bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
John 8
John 8
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 9 →
1
A'r Iesu a aeth i Fynydd yr Olew‐wydd.
2
A chyd â'r wawr efe a ddaeth drachefn i'r Deml, a'r holl bobl a ddaethant ato ef; ac efe a eisteddodd, ac a'u dysgodd hwynt.
3
A'r Ysgrifenyddion a'r Phariseaid a ddygasant ato wraig oedd wedi ei dal mewn godineb; ac wedi ei gosod hi yn y canol,
4
y maent yn dywedyd wrtho, Athraw, y wraig hon a ddaliwyd yn y weithred o odinebu.
5
Yn awr, Moses yn y Gyfraith a orchymynodd i ni labyddio y cyfryw: pa beth gan hyny yr wyt ti yn ei ddywedyd?
6
A hyn a ddywedasant, gan ei demtio ef, fel y cawsent beth i'w gyhuddo ef o'i blegyd. Eithr yr Iesu, wedi ymgrymu i lawr, a ysgrifenodd â'i fys ar y ddaear.
7
Ond fel yr oeddynt yn parhâu yn gofyn iddo, efe a ymunionodd, ac a ddywedodd wrthynt, Yr hwn sydd ddibechod o honoch, tafled fel y cyntaf y garreg ati.
8
Ac wedi iddo drachefn ymgrymu i lawr, efe a ysgrifenodd ar y ddaear.
9
A hwy, pan glywsant, [wedi eu hargyhoeddi gan eu cydwybod], a aethant allan o un i un, gan ddechreu o'r hynaf hyd yr olaf; a gadawyd yr Iesu yn unig, a'r wraig yn sefyll yn y canol.
10
A'r Iesu wedi ymunioni, ac yn gweled neb ond y wraig, a ddywedodd wrthi, Pa le y mae y rhai hyny oeddynt dy gyhuddwyr di? Oni chondemniodd neb di?
11
Hithau a ddywedodd, Naddo, neb, Arglwydd. A dywedodd yr Iesu wrthi, Ac hyd y nod myfi, nid wyf yn dy gondemnio di: dos, ac o hyn allan na phecha mwyach].
12
Drachefn gan hyny y llefarodd yr Iesu wrthynt, gan ddywedyd, Myfi yw Goleuni y byd: yr hwn a'm dylyno i, ni rodia yn y Tywyllwch, eithr efe a gaiff Oleuni y Bywyd.
13
Dywedodd gan hyny y Phariseaid wrtho, Tydi sydd yn tystiolaethu am danat dy hun: nid yw dy dystiolaeth di yn wir.
14
Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Hyd y nod os wyf fi yn tystiolaethu am danaf fy hun, gwir yw fy nhystiolaeth i; canys mi a wn o ba le y daethum, ac i ba le yr wyf yn myned ymaith: chwithau nis gwyddoch o ba le yr wyf yn dyfod, nac i ba le yr wyf yn myned ymaith.
15
Chwychwi sydd yn barnu yn ol y cnawd; nid wyf fi yn barnu neb.
16
Ac hyd y nod os wyf fi yn barnu, fy marn i sydd wirioneddol, canys nid wyf fi wrthyf fy hun, ond myfi a'r Tâd yr hwn a'm hanfonodd i.
17
Ie, yn eich Cyfraith chwi y mae yn ysgrifenedig, fod tystiolaeth dau ddyn yn wir.
18
Myfi yw yr hwn sydd yn tystiolaethu am danaf fy hun, ac y mae y Tâd yr hwn a'm hanfonodd i yn tystiolaethu am danaf fi.
19
Am hyny y dywedasant wrtho, Pa le y mae dy Dâd di? Yr Iesu a atebodd, Nid adwaenoch na myfi, na'm Tâd i: ped adnabuasech fi, chwi a adnabuasech fy Nhâd i hefyd.
