bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
John 17
John 17
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 16
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 18 →
1
Y pethau hyn a lefarodd yr Iesu; a chan godi ei lygaid i'r Nef, efe a ddywedodd, O Dâd, y mae yr Awr wedi dyfod: gogonedda dy Fab, fel y gogoneddo y Mab dithau:
2
megys y rhoddaist iddo awdurdod ar bob cnawd, fel, yr hyn oll yr ydwyt wedi ei roddi iddo, y rhoddai iddynt Fywyd Tragywyddol.
3
A hyn yw y Bywyd Tragywyddol: Fel y deuant i dy adnabod di, yr Unig Wirioneddol Dduw, a'r hwn a ddanfonaist, Iesu Grist.
4
Mi a'th ogoneddais di ar y ddaear, gan gwblhâu y gwaith yr wyt wedi ei roddi i mi i'w wneuthur.
5
Ac yn awr, O Dâd, gogonedda di fyfi gyd â thi dy hun â'r gogoniant oedd genyf fi cyn bod y byd gyd â thydi.
6
Mi a amlygais dy enw i'r dynion a roddaist i mi allan o'r byd: eiddot ti oeddynt, a thi a'u rhoddaist hwynt i mi; ac y maent wedi cadw dy air di.
7
Yn awr y gwyddant mai oddi wrthyt ti y mae pob peth bynag a roddaist i mi:
8
canys y geiriau a roddaist i mi yr wyf wedi eu rhoddi iddynt hwy; a hwy eu hunain a'u derbyniasant, ac a wybuant yn wir mai oddi wrthyt ti y daethum allan, ac a gredasant mai tydi a'm danfonaist i.
9
Yr wyf yn gofyn drostynt hwy: nid wyf yn gofyn dros y byd, ond dros y rhai yr wyt wedi eu rhoddi i mi; canys eiddot ti ydynt.
10
A'r holl bethau ydynt eiddof fi sydd eiddot ti, a'r pethau sydd eiddot ti sydd eiddof fi, ac yr wyf wedi fy ngogoneddu ynddynt.
11
Ac nid wyf mwyach yn y byd, a'r rhai hyn sydd yn y byd, ac yr wyf fi yn dyfod atat ti. O Dâd Sanctaidd, cadw hwynt yn dy enw, yr hwn wyt wedi ei roddi i mi, fel y byddont un, megys ninau.
12
Pan yr oeddwn gyd â hwynt, mi a'u cedwais yn dy enw yr hwn wyt wedi ei roddi i mi; ac mi a'u gwyliais, a neb o honynt ni chollwyd ond Mab y Golledigaeth, fel y cyflawnid yr Ysgrythyr.
13
Ond yn awr yr wyf yn dyfod atat ti; a'r pethau hyn yr wyf yn eu llefaru yn y byd, fel y caffont fy llawenydd i yn gyflawn ynddynt eu hunain.
14
Yr ydwyf wedi rhoddi iddynt hwy dy Air, a'r byd a'u cashâodd hwynt, oblegyd nad ydynt o'r byd, megys nad wyf finau o'r byd.
15
Nid wyf yn gofyn ar i ti eu cymmeryd hwynt allan o'r byd, eithr ar i ti eu cadw hwynt allan o law yr Un Drwg.
16
O'r byd nid ydynt, megys nad wyf finau o'r byd.
17
Cysegra hwynt yn y Gwirionedd: dy Air sydd wirionedd.
18
Fel yr anfonaist fi i'r byd, minau hefyd a'u hanfonais hwythau i'r byd.
19
Ac er eu mwyn hwy yr wyf yn cysegru fy hun, fel y byddont hwythau hefyd wedi eu cysegru mewn gwirionedd.
20
Nid wyf yn gofyn dros y rhai hyn yn unig, ond hefyd dros y rhai sydd yn credu ynof fi drwy eu hymadrodd hwy;
21
fel y byddont oll yn un: megys yr wyt ti Dâd ynof fi, a minau ynot ti, fel y byddont hwythau hefyd ynom ni: fel y credo y byd mai tydi a'm hanfonaist i.
22
A'r gogoniant yr wyt wedi ei roddi i mi yr wyf finau wedi ei roddi iddynt hwy, fel y byddont un, megys yr ydym ni yn un:
23
myfi ynddynt hwy, a thithau ynof fi, fel y byddont wedi eu perffeithio yn un; fel y gwypo y byd mai tydi a'm hanfonaist i, a charu o honot hwynt, fel y ceraist fi.
24
Dâd, yr hyn yr ydwyt wedi ei roddi i mi, yr wyf yn ewyllysio, lle yr wyf fi, fod o honynt hwythau hefyd gyd â mi, fel yr edrychont ar fy ngogoniant yr hwn wyt wedi ei roddi i mi; oblegyd ti a'm ceraist i cyn seiliad y byd.
25
O Dâd Cyfiawn, ac eto nid adnabu y byd dydi; ond mi a'th adnabum, a'r rhai hyny a wybu mai tydi a'm hanfonaist i:
26
ac mi a hysbysais iddynt dy enw, ac a'i hysbysaf, fel y byddo y cariad â'r hwn y ceraist fi ynddynt hwy, a minau ynddynt hwy.
← Chapter 16
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 18 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21