bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
John 11
John 11
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 12 →
1
Ac yr oedd rhyw un yn glaf, Lazarus o Bethania, o bentref Mair, a Martha, ei chwaer hi.
2
A Mair oedd yr hon a enneiniodd yr Arglwydd ag ennaint ac a sychodd Ei draed â’i gwallt, brawd yr hon, Lazarus, oedd glaf.
3
Gan hyny y danfonodd y chwiorydd Atto, gan ddywedyd, Arglwydd, wele, yr hwn yr wyt yn ei garu, claf yw.
4
Ac wedi clywed hyn, yr Iesu a ddywedodd, Y clefyd hwn nid yw i farwolaeth, eithr er gogoniant Duw, fel y gogonedder Mab Duw trwyddo.
5
A hoff oedd gan yr Iesu Martha a’i chwaer a Lazarus.
6
Gan hyny, pan glybu ei fod yn glaf, yna yn wir yr arhosodd yn y lle yr oedd, ddau ddiwrnod.
7
Yna, wedi hyny, y dywedodd wrth y disgyblion, Awn i Iwdea drachefn.
8
Dywedyd Wrtho a wnaeth y disgyblion, Rabbi, yn awr ceisio Dy labyddio yr oedd yr Iwddewon, ac a âi drachefn yno?
9
Attebodd yr Iesu, Onid oes deuddeg awr o’r dydd? Os rhodia neb y dydd, ni thripia, gan mai goleuni’r byd hwn a wel efe.
10
Ond os rhodia neb y nos, tripio y mae, gan nad yw y goleuni ynddo.
11
Hyn a lefarodd Efe, ac wedi hyny y dywedodd wrthynt, Lazarus, ein cyfaill, a aeth i huno; eithr myned yr wyf fel y dihunwyf ef.
12
Dywedyd Wrtho, gan hyny, a wnaeth y disgyblion, Arglwydd, os huno y mae, iacheir ef.
13
Ond dywedasai’r Iesu am ei farwolaeth; a hwy a dybiasant mai am hun cwsg y dywedasai.
14
Yna, gan hyny, dywedyd wrthynt a wnaeth yr Iesu yn eglur, Lazarus a fu farw:
15
a llawen wyf o’ch plegid chwi, fel y credoch, nad oeddwn yno: eithr awn atto.
16
Gan hyny y dywedodd Thomas, yr hwn a elwir Didymus, wrth ei gyd-ddisgyblion, Awn ninnau hefyd, fel y byddom feirw gydag Ef.
17
Gan hyny, wedi dyfod o Hono, yr Iesu a’i cafodd ef wedi bod weithian bedwar diwrnod yn y bedd.
18
Ac yr oedd Bethania yn agos i Ierwshalem, ynghylch pymtheg ystad oddiwrthi.
19
A llawer o’r Iwddewon a ddaethent at Martha a Mair fel y cysurent hwynt am eu brawd.
20
Martha, gan hyny, pan glybu fod yr Iesu yn dyfod, a gyfarfu ag Ef; ond Mair, yn y tŷ yr arhosodd.
21
Gan hyny y dywedodd Martha wrth yr Iesu, Arglwydd, pe buasit yma, ni fuasai farw fy mrawd.
22
Ac yn awr, gwn pa beth bynnag a ofynech gan Dduw, y dyry Duw i Ti.
23
Dywedyd wrthi a wnaeth yr Iesu, Adgyfodir dy frawd.
24
Dywedyd Wrtho a wnaeth Martha, Gwn yr adgyfodir ef yn yr adgyfodiad, y dydd diweddaf.
25
Dywedyd wrthi a wnaeth yr Iesu, Myfi yw’r adgyfodiad ac y bywyd. Yr hwn sy’n credu Ynof, er marw o hono, a fydd byw:
26
a phob un y sy’n fyw ac yn credu Ynof, ni fydd marw yn dragywydd. Ai credu hyn yr wyt?
27
Dywedodd Wrtho, Ydwyf, Arglwydd; myfi a gredais mai Tydi yw y Crist, Mab Duw, yr Hwn sydd yn dyfod i’r byd.
28
Ac wedi dywedyd hyn yr aeth hi ymaith, a galwodd Mair ei chwaer, yn ddirgel, gan ddywedyd, Yr Athraw a ddaeth ac a’th eilw.
29
A hithau, pan glybu hyn, a gododd ar frys ac a aeth Atto.
