bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Revelation 4
Revelation 4
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 5 →
1
Ar ol y pethau hyn gwelais, ac wele ddrws wedi ei agoryd yn y nef, a'r llais cyntaf yr hwn a glywais, fel llais udgorn yn llefaru â mi, yn dywedyd, Tyred i fyny yma, a danghosaf i ti y pethau y mae rhaid iddynt ddygwydd ar ol hyn.
2
Yn ebrwydd yr oeddwn yn yr Yspryd: ac wele, yr oedd gorsedd wedi ei gosod yn y nef, ac ar yr Orsedd Un yn eistedd;
3
a'r hwn oedd yn eistedd oedd yn debyg yr olwg arno i faen iaspis a sardin: ac yr oedd enfys o amgylch yr orsedd yn debyg yr olwg arno i smaragdus.
4
Ac o gylch yr Orsedd yr oedd pedair gorsedd ar hugain, ac ar y gorseddau y gwelais bedwar henuriad ar hugain yn eistedd, wedi eu gwisgo mewn dillad gwynion; ac ar eu pennau goronau aur.
5
Ac o'r Orsedd y mae yn dyfod allan fellt, a lleisiau, a tharanau. A saith o ffaglau tân oedd yn llosgi ger bron yr Orsedd, y rhai yw saith Yspryd Duw.
6
Ac o flaen yr Orsedd yr oedd fel pe bai môr o wydr, yn debyg i risial; ac yng nghanol yr Orsedd, ac yng nghylch yr Orsedd yr oedd pedwar creadur byw yn llawn o lygaid o'r tu blaen ac o'r tu ol.
7
A'r creadur cyntaf oedd debyg i lew, a'r ail greadur yn debyg i lo, a'r trydydd creadur oedd ganddo wyneb fel eiddo dyn, a'r pedwerydd creadur oedd debyg i eryr yn ehedeg.
8
A'r pedwar creadur byw, a chanddynt chwech o adenydd bob un, ydynt yn llawn llygaid o amgylch ac oddi fewn; a gorphwys nid oes iddynt ddydd a nos, gan ddywedyd, Sanct, Sanct, Sanct, yw yr Arglwydd Dduw, yr Hollalluog, yr Hwn oedd, a'r Hwn sydd, a'r Hwn sydd yn dyfod.
9
A phan fydd i'r creaduriaid byw roddi gogoniant ac anrhydedd a diolch i'r hwn sydd yn eistedd ar yr Orsedd, i'r hwn sydd yn byw yn oes oesoedd,
10
syrth y pedwar henuriad ar hugain ger bron yr hwn sydd yn eistedd ar yr Orsedd, ac addolant yr hwn sydd yn byw yn oes oesoedd, a bwriant eu coronau ger bron yr Orsedd, gan ddywedyd,
11
Teilwng wyt ti, ein Harglwydd a'n Duw, i dderbyn y gogoniant, a'r anrhydedd, a'r gallu: canys ti a greaist bob peth, ac o herwydd dy ewyllys di yr oeddent, ac y crewyd hwynt.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22