bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Revelation 11
Revelation 11
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 12 →
1
A rhoddwyd i mi gorsen debyg i wialen, a dywedodd, Cyfod, a mesura Gysegr Duw, a'r Allor, a'r rhai sydd yn addoli ynddo.
2
A'r cyntedd sydd o'r tu allan i'r Cysegr gâd allan, ac na fesura ef; canys rhoddwyd ef i'r cenhedloedd, a'r Ddinas Sanctaidd a fathrant hwy ddeufis a deugain.
3
A rhoddaf i'm Dau Dyst, a hwy a brophwydant fil a deucant a thri‐ugain o ddyddiau, wedi ymwisgo â sachlian.
4
Y rhai hyn yw y Ddwy Olewydden a'r Ddau Ganwyllyr, sydd yn sefyll ger bron Arglwydd y ddaear.
5
Ac os ewyllysia neb wneuthur niwed iddynt, y mae tân yn myned allan o'u genau hwy, ac yn difa eu gelynion: ac os ewyllysia neb eu niweidio hwynt, fel hyn y mae yn rhaid iddo gael ei ladd.
6
Y mae gan y rhai hyn y gallu i gau y nef, fel na wlawio hi yn nyddiau eu prophwydoliaeth hwynt; ac y mae gallu ganddynt ar y dyfroedd, i'w troi hwynt yn waed, ac i daro y ddaear â phob pla, cyn fynyched ag y mynnont.
7
A phan orphennont eu tystiolaeth, yr Anghenfil, yr hwn sydd yn dyfod i fyny o Annwn, a wna ryfel â hwynt, ac a'u gorchfyga hwynt, ac a'u lladd hwynt;
8
ac y mae eu corph marw ar heol lydan y Ddinas fawr, yr hon yn ysprydol a elwir yn Sodom ac yn Aipht, lle hefyd y croeshoeliwyd eu Harglwydd hwynt.
9
Ac edrychant o blith y bobloedd, a'r llwythau, a'r ieithoedd, a'r cenhedloedd, ar eu corph marw am dridiau a hanner; ac ni chaniatânt osod eu cyrph hwynt mewn bedd.
10
A'r rhai a drigant ar y ddaear a lawenychant drostynt, ac a ymddifyrrant; ac y maent yn danfon rhoddion i'w gilydd; oblegyd y ddau brophwyd hyn a boenasant y rhai oedd yn trigo ar y ddaear.
11
Ac ar ol tridiau a hanner, yspryd bywyd oddi wrth Dduw a aeth i mewn iddynt, a safasant ar eu traed; ac ofn mawr a syrthiodd ar y rhai a'u gwelodd hwynt.
12
A chlywsant lef uchel o'r nef yn dywedyd wrthynt, Deuwch i fyny yma. Ac aethant i fyny i'r nef yn y cwmwl; a'u gelynion a'u gwelsant hwynt.
13
Ac yn yr awr honno y bu daeargryn mawr, a degfed ran y ddinas a syrthiodd; a lladdwyd yn y ddaear‐gryn saith mil o ddynion: a'r lleill a aethant yn ofnus, ac a roddasant ogoniant i Dduw y nef.
14
Yr ail wae a aeth heibio; wele, y drydedd wae sydd yn dyfod ar frys.
15
A'r seithfed angel a udganodd, a bu llefau uchel yn y nef, yn dywedyd, Aeth Teyrnas y Byd yn Deyrnas ein Harglwydd ni a'i Grist Ef; ac efe a deyrnasa yn oes oesoedd.
16
A'r pedwar henuriad ar hugain, y rhai sydd yn eistedd ger bron Duw ar eu gorseddau, a syrthiasant ar eu hwynebau, ac a addolasant Dduw,
17
gan ddywedyd, Diolchwn i ti, Arglwydd Dduw, yr Hollalluog, Yr Hwn Ydyw, a'r Hwn Oedd, Oblegyd cymeryd o honot dy allu mawr, a theyrnasu;
18
A'r Cenhedloedd a lidiasant, a daeth dy lid di, A thymor y meirw i gael eu barnu: I roddi eu gwobr i'th weision y prophwydi, ac i'th saint, Ac i'r rhai sydd yn ofni dy enw, fychain a mawrion, Ac i ddyfetha y rhai sydd yn dyfetha y ddaear.
19
Yna yr agorwyd Cysegr Duw, yr hwn sydd yn y nef; a gwelwyd Arch ei Gyfamod ef yn ei Gysegr; a bu mellt, a llefau, a tharanau, a daeargryn, a chenllysg mawr.
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 12 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
Recommended Reading
Commentary
Revelation Commentaries
→
Devotional
Revelation Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894- (William Edwards)) Study Bible
→