bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
John 6
John 6
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 7 →
1
Wedi y pethau hyn aeth yr Iesu ymaith yn groes i Fôr Galilea, sef Tiberias.
2
A thyrfa fawr oedd yn ei ganlyn ef, canys yr oeddynt yn dal sylw ar ei arwyddion y rhai a wnaethai efe ar y cleifion.
3
Ond yr Iesu a aeth i fyny i'r mynydd, ac yno efe a eisteddodd gyd â'u Ddysgyblion.
4
A'r Pasc, Gŵyl yr Iuddewon, oedd yn agos.
5
Am hyny yr Iesu a ddyrchafodd ei lygaid, ac a ganfyddodd fod tyrfa fawr yn dyfod ato, ac y mae yn dywedyd wrth Philip, O ba le y gallwn brynu bara, fel y bwytâo y rhai hyn?
6
A hyn a ddywedodd efe, gan ei brofi ef: canys efe ei hun a wyddai beth yr oedd efe ar fedr ei wneuthur.
7
Philip a'i hatebodd ef, Gwerth dau can denarion o fara nid yw ddigon iddynt hwy, fel y derbynio pob un ychydig.
8
Un o'i Ddysgyblion, Andreas, brawd Simon Petr, a ddywed wrtho,
9
Y mae yma fachgenyn, a chanddo bum torth haidd, a dau bysgodyn: ond beth yw y rhai hyn i gymaint?
10
Yr Iesu a ddywedodd, Gwnewch i'r gwrywod orwedd i lawr. Ac yr oedd glaswellt lawer yn y lle. Am hyny y gwŷr a orweddasant i lawr mewn nifer ynghylch pum mil.
11
Yr Iesu gan hyny a gymmerodd y torthau, ac wedi iddo ddiolch, efe a'u rhanodd i'r rhai oedd yn eistedd i fwyta: yr un modd hefyd o'r pysgod cymaint ag a fynent.
12
A phan y digonwyd hwynt, efe a ddywed wrth ei Ddysgyblion, Cesglwch ynghyd y darnau toredig sydd yn ngweddill, fel na choller dim.
13
Am hyny hwy a'u casglasant, ac a lanwasant ddeuddeg basgedaid o'r darnau toredig o'r pum torth haidd, y rhai oedd dros ben i'r rhai a fwytasant.
14
Am hyny y dynion, pan welsant yr arwydd a wnaeth yr Iesu, a ddywedasant, Hwn yn ddiau yw y Proffwyd sydd yn dyfod i'r byd.
15
Yr Iesu gan hyny, pan wybu eu bod hwy ar fedr dyfod hyd y nod i'w gipio ymaith, fel y gwnelent ef yn frenin, a ymneillduodd drachefn i'r mynydd, wrtho ei hun.
16
A phan ddaeth yr hŵyr, ei Ddysgyblion ef a aethant i waered at y môr;
17
a hwy a aethant i gwch, ac yr oeddynt yn myned yn groes i'r môr i Capernäum. Ac yr oedd y cyfnos weithian wedi dyfod, a'r Iesu nid oedd eto wedi dyfod atynt.
18
A'r môr fel yr oedd gwynt mawr yn chwythu, oedd yn cyffroi
19
Gan hyny, wedi iddynt rwyfo ynghylch pump ar hugain neu ddeg ar hugain o ystadiau, y maent yn dal sylw ar yr Iesu yn rhodio ar y môr, ac yn dyfod yn agos at y cwch: a hwy a ofnasant.
20
Ac y mae efe yn dywedyd wrthynt, Myfi yw; nac ofnwch.
21
Yr oeddynt yn ewyllysio gan hyny gymmeryd ef i'r cwch, ac yn ebrwydd yr oedd y cwch wrth y tir yr oeddynt yn myned ymaith iddo.
22
Tranoeth, pan welodd y dyrfa oedd yn sefyll yr ochr arall i'r môr nad oedd cwch bychan arall yno ond un, ac nad aethai yr Iesu gyd â'i Ddysgyblion i'r cwch, ond myned o'i Ddysgyblion ymaith eu hunain:
23
(er hyny daeth cychod bychain o Tiberias, yn agos i'r fan lle y bwytasant y bara, wedi i'r Arglwydd roddi diolch:)
24
pan welodd y dyrfa gan hyny nad yw yr Iesu yno, na'i Ddysgyblion, hwy eu hunain a aethant i gychod bychain, ac a ddaethant i Capernaum, gan geisio yr Iesu.