20
Y geiriau hyn a lefarodd efe wrth y Drysorfa, wrth ddysgu yn y Deml: ac ni ddaliodd neb ef, canys nid oedd ei Awr ef eto wedi dyfod.
21
Efe a ddywedodd gan hyny wrthynt hwy drachefn, Yr wyf fi yn myned ymaith, a chwi a'm ceisiwch i, ac a fyddwch feirw yn eich pechod: lle yr wyf fi yn myned ymaith ni ellwch chwi ddyfod.
22
Am hyny dywedodd yr Iuddewon, A ladd efe ei hun? gan ei fod yn dywedyd, Lle yr wyf fi yn myned ymaith, ni ellwch chwi ddyfod.
23
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Chwychwi ydych oddi isod; minau sydd oddi uchod: chwychwi ydych o'r byd hwn; nid wyf fi o'r byd hwn.
24
Am hyny y dywedais wrthych, y byddwch feirw yn eich pechodau: oblegyd oni chredwch mai myfi yw efe, chwi a fyddwch feirw yn eich pechodau.
25
Dywedasant gan hyny wrtho ef, Pwy wyt ti? Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn hanfodol yr hyn yr wyf hefyd yn ei lefaru wrthych.
26
Y mae genyf fi lawer o bethau i'w llefaru a'u barnu am danoch chwi: ond y mae yr hwn a'm hanfonodd i yn wir; a'r pethau a glywais i oddi wrtho, y rhai hyn yr wyf fi yn eu llefaru i'r byd.
27
Hwy ni wybuasant mai am y Tâd yr oedd efe yn llefaru wrthynt.
28
Am hyny y dywedodd yr Iesu, Pan y dyrchafoch chwi Fab y Dyn, yna y deuwch i wybod mai myfi yw efe, ac nad wyf fi yn gwneuthur dim o honof fy hun, ond megys y dysgodd y Tâd fi, yr wyf yn llefaru y pethau hyn.
29
A'r hwn a'm hanfonodd i sydd gyd â mi: ni adawodd efe fi wrthyf fy hun: canys yr wyf yn gwneuthur bob amser y pethau sydd foddlawn ganddo ef.
30
Ac efe yn llefaru y pethau hyn, llawer a gredasant ynddo.
31
Yr Iesu gan hyny a ddywedodd wrth yr Iuddewon, y rhai oedd wedi ei gredu ef, Os aroswch chwi yn fy Ngair i, fy nysgyblion i ydych yn wir.
32
A chwi a ddeuwch i wybod y Gwirionedd, a'r Gwirionedd a'ch rhydd‐hâ chwi.
33
Hwy a atebasant iddo, Hâd Abraham ydym ni, ac nid ydym erioed wedi bod mewn caethiwed i neb: pa fodd yr wyt ti yn dywedyd, Chwi a wneir yn rhyddion?
34
Yr Iesu a atebodd iddynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Pob un sydd yn gwneuthur pechod, y mae efe yn gaeth‐was pechod.
35
A'r caeth‐was nid yw yn aros yn y ty byth: y Mab sydd yn aros byth.
36
Ac os y Mab a'ch rhydd‐hâ chwi, rhyddion fyddwch mewn gwirionedd.
37
Mi a wn mai hâd Abraham ydych chwi: ond yr ydych yn ceisio fy lladd i, am nad yw fy Ngair i yn enill tir ynoch chwi.
38
Yr wyf fi yn llefaru y pethau yr wyf wedi eu gweled gyd â fy Nhâd, ac yr ydych chwithau yn gwneuthur y pethau a glywsoch gyd â eich Tâd.
39
Hwythau a atebasant ac a ddywedasant wrtho, Ein Tâd ni yw Abraham. Yr Iesu a ddywed wrthynt, Os plant Abraham ydych, yr ydych yn gwneuthur gweithredoedd Abraham.
