bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
John 21
John 21
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
1
Wedi y pethau hyn yr amlygodd yr Iesu ei hun drachefn i'r Dysgyblion wrth Fôr Tiberias; ac efe a amlygodd ei hun fel hyn:—
2
Yr oedd ynghyd Simon Petr, a Thomas yr hwn a elwir Didymus, a Nathanäel o Cana yn Galilea, a meibion Zededëus, a dau eraill o'i Ddysgyblion ef.
3
Dywed Simon Petr wrthynt, Yr wyf fi yn myned ymaith i bysgota. Y maent yn dywedyd wrtho, Yr ydym ninau hefyd yn dyfod gyd â thi. Hwy a aethant allan, ac a aethant i'r cwch, a'r nos hono ni ddaliasant ddim.
4
A phan oedd y wawr weithian yn tori, yr Iesu a safodd ar y traeth: er hyny ni wyddai y Dysgyblion mai yr Iesu ydyw.
5
Yr Iesu gan hyny a ddywed wrthynt, Fechgyn, A oes genych enllyn? Hwy a atebasant iddo, Nac oes.
6
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Bwriwch y rhwyd i'r tu deheu i'r cwch, a chwi a gewch. Hwy a fwriasant gan hyny, ac ni allent bellach ei thynu gan y lluaws pysgod.
7
Dywed gan hyny y Dysgybl hwnw yr oedd yr Iesu yn ei garu wrth Petr, Yr Arglwydd yw. Simon Petr gan hyny, pan glywodd, Yr Arglwydd yw, a wregysodd ei arwisg; canys yr oedd efe yn noeth, ac a fwriodd ei hun i'r môr.
8
Eithr y Dysgyblion eraill a ddaethant yn y cwch bychan (oblegyd nid oeddynt bell oddiwrth y tir, ond tua dau can cufydd), gan lusgo y rhwydaid o bysgod.
9
Pan ddaethant gan hyny allan ar y tir, y maent yn canfod tân golosg wedi ei osod, a physgod wedi eu dodi arno, a bara.
10
Dywed yr Iesu wrthynt, Dygwch o'r pysgod a ddaliasoch yn awr.
11
Simon Petr gan hyny a aeth i fyny i'r cwch, ac a dynodd y rhwyd i'r tir, yn llawn o bysgod mawrion, cant a thri ar ddeg a deugain: ac er bod cymaint, ni thorodd y rhwyd.
12
Dywed yr Iesu wrthynt, Deuwch, bwytêwch foreu‐fwyd. Ac ni feiddiai neb o'r Dysgyblion ei holi yn fanwl, Pwy wyt ti, gan eu bod yn gwybod mai yr Arglwydd ydyw.
13
Y mae yr Iesu yn dyfod, ac yn cymmeryd y bara, ac yn rhoddi iddynt, a'r pysgod yr un modd.
14
Hon weithian oedd y drydedd waith yr amlygwyd yr Iesu i'r Dysgyblion, wedi ei gyfodi o feirw.
15
Wedi iddynt gan hyny gymmeryd boreu‐fwyd, dywed yr Iesu wrth Simon Petr, Simon, mab Ioan, A wyt ti yn fy ngharu i yn fwy na'r rhai hyn? Dywed yntau wrtho, Ydwyf, Arglwydd, Ti a wyddost fy mod yn dy hoffi di. Dywed yntau wrtho, Portha fy wyn.
16
Dywed wrtho drachefn yr ail waith, Simon, mab Ioan, A wyt ti yn fy ngharu i? Dywed yntau wrtho, Ydwyf, Arglwydd; ti a wyddost fy mod yn dy hoffi di. Dywed yntau wrtho, Bugeilia fy nefaid.
17
Dywed efe wrtho y drydedd waith, Simon, mab Ioan, A wyt ti yn fy hoffi i? Petr a dristawyd am iddo ddywedyd wrtho y drydedd waith, A wyt ti yn fy hoffi i? Ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, ti a wyddost bob peth; ti ydwyt yn canfod fy mod yn dy hoffi di. Iesu a ddywed wrtho, Portha fy nefaid.
18
Yn wir, yn wir, meddaf i ti, pan oeddit ieuengach, ti a wregysaist dy hun, ac a rodiaist lle y mynaist; eithr pan heneiddi, ti a estyni dy ddwylaw, ac arall a'th wregysa, ac a'th gluda lle ni fynit.
19
A hyn a ddywedodd efe, gan arwyddo trwy ba fath farwolaeth y gogoneddai Dduw. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, dywed wrtho, Canlyn fi.
20
Petr wedi troi, sydd yn gweled y Dysgybl yr oedd yr Iesu yn ei garu yn canlyn; yr hwn hefyd a bwysodd yn ol yn y Swper ar ei fynwes ef, ac a ddywedodd, Arglwydd, pwy yw yr hwn sydd yn dy fradychu di?
21
Petr gan hyny wrth ei weled ef, a ddywed wrth yr Iesu, Arglwydd, A beth fydd i hwn?
22
Dywed yr Iesu wrtho, Os ewyllysiaf iddo aros hyd oni ddelwyf, beth yw hyny i ti? Canlyn fi.
23
Y gair hwn gan hyny a aeth allan yn mhlith y Brodyr, Nid yw y Dysgybl hwnw i farw: eto ni ddywedodd yr Iesu wrtho, Nid yw efe i farw; ond, Os ewyllysiaf iddo aros hyd oni ddelwyf, beth yw hyny i ti?
24
Hwn yw y Dysgybl sydd yn tystiolaethu am y pethau hyn, ac a ysgrifenodd y pethau hyn: ac yr ydym yn gwybod fod ei dystiolaeth ef yn wir.
25
Ac y mae hefyd lawer o bethau eraill a wnaeth yr Iesu, y rhai ped ysgrifenid hwy bob yn un ac un, yr wyf yn tybied na chynwysai hyd y nod y byd ei hun y llyfrau a ysgrifenid. YN OL IOAN.
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21