25
Ac wedi iddynt ei gael ef yr ochr arall i'r môr, hwy a ddywedasant wrtho, Rabbi, pa bryd y daethost ti yma?
26
Yr Iesu a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr ydych yn fy ngheisio i, nid oblegyd i chwi weled arwyddion, eithr oblegyd i chwi fwyta o'r torthau, a'ch digoni.
27
Ymegniwch, nid am y bwyd sydd yn darfod, ond am y bwyd sydd yn parhâu i fywyd tragywyddol, yr hwn a ddyry Mab y Dyn i chwi: canys hwn a seliodd y Tâd, sef Duw.
28
Dywedasant gan hyny wrtho, Pa beth a wnawn ni, fel y gweithredom weithredoedd Duw?
29
Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Hyn yw gwaith Duw, fel y credoch yn yr hwn a anfonodd efe.
30
Dywedasant gan hyny wrtho ef, Pa arwydd yr wyt ti gan hyny yn ei wneuthur, fel y gwelom ac y credom i ti? Pa beth yr wyt ti yn ei weithredu?
31
Ein Tadau a fwytasant y manna yn yr Anialwch, fel y mae yn ysgrifenedig, Bara allan o'r Nefoedd a roddodd efe iddynt i fwyta.
32
Yr Iesu gan hyny a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Nid Moses a roddodd i chwi y Bara allan o'r Nef, ond fy Nhâd sydd yn rhoddi i chwi y Bara allan o'r Nef, y Gwir Fara.
33
Canys bara Duw yw yr hwn sydd yn dyfod i waered o'r Nef, ac yn rhoddi bywyd i'r byd.
34
Am hyny hwy a ddywedasant wrtho, Syr, Dyro i ni yn wastadol y Bara hwn.
35
Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Myfi yw Bara Bywyd: Yr hwn sydd yn dyfod ataf fi, ni newyna ddim; a'r hwn sydd yn credu ynof fi, ni sycheda ddim un amser.
36
Eithr dywedais wrthych, eich bod yn wir wedi fy ngweled i, ac ni chredwch.
37
Yr hyn oll y mae y Tâd yn ei roddi i mi, a gyrhaedda ataf fi; a'r hwn sydd yn dyfod ataf fi, nis bwriaf ef allan ddim.
38
Canys yr ydwyf wedi dyfod i waered o'r Nef, nid i wneuthur fy ewyllys fy hun, ond ewyllys yr hwn a'm hanfonodd i.
39
A hyn yw ewyllys yr hwn a'm hanfonodd i: Fod yr oll y mae efe wedi ei roddi i mi, na chollwn ddim o hono, eithr bod i mi ei adgyfodi y Dydd Diweddaf.
40
Canys hyn yw ewyllys fy Nhâd: cael i bob un sydd yn gweled y Mab, ac yn credu ynddo, fywyd tragywyddol: a bod i mi ei adgyfodi ef y Dydd Diweddaf.
41
Yr oedd yr Iuddewon gan hyny yn grwgnach am dano ef, o herwydd iddo ddywedyd, Myfi yw y Bara yr hwn a ddaeth i waered o'r Nef,
42
ac a ddywedasant, Onid hwn yw Iesu, mab Joseph, tâd a mam yr hwn a adwaenom ni? Pa fodd yr awrhon y mae efe yn dywedyd, Yr wyf fi wedi dyfod i waered o'r Nef?
43
Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Na rwgnachwch wrth eich gilydd.
44
Ni ddichon neb ddyfod ataf fi, oddi eithr i'r Tâd, yr hwn a'm hanfonodd, ei at‐dynu ef: a myfi a'i hadgyfodaf ef y Dydd Diweddaf.
45
Y mae yn ysgrifenedig yn y Proffwydi A phawb a fyddant ysgolheigion Duw. Pob un a glywodd oddi wrth y Tâd, ac a ddysgodd, sydd yn dyfod ataf fi.
46
Nid am fod neb wedi gweled y Tâd, oddi eithr yr hwn sydd oddi wrth Dduw, hwnw sydd wedi gweled y Tâd.
