bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Revelation 20
Revelation 20
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 21 →
1
A gwelais angel yn disgyn o'r nef, a chanddo agoriad Annwn a chadwyn fawr yn ei law.
2
Ac efe a ddaliodd y Ddraig, yr Hen Sarph, yr hon yw Diafol a Satan, ac a'i rhwymodd ef am fil o flynyddoedd,
3
ac a'i bwriodd ef i Annwn, ac a'i cauodd ac a seliodd uwch ei ben, fel nad arweiniai ar gyfeiliorn y Cenhedloedd mwyach hyd oni orphenner y mil blynyddoedd: ar ol hynny y mae yn rhaid ei ollwng yn rhydd am ychydig amser.
4
A gwelais orseddau, a hwy a eisteddasant arnynt, a barn a roed iddynt; ac eneidiau y rhai y toresid eu pennau am dystiolaeth Iesu, ac am Air Duw, y rhai ni addolasant yr Anghenfil na'i ddelw, ac ni dderbyniasant ei nôd ar eu talcen nac ar eu llaw; a hwy a fuant fyw, ac a deyrnasasant gyda Christ fil o flynyddoedd.
5
Y lleill o'r meirw ni fuant fyw hyd oni orphennid y mil blynyddoedd. Dyma yr Adgyfodiad Cyntaf.
6
Gwynfydedig a sanctaidd yw yr hwn sydd â rhan ganddo yn yr Adgyfodiad Cyntaf! Ar y rhai nid oes gan yr Ail Farwolaeth awdurdod; eithr byddant offeiriaid Duw a Christ, ac a deyrnasant gydag ef fil o flynyddoedd.
7
A phan orphennir y mil Hynyddoedd, gollyngir Satan allan o'i garchar;
8
a daw allan i arwain ar gyfeiliorn y cenhedloedd ym mhedair congl y ddaear, Gog a Magog, i'w casglu ynghyd i'r rhyfel: rhif y rhai sydd fel tywod y môr.
9
A hwy a aethant i fyny ar led y ddaear, ac amgylchasant wersyll y saint a'r Ddinas Anwyl; a disgynnodd tân o'r nef, ac a'u hysodd hwynt.
10
A'r Diafol, yr hwn oedd yn eu harwain ar gyfeiliorn, a fwriwyd i'r Llyn o Dân a Brwmstan, lle y mae yr Anghenfil hefyd a'r Gau‐Brophwyd; a phoenir hwynt ddydd a nos yn oes oesoedd.
11
A gwelais Orsedd wèn fawr, a'r hwn oedd yn eistedd arni, oddi wrth wyneb yr hwn y ffôdd y ddaear a'r nef; a lle ni chafwyd iddynt.
12
A gwelais y meirw, y mawrion a'r bychain, yn sefyll gerbron yr Orsedd; ac agorwyd llyfrau, a Llyfr arall a agorwyd, yr hwn yw Llyfr y Bywyd, a barnwyd y meirw oddi wrth y pethau a ysgrifennwyd yn y llyfrau, yn ol eu gweithredoedd.
13
A rhoddodd y môr i fyny y meirw oedd ynddo, a Marwolaeth a Hades a roddasant i fyny y meirw oedd ynddynt hwythau: a hwy a farnwyd, bob un yn ol ei weithredoedd.
14
A marwolaeth a Hades a fwriwyd i'r Llyn o Dân. Hon yw yr ail Farwolaeth, sef y Llyn o Dân.
15
Ac o chafwyd neb heb ei fod wedi ei ysgrifennu yn Llyfr y Bywyd, bwriwyd ef i'r Llyn o Dân.
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 21 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
Recommended Reading
Commentary
Revelation Commentaries
→
Devotional
Revelation Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894- (William Edwards)) Study Bible
→