bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Revelation 8
Revelation 8
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 9 →
1
A phan agorodd efe y seithfed sêl, bu distawrwydd yn y nef megys am hanner awr.
2
A gwelais y saith angel, y rhai sydd yn sefyll ger bron Duw; a rhoddwyd iddynt saith udgorn.
3
Ac angel arall a ddaeth, ac a safodd wrth yr allor, a chanddo thuser aur; a rhoddwyd iddo arogl‐darth lawer, fel y rhoddai ef at weddïau yr holl saint ar yr allor aur ger bron yr Orsedd.
4
A mwg yr arogl‐darth gyda gweddiau y saint a esgynnodd o law yr angel i fyny ger bron Duw.
5
A chymerodd yr angel y thuser, ac efe a'i llanwodd hi â thân yr allor, ac a'i bwriodd i'r ddaear: a bu taranau, a lleisiau, a mellt, a daear‐gryn.
6
A'r saith angel y rhai oedd a'r saith udgorn ganddynt, a ymbarotoisant i udganu.
7
A'r Cyntaf a udganodd, a bu cenllysg a thân wedi eu cymysgu â gwaed, a hwy a fwriwyd i'r ddaear: a thrydedd ran y ddaear a lwyr‐losgwyd, a thrydedd ran y coed a lwyr‐losgwyd, a'r holl laswellt a lwyr‐losgwyd.
8
A'r ail angel a udganodd, ac fel mynydd mawr yn llosgi gan dân a fwriwyd i'r môr:
9
ac aeth trydedd ran y môr yn waed; a bu farw trydedd ran y creaduriaid y rhai sydd yn y môr, sef y rhai a chanddynt fywyd; a thrydedd ran o'r llongau a ddinystriwyd.
10
A'r trydydd angel a udganodd, a syrthiodd o'r nef seren fawr yn llosgi fel ffagl, a hi a syrthiodd ar drydedd ran yr afonydd ac ar ffynhonnau y dyfroedd;
11
ac enw y seren a elwir Wermod, a thrydedd ran y dyfroedd a aeth yn wermod; a llawer o ddynion a fuant feirw gan y dyfroedd, oblegyd eu myned yn chwerwon.
12
A'r pedwerydd angel a udganodd, a tharawyd trydedd ran yr haul, a thrydedd ran y lleuad, a thrydedd ran y sêr, fel y tywyllid eu trydedd ran hwynt, ac na thywynnai y dydd am ei drydedd ran, a'r nos yr un ffunud.
13
A gwelais a chlywais eryr yn ehedeg yng nghanol y nef, gan ddywedyd â llef uchel, Gwae, gwae, gwae, i'r rhai sydd yn trigo ar y ddaear, o herwydd lleisiau eraill udgyrn y tri angel, y rhai sydd eto i udganu.
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22