bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Revelation 2
Revelation 2
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 3 →
1
At angel yr eglwys yn Ephesus, ysgrifenna: Y pethau hyn y mae yr hwn sydd yn dal y saith seren yn ei law ddehau, yr hwn sydd yn rhodio yng nghanol y saith ganwyllyr aur, yn eu dywedyd:
2
Mi a adwaen dy weithredoedd, a'th lafur, a'th amynedd, ac na elli oddef drwg‐ddynion, a phrofi o honot y rhai sydd yn galw eu hunain yn Apostolion, ac nid ydynt, a chael o honot hwynt yn gelwyddog;
3
ac y mae gennyt amynedd, a goddefaist o achos fy Enw i, ac nid ydwyt wedi blino.
4
Eithr y mae gennyf hyn yn dy erbyn, am i ti ymadael a'th gariad cyntaf.
5
Cofia, gan hynny, o ba le y syrthiaist, ac edifarhâ, a gwna y gweithredoedd cyntaf; ac onide, yr ydwyf yn dyfod atat ti, ac a symudaf dy ganwyllyr allan o'i le, oni edifarhêi di.
6
Eithr hyn sydd gennyt, dy fod yn casâu gweithredoedd y Nicolaiaid, y rhai yr wyf fi hefyd yn eu casâu.
7
Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae yr Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi. I'r hwn sydd yn gorchfygu, rhoddaf iddo i fwyta o Bren y Bywyd, yr hwn sydd ym Mharadwys Duw.
8
Ac at angel yr eglwys yn Smyrna ysgrifenna: Hyn a ddywed y Cyntaf a'r Diweddaf, yr hwn a fu farw ac a fu fyw drachefn.
9
Mi a adwaen dy orthrymder a'th dlodi — eithr cyfoethog wyt — a'r cabledd oddi wrth y rhai sydd yn dywedyd eu bod yn Iuddewon, ac nid ydynt, ond Synagog Satan.
10
Nac ofna y pethau yr wyt ar fedr eu dyoddef. Wele, y Diafol sydd ar fedr bwrw rhai o honoch i garchar, fel y'ch profer; a chwi a gewch orthrymder ddeng niwrnod. Bydd ffyddlawn hyd angau, a rhoddaf i ti Goron y Bywyd.
11
Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae yr Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi. Yr hwn sydd yn gorchfygu ni chaiff ddim niwed gan yr Ail Farwolaeth.
12
Ac at angel yr eglwys yn Pergamum ysgrifenna: Y pethau hyn a ddywed yr hwn sydd ganddo y cleddyf dau‐finiog llym.
13
Gwn pa le yr wyt yn trigo, sef lle y mae gorsedd Satan: ac yr wyt yn dal dy afael yn fy Enw i, ac ni wedaist fy Ffydd i, hyd yn nod yn nyddiau Antipas fy nhyst, fy un ffyddlawn i, yr hwn a laddwyd yn eich plith chwi, lle y mae Satan yn trigo.
14
Eithr y mae gennyf ychydig bethau yn dy erbyn di, oblegyd bod gennyt yna rai yn dal dysgeidiaeth Balaam, yr hwn a ddysgodd i Balac fwrw tramgwydd o flaen meibion Israel, i fwyta pethau a aberthwyd i eilunod, ac i odinebu.
15
Felly y mae gennyt tithau hefyd rai yn dal dysgeidiaeth y Nicolaiaid yr un modd.
16
Edifarhâ, gan hynny; onide, yr wyf yn dyfod atat ar frys, ac a ryfelaf yn eu herbyn â chleddyf fy ngenau.
17
Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae yr Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi. I'r hwn sydd yn gorchfygu, y rhoddaf iddo o'r manna cuddiedig, a rhoddaf iddo garreg wen, ac ar y garreg Enw newydd wedi ei ysgrifennu, yr hwn nid edwyn neb ond yr hwn sydd yn ei dderbyn.
18
Ac at angel yr eglwys yn Thyatira ysgrifenna: Y pethau hyn y mae Mab Duw yn eu dywedyd, yr hwn sydd a'i lygaid fel fflam dân, a'i draed yn debyg i bres coeth.
19
Mi a adwaen dy weithredoedd di, a'th gariad, a'th ffydd, a'th wasanaeth, a'th amynedd; a'th weithredoedd diweddaf sydd fwy na'r cyntaf.
20
Eithr y mae gennyf hyn yn dy erbyn di, oblegyd dy fod yn goddef i'r wraig Jezebel, yr hon sydd yn galw ei hun yn brophwydes; ac y mae hi yn dysgu ac yn hud‐ddenu fy ngweision i odinebu a bwyta pethau a offrymwyd i eilunod.
21
A rhoddais amser iddi i edifarhâu, ac nid yw yn ewyllysio edifarhâu am ei godineb.
22
Wele, yr wyf yn ei bwrw hi ar wely, a'r rhai sydd yn godinebu gyda hi, i orthrymder mawr, onid edifarhânt am ei gweithredoedd hi.
23
A'i phlant a laddaf â marwolaeth; a'r holl eglwysi a gânt wybod mai myfi yw yr hwn sydd yn chwilio yr arennau a'r calonnau: a rhoddaf i bob un o honoch yn ol eich gweithredoedd.
24
Eithr wrthych chwi yr wyf yn dywedyd, y gweddill y rhai sydd yn Thyatira, y sawl nid oes ganddynt y ddysgeidiaeth hon, a'r rhai ni wyddant bethau dyfnion Satan, fel y dywedant, Nid wyf yn bwrw arnoch faich arall.
25
Eithr yr hyn sydd gennych, deliwch yn dŷn hyd oni ddelwyf.
26
A'r hwn sydd yn gorchfygu, ac yn cadw fy ngweithredoedd hyd y diwedd, iddo ef y rhoddaf awdurdod ar y Cenhedloedd,
27
ac efe a'u bugeilia â gwialen haiarn, megys y mae llestri pridd yn cael eu dryllio ynghyd; fel y derbyniais innau hefyd gan fy Nhâd:
28
a rhoddaf iddo y Seren Fore.
29
Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae yr Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22