bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Revelation 13
Revelation 13
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 14 →
1
A hi a safodd ar dywod y môr. A gwelais Anghenfil yn dyfod i fyny o'r môr, a chanddo ddeg corn a saith ben, ac ar ei gyrn ddeg teyrn‐goron, ac ar ei bennau enwau cabledd.
2
A'r Anghenfil yr hwn a welais oedd debyg i lewpard, a'i draed fel traed arth, a'i safn fel safn llew: a'r Ddraig a roddodd iddo ef ei gallu, a'i gorsedd, ac awdurdod mawr.
3
A gwelais un o'i bennau megys wedi ei archolli i farwolaeth; ond ei glwyf marwol ef a iachâwyd, a'r holl ddaear a ryfeddodd ar ol yr Anghenfil.
4
A hwy a addolasant y Ddraig, o herwydd iddi roddi ei hawdurdod i'r Anghenfil; a hwy a addolasant yr Anghenfil, gan ddywedyd, Pwy sydd yn debyg i'r Anghenfil? A phwy a ddichon ryfela âg ef?
5
A rhoddwyd iddo enau yn llefaru pethau mawrion a chableddau, a rhoddwyd iddo ryddid i weithredu am ddau fis a deugain.
6
Ac efe a agorodd ei enau i gableddau yn erbyn Duw, i gablu ei Enw ef, a'i Dabernacl ef, sef y rhai sydd yn trigo yn y nef,
7
A rhoddwyd iddo wneuthur rhyfel â'r Saint, a'u gorchfygu hwynt, a rhoddwyd iddo awdurdod dros bob llwyth a phobl ac iaith a chenedl.
8
A phawb sydd yn trigo ar y ddaear a'i haddolant ef, yr hwn nad ysgrifennwyd ei enw yn Llyfr Bywyd yr Oen, yr hwn sydd wedi ei ladd o seiliad y byd.
9
Od oes gan neb glust, gwrandawed:
10
Os oes neb i fyned i gaethiwed, y mae yn myned iddo; Os bydd i neb ladd â'r cleddyf, rhaid ei ladd yntau â'r cleddyf. Dyma ddewr‐amynedd a ffydd y Saint.
11
A gwelais Anghenfil arall yn dyfod i fyny o'r ddaear, ac yr oedd ganddo ddau gorn tebyg i oen, a llefarai fel draig.
12
Ac y mae efe yn arfer holl awdurdod yr Anghenfil cyntaf ger ei fron ef; ac y mae yn peri i'r ddaear ac i'r rhai sydd yn trigo ynddi addoli yr Anghenfil cyntaf, yr hwn yr iachâwyd ei glwyf marwol ef.
13
Ac y mae efe yn gwneuthur arwyddion mawrion, fel y gwna i dân ddisgyn o'r nef i'r ddaear yng ngolwg dynion.
14
Ac y mae efe yn twyllo y rhai sydd yn trigo ar y ddaear o herwydd yr arwyddion a roddwyd iddo i'w gwneuthur yngwydd yr Anghenfil, gan ddywedyd wrth y rhai sydd yn trigo ar y ddaear ar wneuthur o honynt ddelw i'r Anghenfil, yr hwn sydd ganddo glwyf y cleddyf a byw fu.
15
A rhoddwyd iddo i roddi anadl i ddelw yr Anghenfil, fel y llefarai hyd yn nod ddelw yr Anghenfil, ac y parai i gynifer ag na addolent ddelw yr Anghenfil gael eu lladd;
16
ac y mae yn gwneuthur i bawb, y bychain a'r mawrion, a'r cyfoethogion a'r tlodion, a'r rhyddion a'r caethion, gael rhoddi iddynt nôd ar ei llaw ddehau, neu ar eu talcen;
17
ac na allai neb na phrynu na gwerthu, ond yr hwn a fyddai ganddo y nôd, sef enw yr Anghenfil, neu rifedi ei enw ef.
18
Yma y mae doethineb yr hwn sydd ganddo ddeall, cyfrifed rifedi yr Anghenfil, canys rhifedi dyn yw, a'i rifedi ef yw chwe chant a thriugain a chwech.
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 14 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22