bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
John 12
John 12
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 13 →
1
Yr Iesu gan hyny, chwe diwrnod cyn y Pasc, a ddaeth i Bethania, lle yr oedd Lazarus,, yr hwn a gyfododd yr Iesu o feirw.
2
Hwy a wnaethant gan hyny swper iddo yno: a Martha oedd yn gwasanaethu; ond Lazarus oedd un o'r rhai a eisteddent wrth y bwrdd gyd âg ef.
3
Mair gan hyny gymmerodd bwys o enaint o nard pur gwerthfawr, ac a eneinoedd draed yr Iesu, ac a sychodd ei draed ef â'i gwallt: a'r tŷ a lanwyd o arogl yr enaint.
4
Gan hyny y dywed Judas, yr Iscariot,, un o'i Ddysgyblion ef, yr hwn oedd ar fedr ei draddodi ef i fyny,
5
Paham na werthwyd yr enaint hwn am dri chan denarion, a'i roddi i dlodion?
6
Ond efe a ddywedodd hyn nid am ei fod yn gofalu ynghylch y tlodion, ond am ei fod yn lleidr; a chanddo y gôd, efe a arferai ddwyn ymaith yr hyn a fwrid ynddi.
7
Dywedodd yr Iesu gan hyny, Goddef iddi, fel y cadwo hi ef erbyn dydd y parotöad i'm claddedigaeth.
8
Canys y mae genych y tlodion gyd â chwi bob amser; eithr myfi nid oes genych bob amser.
9
Gwybu gan hyny y bobl gyffredin o blith yr Iuddewon ei fod ef yno: a hwy a ddaethant, nid er mwyn yr Iesu yn unig, ond fel y gwelent Lazarus hefyd, yr hwn a gyfododd efe o feirw.
10
Eithr yr Arch‐offeiriaid a ymgynghorasant, fel y lladdent Lazarus hefyd;
11
oblegyd o'i herwydd ef llawer o'r Iuddewon oeddynt yn myned ymaith ac yn credu yn yr Iesu.
12
Tranoeth tyrfa fawr yr hon a ddaethai i'r Wyl, pan glywsant fod yr Iesu yn dyfod i Jerusalem,
13
a gymmerasant y cangau o'r palmwydd, ac a aethant allan i gyfarfod âg ef, ac a lefasant yn uchel, gan ddywedyd, Hosanna! Bendigedig yw yr Hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd! Ie, Brenin Israel!.
14
A'r Iesu wedi cael ebol asyn a eisteddodd arno, fel y mae yn ysgrifenedig, —
15
Nac ofna, Ferch Sion: Wele y mae dy Frenin yn dyfod, yn eistedd ar ebol asyn.
16
Y pethau hyn ni wybu ei Ddysgyblion ef ar y cyntaf; eithr pan ogoneddwyd yr Iesu, yna cofiasant fod y pethau hyn yn ysgrifenedig am dano, ac iddynt wneuthur y pethau hyn iddo.
17
Gan hyny yr oedd y dyrfa, yr hon oedd gyd âg ef pan alwodd efe Lazarus allan o'r bedd, ac y cyfododd ef o feirw, yn dwyn tystiolaeth.
18
O herwydd hyn hefyd yr aeth y dyrfa i gyfarfod âg ef, am glywed o honynt ei fod wedi gwneuthur yr arwydd hwn.
19
Y Phariseaid gan hyny a ddywedasant yn eu plith eu hunain, Yr ydych yn canfod nad ydych yn tycio dim. Wele, fe aeth y byd ymaith ar ei ol ef!
20
Ac yr oedd rhai Groegiaid yn mhlith y rhai a arferent fyned i fyny i addoli yn yr Wyl:
21
Y rhai hyn gan hyny a ddaethant at Philip, yr hwn oedd o Bethsaida yn Galilea, ac a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Syr, ni a ewyllysiem weled yr Iesu.
22
Y mae Philip yn dyfod, ac yn dywedyd i Andreas: y mae Andreas yn dyfod a Philip, ac y maent yn dywedyd i'r Iesu.
23
Y mae yr Iesu yn ateb iddynt, gan ddywedyd, Y mae yr Awr wedi dyfod, fel y gogonedder Mab y Dyn.
24
Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Oni syrth y gronyn gwenith i'r ddaear, a marw, y mae yn aros ei hun yn unig: eithr os bydd efe marw, y mae yn dwyn ffrwyth lawer.
25
Yr hwn sydd yn caru ei fywyd sydd yn ei golli; a'r hwn sydd yn cashâu ei fywyd yn y byd hwn a'i dyogela i fywyd tragywyddol.
