bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
John 1
John 1
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 2 →
1
Yn y dechreuad yr oedd y Gair, a’r Gair oedd gyda Duw; a Duw oedd y Gair.
2
Hwn oedd yn y dechreuad gyda Duw.
3
Pob peth, trwyddo Ef y’i gwnaethpwyd, ac hebddo Ef ni wnaed hyd yn oed un peth o’r a wnaethpwyd.
4
Ynddo Ef yr oedd bywyd, ac y bywyd oedd oleuni dynion.
5
A’r Goleuni, yn y tywyllwch y llewyrcha; a’r tywyllwch nid amgyffredodd Ef.
6
Yr oedd dyn wedi ei ddanfon oddiwrth Dduw, a’i enw Ioan.
7
Hwn a ddaeth yn dystiolaeth, fel y tystiolaethai am y Goleuni, fel y byddai i bawb gredu trwyddo ef.
8
Nid oedd Efe y Goleuni, eithr fel y tystiolaethai am y Goleuni.
9
Yr oedd y gwir Oleuni, yr Hwn sy’n goleuo pob dyn, yn dyfod i’r byd.
10
Yn y byd yr oedd Efe; a’r byd trwyddo Ef a wnaethpwyd, ac y byd nid adnabu Ef.
11
At yr eiddo Ei hun y daeth, ac Ei bobl Ei hun ni dderbyniasant Ef;
12
ond cynnifer ag a’i derbyniasant, rhoddes iddynt awdurdod i fyned yn blant Duw, sef i’r rhai sy’n credu yn Ei enw Ef;
13
y rhai, nid o waed, nac ychwaith o ewyllys cnawd, nac ychwaith o ewyllys dyn, eithr o Dduw y’u ganwyd.
14
Ac y Gair, yn gnawd yr aeth, a thabernaclodd yn ein plith (a gwelsom Ei ogoniant, gogoniant megis yr unig-anedig oddiwrth y Tad), yn llawn gras a gwirionedd.
15
Ioan a dystiolaethodd am Dano, ac a lefodd gan ddywedyd, Hwn yw Efe am yr Hwn y dywedais, Yr Hwn sy’n dyfod ar fy ol, o’m blaen yr oedd Efe, canys cyn na mi yr ydoedd.
16
Canys o’i gyflawnder Ef nyni oll a dderbyniasom, a gras am ras.
17
Canys y Gyfraith, trwy Mosheh y’i rhoddwyd; a gras a gwirionedd trwy Iesu Grist y buant.
18
Duw, ni fu i neb erioed Ei weled Ef: yr unig-anedig Fab, yr Hwn sydd ym mynwes y Tad, Efe a’i mynegodd.
19
A hon yw tystiolaeth Ioan, pan atto y danfonodd yr Iwddewon o Ierwshalem offeiriaid a Lefiaid, fel y gofynent iddo, Tydi, pwy ydwyt?
20
a chyffesodd, ac ni wadodd; a chyffesodd, Nid wyf fi y Crist.
21
A gofynasant iddo, Pa beth, ynte? Ai Elias wyt ti? A dywedodd, Nag wyf. Ai Prophwyd wyt ti? Ac attebodd, Nage.
22
Dywedasant, gan hyny, wrtho, Pwy ydwyt, fel y rhoddom atteb i’r rhai a’n danfonasant? Pa beth a ddywedi am danat dy hun? Ebr efe, myfi wyf
23
“Llef un yn llefain, Yn yr anialwch gwnewch yn uniawn ffordd Iehofah,” fel y dywedodd Eshaiah y prophwyd.
24
Ac wedi eu danfon yr oeddynt gan y Pharisheaid.
25
A gofynasant iddo, a dywedasant wrtho, Paham, gan hyny, y bedyddi, os tydi nid wyt y Crist, nac ychwaith Elias, nac ychwaith y prophwyd?
26
Iddynt yr attebodd Ioan, gan ddywedyd, Myfi a fedyddiaf â dwfr. Yn eich canol y mae’n sefyll yr Hwn nid ydych chwi yn Ei adnabod;
27
yr Hwn y sy’n dyfod ar fy ol; yr Hwn nid wyf fi deilwng i ddattod carrai Ei esgid Ef.
28
Y pethau hyn, yn Bethania y digwyddasant, y tu hwnt i’r Iorddonen, lle yr oedd Ioan yn bedyddio.
