bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
John 13
John 13
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 14 →
1
A chyn Gŵyl y Pasc, yr Iesu yn gwybod ddyfod ei Awr ef fel y symudai allan o'r byd hwn at y Tâd, wedi caru yr eiddo y rhai oedd yn y byd, a'u carodd hwynt i'r eithaf: ac ar adeg swper,
2
wedi i'r Diafol eisioes roi yn nghalon Judas, mab Simon, yr Iscariot, i'w fradychu ef;
3
efe, yn gwybod roddi o'r Tâd bob peth yn ei ddwylaw ef, a dyfod o hono allan oddi wrth Dduw, a'i fod yn myned ymaith at Dduw,
4
sydd yn codi oddi wrth y swper, ac a rydd heibio ei ar‐wisgoedd, ac a gymmerodd dywel, ac a ymwregysodd:
5
yna y mae yn tywallt dwfr i'r cawg, ac a ddechreuodd olchi traed y Dysgyblion, a'u sychu â'r tywel, â'r hwn yr oedd efe wedi ei wregysu.
6
Y mae efe yn dyfod gan hyny at Simon Petr. Y mae efe yn dywedyd wrtho, Arglwydd, a wyt ti yn golchi fy nhraed i?
7
Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Y peth yr wyf fi yn ei wneuthur, ni wyddost ti yr awrhon, ond ti a ddeui i wybod ar ol y pethau hyn.
8
Petr a ddywed wrtho, Ni chei di olchi fy nhraed i o gwbl yn dragywydd. Yr Iesu a atebodd iddo, Oni olchaf di, nid oes i ti gyfran gyd â myfi.
9
Simon Petr a ddywed wrtho, Arglwydd, nid fy nhraed yn unig, ond hefyd fy nwylaw a'm pen.
10
Dywed yr Iesu wrtho, Yr hwn sydd wedi ymdrochi, nid rhaid iddo olchi ond ei draed, eithr y mae yn lân oll: ac yr ydych chwi yn lân, eithr nid pawb oll.
11
Canys efe a adwaenai yr hwn oedd yn ei fradychu ef: am hyny y dywedodd efe, Nid ydych chwi oll yn lân.
12
Gan hyny wedi iddo olchi eu traed hwy, a chymmeryd ei ar‐wisgoedd, ac eistedd drachefn wrth y bwrdd, efe a ddywedodd wrthynt, A ydych yn gwybod pa beth yr wyf wedi ei wneuthur i chwi?
13
Yr ydych chwi yn fy ngalw i, Yr Athraw, ac, Yr Arglwydd; a da y dywedwch: canys y cyfryw wyf fi.
14
Os myfi gan hyny, yr Arglwydd a'r Athraw, a olchais eich traed chwi, chwithau hefyd a ddylech olchi traed eich gilydd:
15
canys esiampl a roddais i chwi, fel megys y gwneuthum i i chwi y gwnewch chwithau hefyd.
16
Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, nid yw gwas yn fwy na'i arglwydd, nac un a ddanfonir yn fwy na'r hwn a'i danfonodd.
17
Os gwyddoch y pethau hyn, gwyn eich byd os gwnewch hwynt.
18
Nid wyf yn llefaru am danoch oll: mi a wn pwy rai a etholais: a hyn a wnaethpwyd fel y cyflawnid yr Ysgrythyr, — Yr hwn sydd yn bwyta fy mara A gododd ei sawdl yn fy erbyn i.
19
O'r pryd hwn yr wyf yn dywedyd i chwi cyn ei ddyfod, fel y credoch, pan y daw, mai myfi yw efe.
20
Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn sydd yn derbyn neb a ddanfonwyf, sydd yn fy nerbyn i; a'r hwn sydd yn fy nerbyn i, sydd yn derbyn yr hwn a'm danfonodd i.
21
A'r Iesu yn dywedyd y pethau hyn, efe a gynhyrfwyd yn yr yspryd, ac a dystiolaethodd, ac a ddywedodd, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Un o honoch a'm bradycha i.
22
Yr oedd y Dysgyblion yn edrych ar eu gilydd, gan fod mewn dyryswch am bwy y mae yn llefaru.
23
Yr oedd yn lledorwedd wrth y bwrdd yn mynwes yr Iesu un o'i Ddysgyblion, yr hwn yr oedd yr Iesu yn ei garu.
24
Y mae Simon Petr gan hyny yn amneidio ar hwnw, ac yn dywedyd wrtho, Dywed pwy yw efe am yr hwn y mae yn llefaru.
25
Ac efe, gan bwyso yn ol fel yr oedd ar ddwyfron yr Iesu, a ddywed wrtho, Arglwydd, pwy yw efe?
26
Yr Iesu gan hyny a etyb, Hwnw yw efe, i'r hwn y gwlychaf y tamaid, ac y rhoddaf ef iddo. Gan hyny wedi gwlychu y tamaid, y mae efe yn ei gymmeryd ac yn ei roddi i Judas, mab Simon Iscariot.
27
Ac ar ol y tamaid, yna yr aeth Satan i mewn iddo ef. Dywed gan hyny yr Iesu wrtho, Yr hyn yr wyt yn ei wneuthur, gwna yn fwy brysiog.
28
A hyn ni wyddai neb o'r rhai oedd yn eistedd wrth y bwrdd, i ba ddyben y dywedasai efe wrtho:
29
canys yr oedd rhai yn tybied, am fod Judas a'r göd ganddo, fod yr Iesu yn dywedyd wrtho, Pryn y pethau sydd arnom eu heisieu erbyn yr Wyl; neu, fel y rhoddai rywbeth i'r tlodion.
30
Yntau gan hyny wedi derbyn y tamaid a aeth allan yn ebrwydd. Ac yr oedd hi yn nos.
31
Pan gan hyny yr aeth efe allan, dywed Iesu, Yn awr y gogoneddwyd Mab y Dyn, a Duw a ogoneddwyd ynddo ef.
32
A Duw a'i gogonedda ef ynddo ei hun, ac a'i gogonedda ef yn ebrwydd.
33
Blant bychain, eto yr wyf enyd fechan gyd â chwi. Chwi a'm ceisiwch: ac megys y dywedais wrth yr Iuddewon, Lle yr wyf fi yn myned ymaith, nis gellwch chwi ddyfod, yr wyf yn dywedyd i chwithau hefyd yr awrhon.
34
Gorchymyn newydd yr wyf yn ei roddi i chwi, ar garu o honoch eich gilydd: y modd y cerais i chwi, bod i chwithau hefyd garu eich gilydd.
35
Yn hyn y gwybydd pawb mai Dysgyblion i mi ydych, os bydd genych gariad yn mhlith eich gilydd.
36
Dywed Simon Petr wrtho, Arglwydd, i ba le yr wyt yn myned ymaith? Iesu a atebodd, Lle yr ydwyf fi yn myned ymaith, ni elli di yn awr fy nghanlyn; eithr ti a ganlyni ar ol hyn.
37
Petr a ddywed wrtho, Arglwydd, Paham nad allaf fi dy ganlyn di yr awrhon? mi a roddaf fy einioes drosof.
38
Y mae Iesu yn ateb, Dy einioes a roddi drosof? Yn wir, yn wir, meddaf i ti, ni chân ceiliog ddim, nes i ti fy ngwadu dair gwaith.
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 14 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21