bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Revelation 12
Revelation 12
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 13 →
1
Ac arwydd mawr a welwyd yn y nef, Gwraig wedi ei gwisgo â'r haul, a'r lleuad dan ei thraed, ac ar ei phen goron o ddeuddeg seren;
2
a hi yn feichiog: a gwaeddi y mae hi mewn gwewyr, ac mewn poen i esgor.
3
A gwelwyd arwydd arall yn y nef, ac wele Ddraig goch fawr, a saith ben iddi a deg corn, ac ar ei phennau saith deyrn‐goron;
4
a'i chynffon hi sydd yn tynnu trydedd ran sêr y nef, ac a'u bwriodd hwynt i'r ddaear. A'r Ddraig a safodd ger bron y Wraig oedd ar fedr esgor, i ddifa ei phlentyn hi pan esgorai hi arno.
5
A hi a esgorodd ar fab gwrryw, yr hwn sydd ar fedr bugeilio yr holl genhedloedd â gwialen haiarn: a chipiwyd ei phlentyn hi i fyny at Dduw, ac at ei Orsedd ef;
6
a'r Wraig a ffôdd i'r anialwch, lle y mae ganddi yno le wedi ei barotoi gan Dduw, fel y porthent hi yno fil a deucant a thri‐ugain o ddyddiau.
7
A dygwyddodd rhyfel yn y nef: Michael a'i angelion yn rhyfela â'r Ddraig; a'r Ddraig a ryfelodd, a'i hangelion;
8
ac ni orfuant, a'u lle hwynt ni chafwyd mwyach yn y nef.
9
A bwriwyd i lawr y Ddraig fawr, yr hen Sarph, yr hon a elwir Diafol a Satan, yr hon sydd yn arwain ar gyfeiliorn y byd oll: a hi a fwriwyd i lawr i'r ddaear, a'i hangelion gyda hi.
10
A chlywais lef fawr yn y nef, yn dywedyd, Yn awr y daeth yr iachawdwriaeth a'r gallu, a Theyrnas ein Duw, ac awdurdod ei Grist ef; canys bwriwyd i lawr gyhuddwr ein brodyr, yr hwn sydd yn eu cyhuddo hwy ger bron ein Duw ni ddydd a nos.
11
A hwy a'i gorchfygasant ef o herwydd gwaed yr Oen, ac o herwydd Gair eu tystiolaeth hwynt; ac ni charasant eu bywyd hyd angau.
12
O herwydd hyn ymhyfrydwch, O nefoedd, a'r rhai sydd yn trigo ynddynt. Gwae i'r ddaear a'r môr, canys y Diafol a ddisgynnodd i lawr atoch, a chanddo lid mawr, gan wybod fod ei dymor yn fyr.
13
A phan welodd y Ddraig ei bwrw i'r ddaear, hi a erlidiodd y Wraig a esgorasai ar y plentyn gwrryw.
14
A rhoddwyd i'r Wraig ddwy aden yr Eryr mawr, fel yr ehedai i'r anialwch, i'w lle, yn yr hwn y maethir hi am amser, ac amseroedd, a hanner amser, oddi wrth wyneb y Sarph.
15
A'r Sarph a fwriodd allan o'i safn ar ol y Wraig ddwfr megys afon, fel yr achosai ei dwyn hi ymaith gyda'r ffrydlif.
16
A'r ddaear a gynorthwyodd y Wraig, a'r ddaear a agorodd ei safn, ac a lyncodd yr afon yr hon a fwriodd y Ddraig allan o'i safn.
17
A llidiodd y Ddraig wrth y Wraig, ac a aeth ymaith i wneuthur rhyfel â'r gweddill o'i hâd hi, y rhai sydd yn cadw gorchymynion Duw ac yn dal tystiolaeth Iesu.
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22