bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
John 18
John 18
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 19 →
1
Wedi i'r Iesu ddywedyd y pethau hyn, efe a aeth allan gyd â'u Ddysgyblion yn groes i geunant Kedron, lle yr oedd gardd, i'r hon yr aeth efe a'i Ddysgyblion.
2
A Judas hefyd, yr hwn oedd yn ei fradychu ef, a adwaenai y lle; oblegyd yn fynych yr ymgynullasai yr Iesu a'i Ddysgyblion yno.
3
Judas gan hyny wedi derbyn y gatrawd, ac is‐swyddogion oddi wrth yr Arch‐offeiriad a'r Phariseaid, sydd yn dyfod yno gyd â llusernau a ffaglau ac arfau.
4
Yr Iesu gan hyny, yn gwybod yr holl bethau oedd yn dyfod arno, a aeth allan ac a ddywed wrthynt, Pwy yr ydych yn ei geisio?
5
Hwy a atebasant iddo, Iesu y Nazarëad. Dywed yr Iesu wrthynt, Myfi yw. Ac yr oedd Judas hefyd, yn hwn oedd yn ei fradychu ef, yn sefyll gyd â hwynt.
6
Pan gan hyny y dywedodd efe wrthynt, Myfi yw, hwy a aethant yn ŵysg eu cefnau, ac a syrthiasant ar y ddaear.
7
Drachefn gan hyny efe a ofynodd iddynt, Pwy yr ydych chwi yn ei geisio? A hwy a ddywedasant, Iesu y Nazarëad.
8
Iesu a atebodd, Mi a ddywedais i chwi mai myfi yw: os gan hyny myfi yr ydych yn ei geisio, gadêwch i'r rhai hyn fyned ymaith;
9
fel y cyflawnid y gair yr hwn a ddywedodd efe, Y rhai yr ydwyt wedi eu rhoddi i mi, ni chollais i yr un o honynt.
10
Simon Petr gan hyny a chanddo gleddyf a'i tynodd ef, ac a darawodd was yr Arch‐offeiriad, ac a dorodd ymaith ei glust ddeheu ef. Ac enw y gwas oedd Malchus.
11
Dywedodd yr Iesu gan hyny wrth Petr, Dod y cleddyf yn y wain: y Cwpan y mae y Tâd wedi ei roddi i mi, onid yfaf ef?
12
Gan hyny y gatrawd a'r Milwriad, ac is‐swyddogion yr Iuddewon, a ddaliasant yr Iesu, ac a'i rhwymasant ef,
13
ac a'i harweiniasant at Annas yn gyntaf, canys yr oedd efe yn dad‐yn‐nghyfraith i Caiaphas, yr hwn oedd Arch‐offeiriad y flwyddyn hono.
14
A Chaiaphas oedd yr hwn a gynghorasai yr Iuddewon, mai buddiol oedd farw o un dyn dros y bobl.
15
Ac yr oedd Simon Petr a Dysgybl arall yn canlyn yr Iesu; ac yr oedd y Dysgybl hwnw yn adnabyddus i'r Arch‐offeiriad, ac efe a aeth i mewn gyd â Iesu i Lys yr Arch‐offeiriad;
16
ond Petr oedd yn sefyll wrth y drws oddi allan. Gan hyny y Dysgybl arall, yr hwn oedd adnabyddus gan yr Arch‐offeiriad, a aeth allan, ac a ddywedodd wrth y ddrysores, ac a ddygodd Petr i mewn.
17
Gan hyny dywed y forwynig ag oedd ddrysores wrth Petr, A wyt tithau hefyd yn un o Ddysgyblion y dyn hwn? Dywed yntau, Nid wyf.
18
Ac yr oedd y gweision a'r is‐swyddogion yn sefyll yno, wedi gwneuthur o honynt dân golosg, canys yr oedd hi yn oer, ac yr oeddynt yn ymdwymo: ac yr oedd Petr hefyd gyd â hwynt yn sefyll ac yn ymdwymo.
19
Yr Arch‐offeiriad gan hyny a ofynodd i'r Iesu am ei Ddysgyblion, ac am ei ddysgeidiaeth.
20
Iesu a atebodd iddo, Yr ydwyf fi wedi llefaru yn ddigêl wrth y byd: myfi yn wastadol a ddysgais mewn Synagog ac yn y Deml, lle y mae yr holl Iuddewon yn dyfod yn nghyd; ac yn ddirgel ni leferais ddim.
