bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Revelation 16
Revelation 16
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 17 →
1
A chlywais lef uchel o'r Cysegr yn dywedyd wrth y saith angel, Ewch a thywelltwch allan saith phiol llid Duw i'r ddaear.
2
A'r cyntaf a aeth, ac a dywalltodd allan ei phiol i'r ddaear; ac aeth yn gornwyd drwg a blin ar y dynion a chanddynt nod yr Anghenfil, a'r rhai a addolent ei ddelw ef.
3
A'r ail a dywalltodd allan ei phiol i'r môr; ac efe a aeth yn waed megys gwaed un marw; a phob enaid byw a fu farw, sef y rhai yn y môr.
4
A'r trydydd a dywalltodd allan ei phiol i'r afonydd a'r ffynhonnau dyfroedd; ac aethant yn waed.
5
A chlywais angel y dyfroedd yn dywedyd, Cyfiawn wyt ti, yr hwn wyt, a'r hwn oeddit, tydi yr Un Sanctaidd, oblegyd barnu o honot y pethau hyn;
6
canys gwaed saint a phrophwydi a dywalltasant allan a gwaed a roddaist iddynt i'w yfed; y maent yn deilwng.
7
A chlywais yr Allor yn dywedyd, Ië, Arglwydd Dduw, yr Hollalluog, gwir a chyfiawn yw dy farnau di.
8
A'r pedwerydd a dywalltodd allan ei phiol ar yr haul; a rhoddwyd iddo i boethi dynion â thân.
9
A phoethwyd dynion â phoethder mawr; a hwy a gablasant Enw Duw, yr hwn sydd âg awdurdod ganddo ar y Pläau hyn, ac nid edifarhasant i roi gogoniant iddo ef.
10
A'r pumed a dywalltodd allan ei phiol ar orsedd yr Anghenfil, a'i deyrnas ef a dywyllwyd; a chnoisant eu tafodau gan y boen;
11
a chablasant Dduw y nef o herwydd eu poenau ac o herwydd eu cornwydydd; ac nid edifarhasant oddi wrth eu gweithredoedd.
12
A'r chweched a dywalltodd ei phiol ar yr afon fawr, yr Euphrates; a sychodd ei dwfr, fel y parotôid ffordd y brenhinoedd o gyfodiad haul.
13
A gwelais yn dyfod allan o safn y Ddraig, ac o safn yr Anghenfil, ac o enau y Gau‐Brophwyd, dri yspryd aflan fel llyffaint.
14
Canys ysprydion cythreuliaid ydynt, yn gwneuthur arwyddion; y rhai sydd yn myned allan at frenhinoedd y ddaear oll, i'w casglu hwynt ynghyd i ryfel Dydd Mawr Duw, yr Hollalluog;
15
(Wele, yr wyf yn dyfod fel lleidr. Gwyn ei fyd yr hwn sydd yn gwylio, ac yn cadw ei ddillad, fel na byddo yn noeth, ac iddynt weled ei anharddwch ef).
16
Ac efe a'u casglodd hwy ynghyd i le a elwir yn Hebraeg Har‐magedon.
17
A'r seithfed a dywalltodd allan ei phiol ar yr awyr; a daeth llef uchel allan o'r Cysegr, o'r Orsedd, yn dywedyd, Darfu,
18
a bu mellt, a lleisiau, a tharanau; a bu daeargryn mawr, y fath ni bu er pan oedd dynion ar y ddaear, gymaint daear‐gryn, mor fawr!
19
A rhannwyd y Ddinas Fawr yn dair rhan; a dinasoedd y cenhedloedd a syrthiasant; a Babylon Fawr a ddaeth mewn côf ger bron Duw, i roddi iddi gwpan gwin llid ei ddigofaint ef.
20
A phob ynys a ffôdd ymaith, ac ni chafwyd y mynyddoedd,
21
a chenllysg mawr, o ddeutu pwys talent yr un, sydd yn disgyn o'r nef ar ddynion; a'r dynion a gablasant Dduw o herwydd pla y cenllysg; canys aruthrol fawr yw eu pla hwynt.
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 17 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22