29
Trannoeth gwelodd Ioan yr Iesu yn dyfod atto, a dywedodd, Wele Oen Duw yr Hwn sy’n dwyn ymaith bechod y byd;
30
Hwn yw Efe am yr Hwn y dywedais i, “Ar fy ol y mae’n dyfod ŵr yr Hwn o’m blaen yr oedd, canys cyn na mi yr ydoedd.”
31
Ac myfi nid adwaenwn Ef: eithr fel yr amlygid Ef i’r Israel, am hyny y daethum i gan fedyddio â dwfr.
32
A thystiolaethodd Ioan gan ddywedyd, Gwelais yr Yspryd yn disgyn, fel colommen, o’r nef, ac arhosodd Arno;
33
ac myfi nid adwaenwn Ef; eithr yr hwn a’m danfonodd i fedyddio â dwfr, Efe a ddywedodd wrthyf, “Ar bwy bynnag y gwelych yr Yspryd yn disgyn ac yn aros Arno, Efe yw yr Hwn sy’n bedyddio â’r Yspryd Glân.”
34
Ac myfi a welais, ac a dystiolaethais mai Efe yw Mab Duw.
35
Trannoeth drachefn y safai Ioan a dau o’i ddisgyblion;
36
ac wedi edrych ar yr Iesu yn rhodio, dywedodd, Wele Oen Duw.
37
A chlywodd y ddau ddisgybl ef yn llefaru, a chanlynasant yr Iesu.
38
Ac wedi troi o’r Iesu, a’u gweled hwynt yn canlyn, dywedodd wrthynt, Pa beth a geisiwch? A hwy a ddywedasant Wrtho, Rabbi (yr hyn o’i gyfieithu yw, Athraw), pa le yr arhosi?
39
Dywedodd wrthynt, Deuwch a gwelwch. Aethant, gan hyny, a gwelsant pa le yr arhosai; a chydag Ef yr arhosasant y diwrnod hwnw, a’r awr oedd ynghylch y ddegfed.
40
Yr oedd Andreas, brawd Shimon Petr, yn un o’r ddau a glywsant Ioan ac a’i canlynasant Ef.
41
Cafodd hwn yn gyntaf ei frawd ei hun Shimon, a dywedodd wrtho, Cawsom y Meshiah, yr hwn o’i ddehongli yw Crist.
42
Daeth ag ef at yr Iesu. Wedi edrych arno, yr Iesu a ddywedodd, Tydi wyt Shimon, mab Ioan: tydi a elwir Cephas, yr hwn, o’i ddehongli, yw Petr.
43
Trannoeth yr ewyllysiodd Efe fyned allan i Galilea, a chafodd Philip; a dywedodd yr Iesu wrtho, Canlyn Fi.
44
Ac yr oedd Philip o Bethtsaida, o ddinas Andreas a Petr.
45
Cafodd Philip Nathanael, a dywedodd wrtho, Yr Hwn yr ysgrifenodd Mosheh am Dano yn y Gyfraith, ac y Prophwydi, a gawsom, sef Iesu, Mab Ioseph, yr Hwn sydd o Natsareth.
46
Ac wrtho y dywedodd Nathanael, Ai o Natsareth y gall dim da fod? Wrtho y dywedodd Philip, Tyred a gwel.
47
Gwelodd yr Iesu Nathanael yn dyfod Atto, a dywedodd am dano, Wele, Israeliad mewn gwirionedd, yn yr hwn nid oes twyll.
48
Wrtho y dywedodd Nathanael, O ba beth y’m hadwaenost i? Attebodd yr Iesu, a dywedodd wrtho, Cyn na fu i Philip dy alw di, pan oeddit dan y ffigysbren, gwelais di.
49
Iddo yr attebodd Nathanael, Rabbi, Tydi yw Mab Duw; Tydi yw Brenhin yr Israel.
50
Attebodd yr Iesu, a dywedodd wrtho, Ai o herwydd dywedyd o Honof wrthyt, “Gwelais di dan y ffigysbren,” y credi? Pethau mwy na’r rhai hyn a weli.
51
A dywedodd wrtho, Yn wir, yn wir, y dywedaf wrthych, Cewch weled y nef yn agored, ac angylion Duw yn esgyn ac yn disgyn ar Fab y Dyn.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21