bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Revelation 21
Revelation 21
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 22 →
1
A gwelais nefoedd a daear newydd, canys y nef gyntaf a'r ddaear gyntaf a aethant heibio; a'r môr nid yw mwyach.
2
A gwelais y Ddinas Sanctaidd, Jerusalem newydd, yn dyfod i lawr allan o'r nef oddi wrth Dduw, wedi ei pharotoi fel Priodasferch wedi ei haddurno i'w gŵr.
3
A chlywais lef uchel o'r Orsedd yn dywedyd, Wele, Dabernacl Duw gyda dynion, Ac efe a dabernacla gyda hwynt, A hwy a fyddant ei bobloedd ef; A Duw ei hun a fydd gyda hwynt yn Dduw iddynt.
4
Ac efe a sych ymaith bob deigr oddi wrth eu llygaid hwynt; A marwolaeth ni bydd mwyach; Ac ni bydd chwaith na galar, na gwaedd, na phoen mwyach: Y pethau cyntaf a aethant heibio.
5
A dywedodd yr hwn sydd yn eistedd ar yr Orsedd, Wele, yr wyf yn gwneuthur pob peth yn newydd. Ac efe a ddywed, Ysgrifenna, canys y mae y geiriau hyn yn ffyddlawn a gwirioneddol.
6
A dywedodd wrthyf. Cyflawnwyd hwynt. Myfi yw yr Alpha a'r Omega, y Dechreu a'r Diwedd. Myfi a roddaf i'r hwn sydd sychedig o'r ffynnon o ddwfr y bywyd yn rhad.
7
Yr hwn sydd yn gorchfygu a etifedda y pethau hyn; a byddaf iddo ef yn Dduw, ac yntau a fydd i minnau yn fab.
8
Eithr i'r rhai annewr, a'r anghrediniol, a'r ffiaidd, a'r llofruddion, a'r puteinwyr, a'r swyn‐gyfareddwyr, a'r eilun‐addolwyr, a'r holl gelwyddwyr, bydd eu rhan yn y Llyn sydd yn llosgi â thân a brwmstan: yr hwn yw yr Ail Farwolaeth.
9
A daeth un o'r saith angel yr oedd y saith phiol ganddynt yn llawn o'r saith bla diweddaf; ac efe a ymddiddanodd â mi, gan ddywedyd, Tyred, a danghosaf i ti y Briodasferch, Gwraig yr Oen.
10
Ac efe a'm dug i ymaith yn yr Yspryd, i fynydd mawr ac uchel, ac efe a ddanghosodd i mi y Ddinas sanctaidd Jerusalem, yn dyfod i lawr allan o'r nef oddi wrth Dduw,
11
a gogoniant Duw ganddi. A'i goleuad hi oedd debyg i faen gwerthfawrocaf, megys maen iaspis, yn loyw fel grisial;
12
ac iddi fur mawr ac uchel; ac iddi ddeuddeg porth, ac wrth y pyrth ddeuddeg angel, ac enwau wedi eu hysgrifennu arnynt, y rhai yw enwau deuddeg llwyth plant Israel.
13
O du y dwyrain yr oedd tri phorth; ac o du y gogledd, tri phorth; ac o du y dehau, tri phorth; ac o du y gorllewin, tri phorth.
14
Ac yr oedd i fur y Ddinas ddeuddeg sylfaen, ac arnynt ddeuddeg enwau Deuddeg Apostol yr Oen.
15
A'r hwn oedd yn ymddiddan â mi oedd a chanddo fesur, corsen aur, i fesur y Ddinas, a'i phyrth hi, a'i mur.
16
Ac y mae y Ddinas yn gorwedd yn bedair‐ongl, a'i hyd hi sydd gymaint a'r lled. Ac efe a fesurodd y Ddinas â'r gorsen yn ddeuddeng mil o ystadau: ei hyd a'i lled a'i huchder yn o gymaint.
17
A mesurodd ei mur hi yn gant a phedwar cufydd a deugain, yn ol mesur dyn, hynny yw, eiddo yr angel.
18
Ac adeilad ei mur hi oedd iaspis; a'r Ddinas oedd aur pur, tebyg i wydr pur.
19
Yr oedd sylfeini mur y Ddinas wedi eu haddurno â phob maen gwerthfawr. Y sylfaen gyntaf oedd iaspis; yr ail saphir; y drydedd, chalcedon; y bedwaredd, smaragdus;
20
y bumed, sardonyx; y chweched, sardius; y seithfed, chrysolit, yr wythfed, beryl; y nawfed topaz; y ddegfed, chrysopras; yr unfed‐ar‐ddeg, hyacinth; y ddeuddegfed, amethyst.
21
A'r deuddeg porth deuddeg perl oeddynt; a phob un o'r pyrth oedd o un perl; a heol y Ddinas oedd aur pur, fel gwydr tryloyw.
22
A Chysegr ni welais ynddi: canys yr Arglwydd Dduw, yr Hollalluog, a'r Oen, yw ei Chysegr hi.
23
A'r Ddinas nid rhaid iddi wrth yr haul na'r lleuad i lewyrchu arni: canys gogoniant Duw a'i goleuodd hi, a'i llusern hi yw yr Oen.
24
A'r Cenhedloedd a rodiant wrth ei goleuni hi; ac y mae brenhinoedd y ddaear yn dwyn eu gogoniant iddi hi.
25
(A'i phyrth hi ni cheuir ddim y dydd, canys ni bydd nos yno);
26
a hwy a ddygant ogoniant ac anrhydedd y Cenhedloedd iddi hi.
27
Ac nid ä i mewn iddi er dim ddim aflan, neu yr hwn sydd yn gwneuthur ffieidd‐dra a chelwydd; ond yn unig y rhai sydd yn ysgrifenedig yn Llyfr Bywyd yr Oen.
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 22 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22