
1
Na thralloder eich calon: credwch yn Nuw, credwch ynof finau hefyd.
2
Yn Nhŷ fy Nhâd y mae llawer o drigfanau: (a phe amgen, mi a ddywedaswn i chwi;) canys yr wyf fi yn myned i barotôi lle i chwi.
3
Ac os âf ac a barotoaf le i chwi, yr wyf yn dyfod drachefn, ac a'ch croesawaf ataf fi hun: fel lle yr wyf fi y byddwch chwithau hefyd.
4
A lle yr wyf fi yn myned, chwi a wyddoch y ffordd.
5
Dywed Thomas wrtho, Arglwydd, ni wyddom ni i ba le yr wyt ti yn myned; pa fodd y gwyddom y ffordd?
6
Dywed yr Iesu wrtho, Myfi yw y Ffordd, a'r Gwirionedd, a'r Bywyd: Nid oes neb yn dyfod at y Tâd ond trwof fi.
7
Ped adnabuasech fi, fy Nhâd hefyd a adnabuasech. O hyn allan yr ydych yn ei adnabod ef ac wedi ei weled.
8
Dywed Philip wrtho, Arglwydd, dangos i ni y Tâd, a digon yw i ni.
9
Dywed yr Iesu wrtho, A ydwyf fi gyhyd o amser gyd â chwi, ac nid wyt wedi fy adnabod i, Philip? Yr hwn sydd wedi fy ngweled i sydd wedi gweled y Tâd; a pha fodd yr wyt ti yn dywedyd, Dangos i ni y Tâd?
10
Onid wyt ti yn credu fy mod i yn y Tâd, a'r Tâd ynof finau? Y geiriau yr wyf yn eu dywedyd wrthych, nid o honof fy hun yr wyf yn eu llefaru: ond y Tâd yr hwn sydd yn aros ynof fi sydd yn gwneuthur ei weithredoedd.
11
Credwch fi fy mod i yn y Tâd, a'r Tâd ynof finau: ac os na wnewch, credwch fi er mwyn y gweithredoedd eu hunain.
12
Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, yr hwn sydd yn credu ynof fi, y gweithredoedd yr wyf fi yn eu gwneuthur, yntau hefyd a'u gwna: a mwy na'r rhai hyn a wna efe, oblegyd yr wyf fi yn myned at y Tâd.
13
A pha beth bynag a geisioch yn fy enw i, hyny a wnaf, fel y gogonedder y Tâd yn y Mab.
14
Os ceisiwch ddim i mi yn fy enw i, mi a'i gwnaf.
15
Os cerwch fi, chwi a gedwch fy ngorchymynion.
16
A mi a ofynaf i'r Tâd, ac efe a rydd i chwi Ddadleuydd arall, fel y byddo gyd â chwi yn dragywydd;
17
Yspryd y Gwirionedd, yr hwn ni ddichon y byd ei dderbyn, am nad yw yn ei ganfod, nac yn ei adnabod ef: yr ydych chwi yn ei adnabod ef, o herwydd y mae efe yn aros gyd â chwi, ac ynoch chwi y mae efe.
18
Nis gadawaf chwi yn amddifaid: yr wyf yn dyfod atoch chwi.
19
Eto enyd bach, a'r byd ni'm canfydda mwy; ond chwychwi a'm canfyddwch i: o herwydd fy mod i yn fyw, byw fyddwch chwithau hefyd.
20
Y dydd hwnw y gwybyddwch fy mod i yn fy Nhâd, a chwithau ynof fi, a minau ynoch chwithau.
21
Yr hwn y mae ganddo fy Ngorchymynion, ac yn eu cadw hwynt, efe yw yr hwn sydd yn fy ngharu i; a'r hwn sydd yn fy ngharu i a gerir gan fy Nhâd, a minau a'i caraf ef, ac a wnaf fy hun yn amlwg iddo.
22
Dywed Judas wrtho, nid yr Iscariot, Arglwydd, pa beth sydd wedi dygwydd dy fod ar fedr gwneuthur dy hun yn amlwg i ni, ac nid o gwbl i'r byd?
23
Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Os câr neb fi, efe a geidw fy ngair, a'm Tâd a'i câr ef, a ni a ddeuwn ato ef, ac a wnawn ein trigfa gyd âg ef.
24
Yr hwn nid yw yn fy ngharu i nid yw yn cadw fy ngeiriau: a'r gair yr ydych chwi yn ei glywed, nid eiddof fi ydyw, ond eiddo y Tâd a'm hanfonodd i.
25
Y pethau hyn yr wyf wedi eu llefaru wrthych chwi tra yn aros gyd â chwi:
26
ond y Dadleuydd, yr Yspryd Glân, yr hwn a ddenfyn y Tâd yn fy enw i, efe a ddysg i chwi bob peth, ac a ddwg ar gof i chwi bob peth a ddywedais wrthych.
27
Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd; fy nhangnefedd yr ydwyf yn ei roddi i chwi: nid fel y mae y byd yn rhoddi, yr wyf fi yn rhoddi i chwi. Na thralloder eich calon, ac na lwfrhäed.
28
Clywsoch fel y dywedais wrthych, Yr wyf yn myned ymaith, ac yr wyf yn dyfod atoch. Pe carech fi, chwi a lawenhaêch am fy mod yn myned at y Tâd; canys y mae y Tâd yn fwy na myfi.
29
Ac yn awr yr wyf wedi dywedyd i chwi cyn ei ddyfod, fel, pan ddêl, y credoch.
30
Ni lefaraf mwy lawer o bethau wrthych: canys Tywysog y byd sydd yn dyfod, ac ynof fi nid yw yn cael dim;
31
ond fel y gwypo y byd fy mod i yn caru y Tâd, ac fel y rhoddodd y Tâd orchymyn i mi, felly yr wyf yn gwneuthur. Codwch, awn oddi yma.
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 15 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21