26
Os gwasanaetha neb myfi, dylyned fi: a lle yr wyf fi, yno hefyd y bydd fy ngwas i; os gwasanaetha neb fi, y Tâd a'i anrhydedda ef.
27
Yn awr y mae fy enaid wedi ei gynhyrfu: a pha beth a ddywedaf? O Dâd, gwared fi allan o'r Awr hon: eithr er mwyn hyn y daethum i'r Awr hon:
28
O Dâd, gogonedda dy enw. Daeth llef gan hyny o'r Nef, Mi a'i gogoneddais, ac a'i gogoneddaf drachefn.
29
Y dyrfa gan hyny, yr hon oedd yn sefyll, ac yn clywed, a ddywedodd mai taran oedd; eraill a ddywedasant, Angel sydd wedi llefaru wrtho.
30
Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Nid er fy mwyn i y mae y llef hon wedi dyfod, ond er eich mwyn chwi.
31
Yn awr y mae barnedgaeth y byd hwn: yn awr y bwrir allan Dywysog y byd hwn.
32
A minau, os dyrchefir fi o'r ddaear, a at‐dynaf bawb ataf fi hun.
33
Ond hyn a ddywedodd efe, gan arwyddo o ba fath angeu yr oedd efe ar fedr marw.
34
Y dyrfa gan hyny a atebodd iddo, Ni a glywsom allan o'r Gyfraith fod y Crist yn aros yn dragywydd: a pha fodd yr wyt ti yn dywedyd fod yn rhaid dyrchafu Mab y Dyn? Pwy yw y Mab y Dyn hwn?
35
Dywedodd gan hyny yr Iesu wrthynt, Eto ychydig enyd y mae y Goleuni yn eich plith. Rhodiwch yn ol fel y mae y Goleuni genych, fel na oddiweddo tywyllwch chwi: a'r hwn sydd yn rhodio yn y Tywyllwch, ni ŵyr i ba le y mae yn myned.
36
Fel y mae genych y Goleuni, credwch yn y Goleuni, fel y deuwch yn Feibion goleuni. Y pethau hyn a lefarodd yr Iesu, ac a aeth ymaith, ac a guddiwyd oddi wrthynt.
37
Ac er ei fod wedi gwneuthur cymaint o arwyddion yn eu gŵydd hwynt, nid oeddynt yn credu ynddo:
38
fel y cyflawnid ymadrodd Esaiah y Proffwyd, yr hwn a ddywedodd efe, — Arglwydd, pwy a gredodd i'n cenadwri? Ac i bwy y dadguddiwyd Braich yr Arglwydd?.
39
O herwydd hyn ni allent gredu, oblegyd dywedyd o Esaiah drachefn, —
40
Y mae efe wedi dallu eu llygaid hwynt, Ac a galedodd eu calon hwynt; Fel na welent â' u llygaid, A dirnad â' u calon, A'u troi, ac i mi eu hiachâu hwynt.
41
Y pethau hyn a ddywedodd Esaiah, oblegyd iddo weled ei Ogoniant ef, ac a lefarodd am dano ef.
42
Er hyny, llawer hyd y nôd o'r penaethiaid a gredasant ynddo; ond o herwydd y Phariseaid, nid oeddynt yn gwneyd cyffes, rhag y byddent yn esgymunedig o'r Synagog:
43
canys carasant ogoniant dynion yn hytrach yn wir na gogoniant Duw.
44
A'r Iesu a lefodd, ac a ddywedodd, Yr hwn sydd yn credu ynof fi, nid yw yn credu ynof fi, ond yn yr Hwn a'm hanfonodd i.
45
A'r hwn sydd yn syllu arnaf fi sydd yn syllu ar yr Hwn a'm hanfonodd i.
46
Myfi wyf wedi dyfod yn Oleuni y byd, fel nad aroso neb sydd yn credu ynof fi yn y tywyllwch.
47
Ac os clyw neb fy ymadroddion, ac nis ceidw hwynt, myfi nid wyf yn ei farnu ef: canys ni ddaethum i farnu y byd, ond i achub y byd.
48
Yr hwn sydd yn fy niystyru i, ac heb dderbyn fy ymadroddion, y mae iddo un sydd yn ei farnu: Y Gair yr hwn a leferais, hwnw a'i barna ef yn y Dydd Diweddaf.
49
Canys myfi ni leferais allan o honof fy hun: ond y Tâd yr hwn a'm hanfonodd i, y mae efe wedi rhoddi gorchymyn i mi, beth a ddywedwn, a pha beth a lefarwn.
50
Ac mi a wn fod ei orchymyn ef yn fywyd tragywyddol: gan hyny y pethau yr wyf yn eu llefaru, fel y mae y Tâd yn dywedyd wrthyf, felly yr wyf yn llefaru.
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21