bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Revelation 18
Revelation 18
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 19 →
1
Ar ol y pethau hyn gwelais angel arall yn dyfod i waered o'r nef, âg awdurdod mawr ganddo; a'r ddaear a oleuwyd gan ei ogoniant ef.
2
Ac efe a lefodd â llef gref, gan ddywedyd, Syrthiodd, syrthiodd. Babylon Fawr. Ac aeth yn drigfa cythreuliaid, Ac yn gadwrfa pob yspryd aflan, Ac yn gadwrfa pob aderyn aflan ac atgas:
3
Canys trwy win llid ei phuteindra y syrthiodd yr holl genhedloedd, A brenhinoedd y ddaear a buteiniasant gyda hi, A marchnatâwyr y ddaear a gyfoethogwyd trwy allu ei rhysedd hi.
4
A chlywais lef arall o'r nef yn dywedyd, Deuwch, fy mhobl i, allan o honi, Fel na byddoch gyd‐gyfranogion o'i phechodau hi, Ac na dderbynioch o'i phläau hi;
5
Oblegyd ei phechodau hi a bentyrrwyd hyd y nefoedd, A Duw a gofiodd ei hanghyfiawnderau hi.
6
Telwch yn ol iddi fel y talodd hithau, A dyblwch iddi y dwbl yn ol ei gweithredoedd: Yn y cwpan a gymysgodd hi, cymysgwch iddi yn ddyblyg.
7
Cymaint ag y gogoneddodd hi ei hun, ac yr aeth yn foethus, Y cymaint y rhoddwch iddi o boen a galar; Oblegyd y mae hi yn dywedyd yn ei chalon, Yr wyf yn eistedd yn frenhines, A gweddw nid ydwyf, a galar nis gwelaf ddim.
8
Am hynny mewn un dydd y daw ei phläau hi: Marwolaeth, a galar, a newyn; A hi a losgir yn ulw â thân, Canys cadarn yw yr Arglwydd Dduw, yr hwn a'i barnodd hi.
9
Ac wylo a galaru drosti a wna brenhinoedd y ddaear. Y rhai gyda hi a buteiniasant ac a fuont foethus, Pan edrychont ar fwg ei llosgiad hi,
10
Gan sefyll o hir bell gan ofn ei phoenedigaeth hi, gan ddywedyd, Gwae, gwae, y Ddinas Fawr, Babylon, y Ddinas gadarn! Canys mewn un awr y daeth dy farn di.
11
A marchnatâwyr y ddaear sydd yn wylo a galaru drosti, Canys nid oes neb mwyach yn prynu eu nwyddau hwynt;
12
Nwyddau o aur, ac arian, a meini gwerthfawr a pherlau, A llian main, a phorphor, a sidan, ac ysgarlad, A choed citrus, a phob llestr o ifori, a phob llestr o goed gwerthfawrocaf, Ac o brês, ac o haiarn ac o farmor,
13
A sinamon, ac amomon, ac arogldarth, ac enaint, a thus, A gwin, ac olew, a pheilliaid, a gwenith; A gwartheg, a defaid, a thrafnidiaeth mewn meirch a cherbydau; Ac mewn caethweision ac eneidiau dynion.
14
A'r ffrwythau a chwenychodd dy enaid a aeth ymaith oddiwrthyt, A phob peth danteithiol a gorwych a gollwyd gennyt; Ac mwyach ni chaiff dynion mo honynt.
15
A marchnatâwyr y pethau hyn, y rhai a gyfoethogwyd ganddi, a safant o hirbell, gan ofn ei phoenedigaeth, gan wylo a galaru,
16
gan ddywedyd, Gwae, gwae, y Ddinas Fawr, Yr hon oedd wedi ei gwisgo â llian main a phorphor ac ysgarlad, Ac wedi ei haddurno âg aur a meini gwerthfawr a pherlau;
17
Canys mewn un awr yr anrheithiwyd golud mor fawr. A phob llong‐lywydd, a phob un yn hwylio i unrhyw le, morwyr, a chynifer ag sydd a'u gorchwylion ar y môr, a safasant o hirbell,
18
a llefasant allan wrth weled mwg ei llosgiad, gan ddywedyd, Pa ddinas sydd debyg i'r Ddinas Fawr!
19
A hwy a fwriasant lwch ar eu pennau, Ac a lefasant, gan wylo a galaru, gan ddywedyd, Gwae, gwae, y Ddinas Fawr! Yn yr hon yr ymgyfoethogodd yr holl rai oedd ganddynt longau yn y môr, trwy ei thrysorau gwerthfawr; Canys mewn un awr yr anrheithiwyd hi.
20
Ymhyfryda uwch ei phen, o nef, A'r Saint, a'r Apostolion, a'r Prophwydi; Canys Duw a gyflawnodd eich barnedigaeth chwi arni hi.
21
Ac un angel cryf a gododd faen megys maen melin mawr, ac a'i bwriodd i'r môr, gan ddywedyd, Fel hyn gyda rhuthr nerthol, y bwrir Babylon, y Ddinas Fawr, Ac ni cheir hi ddim mwyach;
22
A llais telynorion a cherddorion a phibyddion ac udganwyr ni chlywir ynot ddim mwyach; Ac un crefftwr, o ba grefft bynnag y byddo, ni cheir ynot ddim mwyach; A llais maen melin ni chlywir ynot ddim mwyach:
23
A goleuni llusern ni lewyrcha ynot ddim mwyach; A llais priod‐fab a phriod‐ferch ni chlywir ynot ddim mwyach: Oblegyd dy farchnatâwyr oeddynt dywysogion y ddaear; Canys trwy dy swyn‐gyfaredd di yr arweiniwyd yr holl genhedloedd ar gyfeiliorn.
24
Ac ynddi hi y caed gwaed Prophwydi a Saint, A phawb a'r a laddwyd ar y ddaear.
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 19 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
Recommended Reading
Commentary
Revelation Commentaries
→
Devotional
Revelation Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894- (William Edwards)) Study Bible
→