bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
John 19
John 19
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 20 →
1
Yna gan hyny y cymmerodd Pilat yr Iesu, ac a'i fflangellodd.
2
A'r milwyr a blethasant goron o ddrain, ac a'i gosodasant ar ei ben ef, ac a roisant wisg uchaf o borphor am dano:
3
a hwy a ddaethant ato ef, ac a ddywedasant, Henffych well, Brenin yr Iuddewon. A hwy a roisant iddo gernodiau.
4
A Philat aeth y tu allan drachefn, ac a ddywed wrthynt, Wele, yr wyf fi yn ei ddwyn ef y tu allan i chwi, fel y gwypoch nad wyf fi yn cael sail i gyhuddiad ynddo ef.
5
Yr Iesu gan hyny a ddaeth y tu allan, yn gwisgo y goron ddrain a'r wisg borphor; a dywed Pilat wrthynt, Wele y Dyn!
6
Pan gan hyny y gwelodd yr Arch‐offeiriaid a'r Is‐swyddogion ef, hwy a lefasant allan, gan ddywedyd, Croeshoelia, Croeshoelia. Dywed Pilat wrthynt, Cymmerwch chwi ef, a chroeshoeliwch; canys nid wyf fi yn cael sail cyhuddiad ynddo ef.
7
Yr Iuddewon a atebasant iddo, Y mae genym ni Gyfraith, ac yn ol y Gyfraith, efe a ddylai farw, am iddo wneuthur ei hun yn Fab Duw.
8
Pan glybu Pilat gan hyny yr ymadrodd hwn, efe a ofnodd yn fwy,
9
ac efe a aeth i mewn drachefn i'r Pretorium, a dywed wrth yr Iesu, O ba le yr wyt ti? Ond ni roddodd yr Iesu ateb iddo.
10
Dywed Pilat gan hyny wrtho, Oni leferi di wrthyf fi? Ai ni wyddost fod genyf awdurdod i'th ryddhâu di, a bod genyf awdurdod i'th groeshoelio?
11
Iesu a atebodd iddo, Ni byddai i ti unrhyw awdurdod yn fy erbyn i, oni bai ei fod wedi ei roddi i ti oddi uchod: o herwydd hyn y mae ar yr hwn sydd yn fy nhraddodi i ti bechod mwy.
12
Ar hyn, yr oedd Pilat yn ceisio ei ryddhâu ef, ond yr Iuddewon a lefasant allan, gan ddywedyd, Os gollyngi di hwn yn rhydd, nid ydwyt gyfaill i'r Cesar: pob un a'r sydd yn gwneuthur ei hun yn frenin sydd yn dywedyd yn erbyn y Cesar.
13
Pilat gan hyny, pan glywodd y geiriau hyn, a ddygodd yr Iesu y tu allan, ac a eisteddodd ar orsedd‐fainc mewn lle a elwir Palmant, ond yn Hebraeg, Gabbatha.
14
Ac yr oedd yn ddydd Parotöad y Pasc, ac ynghylch y chweched awr: a dywed wrth yr Iuddewon, Wele eich Brenin!
15
Hwythau gan hyny a lefasant, Ymaith âg ef, ymaith âg ef, croeshoelia ef. Pilat a ddywed wrthynt, A groeshoeliaf eich Brenin chwi? Yr Arch‐offeiriaid a atebasant, Nid oes genym Frenin ond Cesar.
16
Yna y traddododd efe ef iddynt hwy fel y croeshoelient ef. Gan hyny hwy a gymmerasant yr Iesu.
17
A chan ddwyn y groes iddo ei hun, efe a aeth allan i'r lle a elwir Lle Penglog, yr hwn a elwir yn Hebraeg, Golgotha:
18
lle y croeshoeliasant ef, a chyd âg ef ddau eraill, un o bob tu, a'r Iesu yn y canol.
19
A Philat hefyd a ysgrifenodd deitl, ac a'i gosododd ar y groes. Ac yr oedd yn ysgrifenedig, IESU O NAZARETH, BRENIN YR IUDDEWON.
20
Y teitl hwn gan hyny a ddarllenodd llawer o'r Iuddewon; canys agos i'r Ddinas oedd y fan lle y croeshoeliwyd yr Iesu: ac yr oedd wedi ei ysgrifenu yn Hebraeg, Lladin, a Groeg.
21
Dywedodd gan hyny Arch‐offeiriaid yr Iuddewon wrth Pilat, Nac ysgrifena, Brenin yr Iuddewon; ond Efe a ddywedodd, Brenin yr Iuddewon ydwyf fi.
