bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Revelation 19
Revelation 19
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 20 →
1
Ar ol y pethau hyn clywais megys llef uchel tyrfa fawr yn y nef, yn dywedyd, Haleliwia, yr iachawdwriaeth a'r gogoniant, a'r gallu sydd yn perthyn i'n Duw ni;
2
Canys gwir a chyfiawn yw ei farnau ef; Oblegyd efe a farnodd y Butain fawr, Yr hon a lygrodd y ddaear yn ei phuteindra, Ac a ddialodd waed ei weision ar ei llaw hi.
3
Ac eilwaith y dywedasant, Haleliwia, a'i mwg hi sydd yn esgyn yn oes oesoedd.
4
A syrthiodd i lawr y pedwar henuriad ar hugain a'r pedwar creadur byw, ac a addolasant Dduw yr hwn sydd yn eistedd ar yr Orsedd, gan ddywedyd, Amen, Haleliwia.
5
A llef a ddaeth allan o'r Orsedd, yn dywedyd, Molwch ein Duw ni, chwi ei holl weision ef, Y rhai ydych yn ei ofni ef, y bychain a'r mawrion.
6
A chlywais fel llef tyrfa fawr, ac fel llef dyfroedd lawer, ac fel llef taranau cryfion, yn dywedyd, Haleliwia, canys yr Arglwydd ein Duw ni sydd yn teyrnasu, yr Hollalluog,
7
Llawenychwn a gorfoleddwn, a rhoddwn y gogoniant iddo ef; Oblegyd daeth Priodas yr Oen, a'i Wraig a'i parotôdd ei hun.
8
A rhoddwyd iddi gael ymwisgo mewn llian main, ysblennydd, pur: canys y llian main yw cyfiawnderau y saint.
9
A dywed wrthyf, ysgrifenna, Gwyn eu byd y rhai sydd wedi eu galw i Swper Priodas yr Oen. A dywed wrthyf, Gwirioneddol eiriau Duw yw y rhai hyn.
10
A syrthiais wrth ei draed i'w addoli ef. A dywed wrthyf, Gwel na wneli hyn: cyd‐was ydwyf â thi, ac â'th frodyr sydd yn dal tystiolaeth Iesu: addola Dduw: canys tystiolaeth Iesu yw yspryd prophwydoliaeth.
11
A gwelais y nef wedi ei hagoryd; ac wele, farch gwyn, a'r hwn oedd yn eistedd arno a elwid Ffyddlawn a Gwirioneddol; ac mewn cyfiawnder y mae efe yn barnu ac yn rhyfela.
12
A'i lygaid oedd yn fflam dân, ac ar ei ben, deyrn‐goronau lawer; a chanddo Enw yn ysgrifenedig, yr hwn nid edwyn neb ond efe ei hun;
13
ac yr oedd wedi ei wisgo â gwisg wedi ei throchi mewn gwaed: a gelwir ei Enw ef Gair Duw.
14
A'r byddinoedd y rhai oedd yn y nef a'u canlynent ef ar feirch gwynion wedi eu dilladu â llian main gwyn a phur.
15
Ac allan o'i enau ef y mae yn dyfod gleddyf llym, i daro y Cenhedloedd âg ef; ac efe a'u bugeilia hwynt â gwialen haiarn; ac efe a sathr gerwyn win digofaint llid Duw, yr Hollalluog.
16
Ac y mae ganddo ar ei wisg ac ar ei forddwyd Enw wedi ei ysgrifennu, BRENIN BRENHINOEDD ac*** ARGLWYDD ARGLWYDDI.
17
A gwelais angel yn sefyll yn yr haul; ac efe a lefodd â llef uchel, gan ddywedyd wrth yr holl adar sydd yn ehedeg yng nghanol y nef. Deuwch ac ymgesglwch ynghyd i Swper Mawr Duw,
18
fel y bwytâoch gnawd brenhinoedd, a chnawd cadfridogion, a chnawd y cedyrn, a chnawd meirch a'r rhai sydd yn eistedd arnynt, a chnawd pawb, rhyddion a chaethion hefyd, bychain a mawrion hefyd.
19
A gwelais yr Anghenfil, a brenhinoedd y ddaear, a'u byddinoedd wedi ymgynnull ynghyd i wneuthur rhyfel â'r hwn oedd yn eistedd ar y march, ac yn erbyn ei fyddin ef.
20
A'r Anghenfil a ddaliwyd, a gyd âg ef yr oedd y Gau‐Brophwyd, yr hwn a wnaeth yr arwyddion ger ei fron ef, a'r rhai yr arweiniodd ar gyfeiliorn, y rhai a dderbyniasant nôd yr Anghenfil, a'r rhai a addolasant ei ddelw ef: yn fyw y bwriwyd hwy ill dau i'r Llyn Tân yn llosgi â brwmstan.
21
A'r lleill a laddwyd â chleddyf yr hwn oedd yn eistedd ar y march, yr hwn a ddaeth allan o'i enau ef: a'r holl adar a gawsant eu gwala o'u cnawd hwynt.
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 20 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22