bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Revelation 9
Revelation 9
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 10 →
1
A'r pumed angel a udganodd, a gwelais seren wedi syrthio o'r nef i'r ddaear; a rhoddwyd iddo ef agoriad pydew Annwn.
2
Ac efe a agorodd bydew Annwn, ac esgynnodd mwg o'r pydew, fel mwg ffwrn fawr; a thywyllwyd yr haul a'r awyr gan fwg y pydew.
3
Ac o'r mwg y daeth allan locustiaid ar y ddaear, a rhoddwyd awdurdod iddynt, fel y mae gan ysgorpionnau y ddaear awdurdod.
4
A dywedwyd wrthynt na niweidient laswellt y ddaear, na dim sydd wyrddlas, nac un pren, ond yn unig y cyfryw ddynion sydd heb ganddynt sêl Duw ar eu talcennau.
5
A rhoddwyd iddynt na laddent hwynt, ond bod iddynt gael eu dirboeni bum mis; a'u dirboeniad hwy oedd fel dirboeniad ysgorpion, pan fratho efe ddyn.
6
Ac yn y dyddiau hynny y cais y dynion farwolaeth, ac nis cânt mewn un modd; a chwenychant farw, ond ffoi y mae marwolaeth oddi wrthynt.
7
A ffurfiau y locustiaid oeddent yn debyg i feirch wedi eu parotôi i ryfel; ac ar eu pennau megys coronau yn debyg i aur, a'u hwynebau fel wynebau dynion.
8
A gwallt oedd ganddynt fel gwallt gwragedd, a'u dannedd oedd fel dannedd llewod.
9
Ac yr oedd ganddynt lurigau fel llurigau haiarn; a swn eu hadenydd oedd fel swn cerbydau meirch lawer yn rhedeg i ryfel.
10
Ac y mae ganddynt gynffonnau tebyg i ysgorpionnau, a cholynnau; ac yn eu cynffonnau y mae eu gallu i niweidio dynion bum mis.
11
Mae ganddynt frenin arnynt, angel Annwn: ei enw yn Hebraeg yw Abadon, ac yn yr iaith Roeg y mae ganddo yr enw Apolyon.
12
Y wae gyntaf aeth heibio; wele, y mae yn dyfod eto ddwy wae ar ol hyn.
13
A'r chweched angel a udganodd, a chlywais lais o gyrn yr allor aur,
14
yr hon sydd ger bron Duw, un yn dywedyd wrth y chweched angel, yr hwn oedd â'r udgorn ganddo, Gollwng yn rhydd y pedwar angel sydd yn rhwym wrth yr afon fawr Euphrates.
15
A gollyngwyd y pedwar angel, y rhai oeddent wedi eu parotoi erbyn yr awr a dydd a mis a blwyddyn, fel y lladdent drydedd ran y dynion.
16
A rhifedi y byddinoedd o'r gwŷr meirch oedd ddwy fyrddiwn o fyrddiynnau: clywais eu rhifedi.
17
Ac fel hyn y gwelais y meirch yn y weledigaeth, a'r rhai oedd yn eistedd arnynt, a chanddynt lurigau o liw tân a glas‐ddu a melyn; ac y mae pennau y meirch fel pennau llewod; ac y mae yn dyfod allan o'u safnau dân a mwg a brwmstan.
18
Gan y tri phla hyn y lladdwyd trydedd ran y dynion, gan y tân a chan y mwg a chan y brwmstan oedd yn dyfod allan o'u safnau hwynt.
19
Canys gallu y meirch sydd yn eu safn, ac yn eu cynffonnau; canys eu cynffonnau oedd debyg i seirph, a phennau ganddynt; ac â'r rhai hynny y maent yn niweidio.
20
A'r gweddill o ddynion, y rhai ni laddwyd gan y pläau hyn, nid edifarhasant am weithredoedd eu dwylaw, fel nad addolent gythreuliaid ac eilunod o aur, ac o arian, ac o bres, ac o faen, ac o goed; y rhai ni allant na gweled, na chlywed, na rhodio.
21
Ac nid edifarhasant o herwydd eu llofruddiaethau nac o herwydd eu swyn‐gyfareddion, nac o herwydd eu godineb, nac o herwydd eu lladradau.
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 10 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22