bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Revelation 5
Revelation 5
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 6 →
1
A gwelais ar law ddehau yr hwn oedd yn eistedd ar yr orsedd lyfr wedi ei ysgrifennu oddi fewn ac ar y cefn, wedi ei selio â saith sêl.
2
A gwelais angel cryf yn cyhoeddi mewn llef uchel, Pwy sydd deilwng i agoryd y Llyfr, ac i ddatod ei seliau ef?
3
Ac ni allai neb yn y nef, nac ar y ddaear, na than y ddaear, agoryd y Llyfr, nac edrych arno.
4
Ac mi a wylais lawer, o achos na chaed neb yn deilwng i agoryd y Llyfr, nac i edrych arno.
5
Ac un o'r henuriaid a ddywed wrthyf, Nac wyla: wele y Llew yr hwn sydd o lwyth Judah, Gwreiddyn Dafydd, a orchfygodd, i agoryd y Llyfr, a'i saith sêl ef.
6
A gwelais yng nghanol yr Orsedd a'r pedwar creadur byw, ac yng nghanol yr henuriaid, Oen yn sefyll, fel wedi ei ladd, a chanddo saith gorn a saith llygad, y rhai yw saith Yspryd Duw, wedi eu danfon allan i'r holl ddaear.
7
Ac efe a ddaeth ac a'i cymerodd o ddeheulaw yr hwn oedd yn eistedd ar yr Orsedd.
8
A phan gymerodd efe y Llyfr, y pedwar creadur byw a'r pedwar henuriad ar-hugain a syrthiasant ger bron yr Oen, a chanddynt, bob un delyn, a chrythau aur yn llawn o arogl‐darth, y rhai yw gweddïau y saint.
9
A chanu y maent Gân Newydd, gan ddywedyd, Teilwng wyt ti i gymeryd y Llyfr, ac i agoryd ei seliau ef; Oblegyd ti a laddwyd, ac a'n prynaist ni i Dduw â dy Waed, Allan o bob llwyth, ac iaith, a phobl, a chenedl,
10
Ac a'u gwnaethost hwy i'n Duw ni yn frenhiniaeth ac yn offeiriaid; Ac y maent yn teyrnasu ar y ddaear.
11
A gwelais, a chlywais lais angelion lawer o gylch yr Orsedd a'r creaduriaid byw a'r henuriaid; ac yr oedd eu rhifedi yn fyrddiynnau o fyrddiynnau, a miloedd o filoedd,
12
yn dywedyd â llef uchel, Teilwng yw yr Oen yr hwn a laddwyd i dderbyn y gallu, a'r cyfoeth, a'r doethineb, a'r cadernid, a'r anrhydedd, a'r gogoniant, a'r fendith.
13
A phob peth crëedig yn y nef, ac ar y ddaear, a thàn y ddaear, ac ar y môr, a'r holl bethau sydd ynddynt, a glywais i yn dywedyd, I'r hwn sydd yn eistedd ar yr Orsedd, ac i'r Oen, Y byddo y fendith, a'r anrhydedd, a'r gogoniant, a'r nerth, yn oes oesoedd.
14
A'r pedwar creadur byw a ddywedasant, Amen. A'r henuriaid a syrthiasant i lawr ac a addolasant.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22