40
Eithr yn awr yr ydych yn ceisio fy lladd i, dyn yr hwn sydd wedi llefaru wrthych y Gwirionedd, yr hwn a glywais gyd â Duw: hyn ni wnaeth Abraham.
41
Yr ydych yn gwneuthur gweithredoedd eich tâd chwi. Dywedasant wrtho, Nid o buteindra y'n ganwyd ni: un Tâd sydd genym ni, Duw.
42
Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Pe Duw fyddai eich Tâd chwi, chwi a'm carech i: canys o Dduw y daethum allan ac yr wyf bresenol: canys nid ydwyf wedi dyfod ychwaith o honof fy hun, ond efe a'm hanfonodd i.
43
Paham nad ydych yn adnabod fy lleferydd i? Am nad ydych yn gallu gwrando fy Ngair i.
44
Yr ydych o'ch tâd, y Diafol; a chwantau eich tâd y mynwch chwi eu gwneuthur. Llofrudd oedd efe o'r dechreuad: ac ni safodd yn gadarn yn y Gwirionedd, oblegyd nid oes Gwirionedd ynddo ef: pan y mae un yn llefaru celwydd, o'r eiddo ei hun y mae yn llefaru; canys ei dâd ef hefyd sydd gelwyddwr.
45
Ond myfi am fy mod yn dywedyd y Gwirionedd, nid ydych yn fy nghredu.
46
Pwy o honoch a'm profa yn euog o bechod? Os wyf yn dywedyd Gwirionedd, paham nad ydych yn fy nghredu i?
47
Y mae yr hwn sydd o Dduw yn gwrando geiriau Duw: o achos hyn nid ydych chwi yn eu gwrando, oblegyd nad ydych o Dduw.
48
Yr Iuddewon a atebasant ac a ddywedasant wrtho, Onid teg yr ydym yn dywedyd mai Samariad wyt ti, a bod genyt gythraul?
49
Yr Iesu a atebodd, Nid oes genyf gythraul; ond yr wyf yn anrhydeddu fy Nhâd, ac yr ydych chwithau yn fy nianrhydeddu inau.
50
Ond nid wyf fi yn ceisio fy ngogoniant: y mae un sydd yn ceisio ac yn barnu.
51
Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Os ceidw neb fy Ngair i, ni wêl farwolaeth yn dragywydd.
52
Yr Iuddewon a ddywedasant wrtho, Yn awr yr ydym wedi dyfod i wybod fod genyt gythraul. Bu Abraham farw, a'r Proffwydi: ac meddi di, Os ceidw neb fy Ngair i, ni phrofa efe farwolaeth yn dragywydd.
53
Ai mwy wyt ti na'n Tâd Abraham, yr hwn a fu farw? A'r Proffwydi a fuant feirw; pwy yr wyt yn dy wneuthur dy hun?
54
Yr Iesu a atebodd, Pe byddai i mi ogoneddu fy hun, fy ngogoniant i nid yw ddim: fy Nhâd yw yr hwn sydd yn fy ngogoneddu i, yr hwn yr ydych chwi yn dywedyd am dano, mai eich Duw chwi ydyw.
55
Eto nid ydych wedi ei adnabod ef, ond yr wyf fi yn ei adwaen ef. Ac os dywedaf nad adwaen i ef, myfi a fyddaf debyg i chwi, yn gelwyddog: ond mi a'i hadwaen ef, ac yr wyf yn cadw ei Air ef.
56
Eich Tâd Abraham a orfoleddodd i weled fy Nydd i: ac efe a'i gwelodd, ac a lawenychodd.
57
Yr Iuddewon gan hyny a ddywedasant wrtho, Nid wyt ti eto ddengmlwydd a deugain oed, ac a ydwyt ti wedi gweled Abraham?
58
Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Cyn geni Abraham yr wyf fi.
59
Gan hyny hwy a godasant gerryg i'w taflu ato ef. Ond yr Iesu a ymguddiodd, ac a aeth allan o'r Deml.
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21