bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
John 20
John 20
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 21 →
1
Ond ar y Dydd Cyntaf o'r wythnos mae Mair Magdalen yn dyfod yn fore, a hi eto yn dywyll, at y bedd, ac y mae yn gweled y maen wedi ei godi ymaith o'r bedd.
2
Y mae hi yn rhedeg gan hyny, ac yn dyfod at Simon Petr a'r Dysgybl arall, yr hwn yr oedd yr Iesu yn ei hoffi, ac yn dywedyd wrthynt, Hwy a ddygasant yr Arglwydd allan o'r bedd, ac ni wyddom ni pa le y dodasant ef.
3
Petr gan hyny a aeth allan, a'r Dysgybl arall, ac yr oeddynt yn myned tu ag at y bedd;
4
a hwy a ddechreuasant redeg ill dau ynghyd; a'r Dysgybl arall a redodd o'r blaen yn gynt na Phetr, ac a ddaeth gyntaf at y bedd;
5
a chan ymgrymu y mae efe yn canfod y llieiniau yn gorwedd; er hyny nid aeth efe i mewn.
6
Y mae Simon Petr gan hyny hefyd yn dyfod, yn ei ganlyn ef, ac a aeth i mewn i'r bedd, ac y mâe yn craffu ar y llieiniau yn gorwedd,
7
a'r napcyn a fuasai am ei ben ef, nid yn gorwedd gyd â y llieiniau, ond ar wahan wedi ei blygu mewn un lle.
8
Yna gan hyny yr aeth y Dysgybl arall hefyd i mewn, yr hwn a ddaethai gyntaf at y bedd, ac efe a welodd, ac a gredodd.
9
Canys hyd yn hyn ni wyddent yr Ysgrythyr, fod yn rhaid iddo adgyfodi o feirw.
10
Gan hyny y Dysgyblion a aethant ymaith drachefn i'w cartref‐leodd.
11
Ond Mair oedd yn sefyll wrth y bedd oddi allan yn wylo. Tra yr oedd hi gan hyny yn wylo, hi a ymgrymodd i lawr i'r bedd,
12
ac y mae hi yn syllu ar ddau angel mewn gwyn yn eistedd, un wrth y pen, ac un wrth y traed, lle y dodasid corff yr Iesu.
13
Ac y maent hwy yn dywedyd wrthi hi, O Wraig, paham yr ydwyt yn wylo? Hithau a ddywed wrthynt, Am ddwyn o honynt ymaith fy Arglwydd i, ac nas gwn pa le y dodasant ef.
14
Ac wedi iddi ddywedyd y pethau hyn, hi a drodd drach ei chefn, ac y mae yn syllu ar Iesu yn sefyll, ac ni wyddai mai Iesu oedd.
15
Iesu a ddywed wrthi, O wraig, paham yr wyt ti yn wylo? pwy yr wyt ti yn ei geisio? Hithau yn tybied mai y garddwr yw efe, a ddywed wrtho, Syr, os tydi a'i dygaist ef ymaith, dywed i mi pa le y dodaist ef, a myfi a'i cymmeraf ef ymaith.
16
Yr Iesu a ddywed wrthi, Mair! Hithau, wedi troi, a ddywed wrtho yn Hebraeg, Rabboni, yr hyn yw dywedyd, Athraw.
17
Dywed Iesu wrthi, Na ddal afael ynof; canys nid wyf fi eto wedi esgyn at y Tâd: eithr dos at fy mrodyr, a dywed wrthynt, Yr wyf yn esgyn at fy Nhâd i a'ch Tâd chwithau, a'm Duw i a'ch Duw chwithau.
18
Mae Mair Magdalen yn dyfod gan hysbysu i'r Dysgyblion, Yr wyf fi wedi gweled yr Arglwydd; ac iddo ddywedyd y pethau hyn wrthi.
19
Pan oedd hi gan hyny yn hŵyr, ar y Dydd hwnw, y Cyntaf o'r wythnos, a'r drysau yn gauad lle yr oedd y Dysgyblion, o achos ofn yr Iuddewon, daeth yr Iesu, ac a safodd yn y canol, a dywed wrthynt, Tangnefedd i chwi.
20
Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddangosodd iddynt ei ddwylaw a'i ystlys. Yna y Dysgyblion a lawenychasant pan welsant yr Arglwydd.
21
Dywedodd efe gan hyny wrthynt drachefn, Tangnefedd i chwi. Fel y mae y Tâd wedi fy anfon i, yr wyf fi hefyd yn eich anfon chwi.
22
Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a anadlodd arnynt, ac a ddywedodd wrthynt, Cymmerwch chwi Yspryd Glân:
23
pechodau pwy bynag a faddeuoch, y maent wedi eu maddeu iddynt; ac eiddo pwy bynag a ddeliwch yn dyn, y maent wedi eu dal yn dyn.
24
Eithr Thomas, un o'r Deuddeg, yr hwn a elwir Didymus, nid oedd gyd â hwynt pan ddaeth yr Iesu.
25
Yr oedd y Dysgyblion eraill gan hyny yn dywedyd wrtho, Yr ydym ni wedi gweled yr Arglwydd. Ond dywedodd efe wrthynt, Oni châf fi weled yn ei ddwylaw ôl yr hoelion, a dodi fy mys yn ol yr hoelion, a dodi fy llaw yn ei ystlys ef, ni chredaf o gwbl.
26
Ac wedi wyth niwrnod drachefn yr oedd ei Ddysgyblion ef i mewn, a Thomas gyd â hwynt. Mae yr Iesu yn dyfod, a'r drysau yn gauad, ac a safodd yn y canol, ac a ddywedodd, Tangnefedd i chwi.
27
Yna y dywed efe wrth Thomas, Estyn yma dy fys, a gwel fy nwylaw; ac estyn dy law, a dod yn fy ystlys: ac na fydd anghrediniol, ond credinol.
28
Thomas a atebodd ac a ddywedodd wrtho, FY ARGLWYDD A'M DUW.
29
Yr Iesu a ddywed wrtho, Am dy fod wedi fy ngweled,, yr ydwyt wedi credu: bendigedig yw y rhai ni welsant, ac a gredasant.
30
Llawer ac arwyddion eraill gan hyny a wnaeth yr Iesu yn ngŵydd y Dysgyblion, y rhai nid ydynt ysgrifenedig yn y Llyfr hwn:
31
ond y mae y pethau hyn wedi eu hysgrifenu fel y credoch chwi mai yr Iesu yw y Crist, Mab Duw: a chan gredu y caffoch fywyd yn ei enw ef.
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 21 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21