47
Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, yr hwn sydd yn credu, y mae ganddo fywyd tragywyddol.
48
Myfi yw Bara y Bywyd.
49
Eich Tadau a fwytasant y manna yn yr Anialwch, ac fuont feirw: hwn yw y Bara sydd yn dyfod i waered o'r Nef,
50
fel y bwytâo unrhyw un o hono, ac na byddo marw.
51
Myfi yw y Bara Bywiol, yr hwn a ddaeth i waered o'r Nef: os bwyty neb o'r Bara hwn, efe a fydd byw yn dragywydd. A'r Bara a roddaf fi, fy nghnawd i ydyw, dros fywyd y byd.
52
Yr Iuddewon gan hyny a ymrysonasant â'u gilydd, gan ddywedyd, Pa fodd y dichon hwn roddi i ni ei gnawd i'w fwyta?
53
Yr Iesu gan hyny a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Oni fwytêwch gnawd Mab y Dyn, ac oni yfwch ei waed ef, nid oes genych fywyd ynoch eich hunain.
54
Yr hwn sydd yn bwyta fy nghnawd i, ac yn yfed fy ngwaed i, sydd ganddo fywyd tragywyddol: ac myfi a'i hadgyfodaf ef y Dydd Diweddaf.
55
Canys fy nghnawd i sydd wir fwyd, a'm gwaed i sydd wir ddiod.
56
Yr hwn sydd yn bwyta fy nghnawd i, ac yn yfed fy ngwaed i, sydd yn aros ynof fi, a minau ynddo yntau.
57
Fel yr anfonodd y Tâd Bywiol fi, ac yr ydwyf fi yn byw o herwydd y Tâd; felly yr hwn sydd yn fy mwyta i, yntau a fydd byw o'm herwydd i.
58
Hwn yw y Bara a ddaeth i waered o'r Nef. Nid megys y bwytâodd y Tadau, ac y buont feirw: yr hwn sydd yn bwyta y Bara hwn a fydd byw yn dragywydd.
59
Y pethau hyn a ddywedodd efe mewn Synagog, wrth ddysgu yn Capernaum.
60
Llawer o'i Ddysgyblion gan hyny, pan glywsant, a ddywedasant, Caled yw yr ymadrodd hwn: pwy a ddichon wrando arno?
61
A'r Iesu yn gwybod ynddo ei hun fod ei Ddysgyblion yn grwgnach yn nghylch hyn, efe a ddywedodd wrthynt, A ydyw hyn yn peri i chwi dramgwydd?
62
Beth gan hyny os gwelwch Fab y Dyn yn esgyn lle yr oedd efe o'r blaen?
63
Yr Yspryd yw yr hwn sydd yn bywhâu: y cnawd nid yw yn lleshâu dim: yr ymadroddion yr wyf fi wedi eu llefaru wrthych, yspryd ydynt, a bywyd ydynt.
64
Ond y mae o honoch chwi rai nid ydynt yn credu. Canys yr Iesu a wyddai o'r dechreuad pwy oedd y rhai nid oeddynt yn credu, a phwy oedd yr hwn ai traddodai ef i fyny.
65
Ac efe a ddywedodd, O herwydd hyn yr wyf wedi dywedyd wrthych, na ddichon neb ddyfod ataf fi, oddi eithr ei fod wedi ei roddi iddo oddi wrth y Tâd.
66
Ar hyn, llawer yn mhlith ei Ddysgyblion ef a aethant ymaith at y pethau ar ol; ac nid oeddynt yn rhodio mwyach gyd âg ef.
67
Am hyny yr Iesu a ddywedodd wrth y Deuddeg, A ewyllysiwch chwithau hefyd fyned ymaith?
68
Simon Petr a atebodd iddo, Arglwydd, at bwy yr awn ni ymaith? Genyt ti y mae geiriau y bywyd tragywyddol:
69
ac yr ydym ni wedi credu, ac wedi dyfod i wybod mai Tydi yw Sanct Duw.
70
Iesu a'u hatebodd hwynt, Oni ddewisais i chwychwi y Deuddeg? Ac o honoch un sydd Ddiafol.
71
Ac efe a ddywedasai am Judas, mab Simon Iscariot; canys hwn oedd ar fedr ei draddodi ef i fyny, ac yntau yn un o'r Deuddeg.
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 7 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21