bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Revelation 10
Revelation 10
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 11 →
1
A gwelais angel cryf arall yn disgyn o'r nef, wedi ei wisgo â chwmwl, a'r enfys oedd uwch ei ben, a'i wyneb fel yr haul, a'i draed fel colofnau o dân;
2
a chanddo yn ei law lyfryn bychan wedi ei agor. Ac efe a osododd ei droed ddehau ar y môr, a'r aswy ar y tir;
3
ac a lefodd â llef uchel, fel y rhua llew; a phan lefodd, y saith daran a roddasant allan eu llefau eu hunain.
4
A phan lefarodd y saith daran, yr oeddwn ar ysgrifennu, a chlywais lais o'r nef yn dywedyd, Selia y pethau a lefarodd y saith daran, ac nac ysgrifenna hwynt.
5
A'r angel yr hwn a welais yn sefyll ar y môr ac ar y tir a gododd ei law ddehau i'r nef,
6
ac a dyngodd i'r hwn sydd yn byw yn oes oesoedd, yr hwn a greodd y nef a'r pethau sydd ynddi, a'r ddaear, a'r pethau sydd ynddi, a'r môr a'r pethau sydd ynddo, Ni fydd oediad mwyach;
7
eithr yn nyddiau llef y seithfed angel pan mae efe ar fedr udganu, y gorphennir hefyd ddirgelwch Duw, fel yr efengylodd efe i'w weision ei hun, y prophwydi.
8
A'r llef yr hon a glywais o'r nef, a glywais drachefn yn llefaru wrthyf, ac yn dywedyd, Dos, cymer y Llyfr bychan sydd yn agored yn llaw yr angel sydd yn sefyll ar y môr ac ar y tir.
9
Ac aethum ymaith at yr angel, gan ddywedyd wrtho roddi i mi y Llyfryn bychan. A dywed wrthyf, Cymer a bwyta ef; ac efe a chwerwa dy fòl di, eithr yn dy enau y bydd felus fel mêl.
10
A chymerais y Llyfryn bychan o law yr angel, a bwytëais ef; ac yr oedd efe yn fy ngenau megys mêl yn felus; a phan fwytëais ef, chwerwyd fy mòl.
11
Ac y maent yn dywedyd wrthyf, Rhaid i ti brophwydo eto mewn perthynas i bobloedd a chenhedloedd ac ieithoedd a brenhinoedd lawer.
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 11 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22