bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Revelation 7
Revelation 7
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 8 →
1
Ac ar ol hyn gwelais bedwar angel yn sefyll ar bedair congl y ddaear, yn dal pedwar gwynt y ddaear, fel na chwythai gwynt ar y ddaear, nac ar y môr, nac ar unrhyw bren.
2
A gwelais angel arall yn esgyn o godiad haul, a chanddo sêl y Duw byw. Ac efe a lefodd â llef uchel ar y pedwar angel, i'r rhai y rhoddesid i ddrygu y ddaear a'r môr,
3
gan ddywedyd, Na ddrygwch y ddaear na'r môr, na'r prennau, hyd nes y seliwn weision ein Duw ni ar eu talcennau.
4
A chlywais nifer y rhai a seliwyd, cant a phedair a deugain o filoedd wedi eu selio, allan o bob llwyth o feibion Israel.
5
O lwyth Judah, ddeuddeng mil wedi eu selio: O lwyth Reuben, ddeuddeng mil: O lwyth Gad, ddeuddeng mil:
6
O lwyth Aser, ddeuddeng mil: O lwyth Nephthali, ddeuddeng mil: O lwyth Manasseh, ddeuddeng mil:
7
O lwyth Simeon, ddeuddeng mil: O lwyth Lefi, ddeuddeng mil: O lwyth Issachar, ddeuddeng mil:
8
O lwyth Zabulon, ddeuddeng mil: O lwyth Joseph, ddeuddeng mil: O lwyth Benjamin, ddeuddeng mil wedi eu selio.
9
Wedi y pethau hyn gwelais, ac wele, dyrfa fawr, yr hon ni allai neb ei rhifo, allan o bob cenedl a llwythau a phobloedd ac ieithoedd, yn sefyll ger bron yr Orsedd a cher bron yr Oen, wedi eu gwisgo mewn gwisgoedd gwynion, a phalmwydd yn eu dwylaw;
10
a llefant â llef uchel, gan ddywedyd, Iachawdwriaeth i'n Duw ni yr hwn sydd yn eistedd ar yr Orsedd, ac i'r Oen.
11
A'r holl angelion oeddent yn sefyll o amgylch yr Orsedd ac o amgylch yr henuriaid a'r pedwar creadur byw; a hwy a syrthiasant ger bron yr Orsedd ar eu hwynebau, ac a addolasant Dduw,
12
gan ddywedyd, Amen: Y fendith, a'r gogoniant, a'r doethineb, A'r diolch, a'r anrhydedd, a'r gallu, a'r nerth, Fyddo i'n Duw ni yn oes oesoedd. Amen.
13
Ac un o'r henuriaid a atebodd, gan ddywedyd wrthyf, Y rhai hyn sydd wedi eu gwisgo mewn gwisgoedd gwynion, pwy ydynt, ac o ba le y daethant?
14
A dywedais wrtho, Fy arglwydd, ti a wyddost. A dywedodd wrthyf, Y rhai hyn yw y rhai sydd yn dyfod allan o'r Gorthrymder mawr, ac a olchasant eu gwisgoedd ac a'u cànnasant yng ngwaed yr Oen.
15
O herwydd hyn y maent ger bron Gorsedd Duw, ac yn ei wasanaethu ddydd a nos yn ei Gysegr; a'r hwn sydd yn eistedd ar yr Orsedd a leda ei babell drostynt.
16
Ni newynant mwyach, ni sychedant mwyach: ni thery yr haul o gwbl arnynt, na dim poethder;
17
oblegyd yr Oen yr hwn sydd yng nghanol yr Orsedd, a'u bugeilia hwynt, ac a'u harwain at ffynhonnau dyfroedd bywyd, a Duw a sych ymaith bob deigr oddiwrth eu llygaid hwynt.
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22