22
Pilat a atebodd, Yr hyn wyf wedi ysgrifenu wyf wedi ysgrifenu.
23
Y milwyr gan hyny, pan groeshoeliasant yr Iesu, a gymmerasant ei wisgoedd uchaf, ac a wnaethant bedair rhan, i bob milwr ran: hefyd yr is‐wisg. Yn awr, ei is‐wisg oedd ddiwniad, wedi ei gwau o'r cwr uchaf drwyddi oll.
24
Dywedasant gan hyny wrth eu gilydd, Na rwygwn hi, ond bwriwn goel‐brenau am dani, eiddo pwy fydd hi: fel y cyflawnid yr Ysgrythyr, Rhanasant fy nillad yn eu mysg eu hunain, Ac ar fy ngwisg y bwriasant goel‐bren. Y pethau hyn gan hyny a wnaeth y milwyr.
25
Ac yr oedd yn sefyll wrth groes yr Iesu ei fam ef, a chwaer ei fam ef, Mair gwraig Clopas, a Mair Magdalen.
26
Iesu gan hyny yn gweled ei Fam, a'r Dysgybl, yr hwn oedd efe yn ei garu, yn sefyll yn ymyl, a ddywed wrth ei Fam, O wraig, wele dy Fab!
27
Yna y dywed efe wrth y Dysgybl, Wele dy Fam! Ac o'r Awr hono y cymmerodd y Dysgybl hi i'w gartref ei hun.
28
Wedi hyn, yr Iesu yn gwybod fod pob peth weithian wedi ei orphen, fel y cyflawnid yr Ysgrythyr, a ddywed, Y mae syched arnaf.
29
Yr oedd yno lestr wedi ei osod yn llawn o finegr: gan hyny hwy a osodasant ysbwng llawn o finegr ar isop, ac a'i dygasant at ei enau ef.
30
Pan dderbyniodd yr Iesu gan hyny y finegr, dywedodd, Gorphenwyd: ac efe a blygodd ei ben, ac a roddodd i fyny yr yspryd.
31
Yr Iuddewon gan hyny, gan ei bod y Parotoad, fel nad arosai y cyrff ar y groes ar y Sabbath (canys Diwrnod Mawr oedd y Sabbath hwnw), a ofynasant i Pilat fel y gellid tori eu coesau hwynt, a'u cymmeryd hwynt ymaith.
32
Daeth y milwyr gan hyny, ac a dorasant goesau y cyntaf, a'r llall a groeshoeliasid gyd âg ef:
33
eithr wedi dyfod at yr Iesu, pan welsant ef wedi marw eisioes, ni thorasant ei goesau ef;
34
ond un o'r milwyr â gwaywffon a wanodd ei ystlys, ac yn ebrwydd y daeth allan waed a dwfr.
35
A'r hwn sydd wedi gweled sydd wedi tystiolaethu, a gwirioneddol yw ei dystiolaeth ef: ac efe a ŵyr ei fod yn dywedyd pethau gwir fel y credoch chwithau hefyd.
36
Canys y pethau hyn a wnaethpwyd, fel y cyflawnid yr ysgrythyr, — Ni friwir asgwrn o hono.
37
A thrachefn ysgrythyr wahanol sydd yn dywedyd, Hwy a edrychant tu ag at yr hwn a drywanasant.
38
Ac ar ol y pethau hyn, Joseph o Arimathea, yr hwn oedd Ddysgybl yr Iesu, eithr yn guddiedig o herwydd ofn yr Iuddewon, a ofynodd i Pilat fel y cymmerai ymaith gorff yr Iesu: a Philat a ganiatâodd. Efe a ddaeth gan hyny, ac a gymmerodd ef gorff ef ymaith.
39
A daeth Nicodemus hefyd, yr hwn a ddaethai ar y cyntaf ato yn y nos, gan ddwyn rhol o fyrr ac aloes tua chàn pwys.
40
Felly y cymmerasant gorff yr Iesu, ac a'i rhwymasant ef mewn llieiniau gyd â y peraroglau, fel y mae arfer yr Iuddewon i gladdu.
41
Yn awr yn y man lle y croeshoeliasid ef yr oedd gardd; ac yn yr ardd yr oedd bedd newydd, yn yr hwn ni ddodasid neb erioed.
42
Yno gan hyny, o herwydd Parotöad yr Iuddewon, canys yr oedd y bedd yn agos, y dodasant yr Iesu.
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 20 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21