21
Paham yr wyt yn gofyn i mi? Gofyn i'r rhai sydd wedi clywed beth a leferais wrthynt: wele, y rhai hyn a wyddant pa bethau a ddywedais i.
22
Ac efe wedi dywedyd hyn, un o'r swyddogion yr hwn oedd yn sefyll yn ymyl a darawodd yr Iesu, gan ddywedyd, Ai felly yr wyt ti yn ateb yr Arch‐offeiriad?
23
Iesu a atebodd iddo, Os drwg y lleferais, tystiolaetha am y drwg: ond os da, paham y tarewaist fi?
24
Annas gan hyny a'i danfonodd ef wedi ei rwymo at Caiaphas yr Arch‐offeiriad.
25
Yn awr Simon Petr oedd yn sefyll ac yn ymdwymo. Hwythau gan hyny a ddywedasant wrtho, A wyt tithau hefyd o'i Ddysgyblion ef?
26
Yntau a wadodd, ac a ddywedodd, Nid wyf. Dywed un o weision yr Arch‐offeiriad, perthynas i'r hwn y torodd Petr ymaith ei glust, Oni welais i dydi yn yr ardd gyd âg ef?
27
Drachefn gan hyny y gwadodd Petr, ac yn ebrwydd ceiliog a ganodd.
28
Y maent yn arwain yr Iesu gan hyny oddi wrth Caiaphas i'r Pretorium: ac yr oedd yn fore iawn; a hwy eu hunain nid aethant i mewn i'r Pretorium, rhag eu halogi, ond fel y gallent fwyta y Pasc.
29
Pilat gan hyny a aeth y tu allan atynt hwy, ac y mae yn dywedyd, Pa gyhuddiad yr ydych chwi yn ei ddwyn yn erbyn y dyn hwn?
30
Hwy a atebasant ac a ddywedasant wrtho, oni bai fod hwn yn ddrwg‐weithredwr, ni fuasem ni wedi ei draddodi ef i ti.
31
Dywedodd Pilat wrthynt, Cymmerwch chwi ef, a bernwch ef yn ol eich Cyfraith chwi. Dywedodd yr Iuddewon wrtho, Nid cyfreithlawn i ni ladd neb:
32
fel y cyflawnid gair yr Iesu, yr hwn a ddywedodd efe, gan arwyddo o ba fath farwolaeth yr oedd efe ar fedr marw.
33
Pilat gan hyny a aeth drachefn i'r Pretorium, ac a alwodd yr Iesu, ac a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn Frenin yr Iuddewon?
34
Iesu atebodd, Ai a honot dy hun yr wyt ti yn llefaru hyn, ai eraill a ddywedasant i ti am danaf fi?
35
Pilat a atebodd, Ai Iuddew yn wir ydwyf fi? Dy Genedl dy hun a'r Arch‐offeiriaid a'th draddodasant ti i mi: beth a wnaethost ti?
36
Iesu atebodd, Fy Nheyrnas fy hun nid yw o'r byd hwn: pe o'r byd hwn y byddai fy Nheyrnas fy hun, fy ngweinidogion fy hun a fyddent yn ymorchestu, fel na'm traddodid i'r Iuddewon: ond yn awr nid yw fy Nheyrnas fy hun oddi yma.
37
Dywedodd Pilat gan hyny wrtho, Yr wyt gan hyny yn Frenin, onid wyt? Yr Iesu atebodd, Yr wyt ti yn dywedyd hyny: canys Brenin ydwyf. Yr wyf fi wedi fy ngeni i hyn, ac i hyn yr wyf wedi dyfod i'r byd, fel y tystiolaethwn i'r Gwirionedd. Pob un a'r sydd o'r Gwirionedd sydd yn gwrando ar fy llais i.
38
Dywed Pilat wrtho, Pa beth yw Gwirionedd? Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a aeth allan drachefn at yr Iuddewon, a dywed wrthynt, Nid wyf fi yn cael dim sail i gyhuddiad ynddo ef.
39
Eithr y mae genych chwi arferiad, i mi ollwng un yn rhydd i chwi ar y Pasc: a ewyllysiwch chwi gan hyny i mi ollwng yn rhydd i chwi Frenin yr Iuddewon?
40
Hwy oll gan hyny a waeddasant drachefn, gan ddywedyd, Nid hwn, ond Barabbas. Yn awr Barabbas oedd ysbeiliwr.
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 19 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21