30
Ac ni ddaethai’r Iesu etto i’r pentref, ond yr oedd etto yn y fan lle y cyfarfu Martha ag Ef.
31
Gan hyny, yr Iwddewon, y rhai oedd gyda hi yn y tŷ ac yn ei chysuro, gan weled Mair mai ar frys y codasai ac yr aethai allan, a’i canlynasant hi, gan dybied ei bod yn myned at y bedd fel y gwylai yno.
32
Mair, gan hyny, pan ddaeth lle yr oedd yr Iesu, pan y’i gwelodd, a syrthiodd wrth Ei draed, gan ddywedyd, Pe buasit yma, ni fuasai farw fy mrawd.
33
Yr Iesu, gan hyny, pan welodd hi yn gwylo, a’r Iwddewon y rhai a ddaethent gyda hi, yn gwylo, a riddfanodd yn yr yspryd ac yr ymgynhyrfodd;
34
a dywedodd, Pa le y dodasoch ef? Dywedasant Wrtho, Arglwydd, tyred a gwel.
35
Gwylodd yr Iesu. Gan hyny y dywedodd yr Iwddewon, Wele, fel y carai ef.
36
Ond rhai o honynt a ddywedasant, Oni allasai Hwn,
37
yr Hwn a agorodd lygaid y dall, beri na fuasai chwaith i hwn farw?
38
Yr Iesu, gan hyny, gan riddfan trachefn Ynddo Ei hun, a ddaeth at y bedd; a gogof oedd, a maen oedd yn gorwedd wrtho.
39
Dywedodd yr Iesu, dygwch ymaith y maen. Dywedyd Wrtho a wnaeth chwaer yr hwn a fu farw, sef Martha, Arglwydd, y mae efe weithian yn drewi, canys yn ei bedwerydd dydd y mae.
40
Dywedyd wrthi a wnaeth yr Iesu, Oni ddywedais wrthyt, Os credi, gweli ogoniant Duw.
41
Gan hyny, dygasant ymaith y maen; a’r Iesu a gododd Ei lygaid i fynu, ac a ddywedodd, Y Tad, diolchaf i Ti am wrando o Honot Arnaf.
42
Ac Myfi a wyddwn Dy fod bob amser yn gwrando Arnaf Fi, eithr o achos y dyrfa sydd yn sefyll o amgylch y dywedais, fel y credont mai Tydi a’m danfonaist I.
43
Ac wedi dywedyd hyn, â llais uchel y llefodd, Lazarus, yma allan:
44
ac allan y daeth yr hwn a fuasai farw, yn rhwym ei draed a’i ddwylaw â llieiniau-claddu, a’i wyneb â napcyn a amrwymwyd. Dywedyd wrthynt a wnaeth yr Iesu, Gollyngwch ef yn rhydd, a gadewch iddo fyned ymaith.
45
Gan hyny, llawer o’r Iwddewon, y rhai a ddaethent at Mair ac a welsant yr hyn a wnaeth Efe,
46
a gredasant Ynddo; ond rhai o honynt a aethant ymaith at y Pharisheaid, ac a ddywedasant wrthynt y pethau a wnaeth yr Iesu.
47
Gan hyny y casglodd yr archoffeiriaid a’r Pharisheaid Gynghor ynghyd, a dywedasant, Pa beth yr ydym yn ei wneuthur, canys y dyn Hwn, llawer o arwyddion y mae Efe yn eu gwneud?
48
Os gadawn Iddo fel hyn, pawb a gredant Ynddo; a daw y Rhufeiniaid, a dygant ymaith ein lle ni ac ein cenedl hefyd.
49
A rhyw un o honynt, Caiaphas, ac efe yn archoffeiriad y flwyddyn honno,
50
a ddywedodd wrthynt, Chwychwi ni wyddoch ddim, ac nid ystyriwch mai buddiol yw i ni fod i un dyn farw dros y bobl, ac nad am yr holl genedl y darffo.
51
A hyn, nid o hono ei hun y’i dywedodd; eithr ac efe yn archoffeiriad y flwyddyn honno, prophwydodd fod yr Iesu ar fedr marw dros y genedl;
52
ac nid dros y genedl yn unig, eithr fel y casglai hefyd ynghyd yn un blant Duw, y rhai a wasgarasid.
53
Gan hyny, o’r dydd hwnw allan, yr ymgynghorasant fel y lladdent Ef.
54
Yr Iesu, gan hyny, ni rodiodd mwy yn amlwg ymhlith yr Iwddewon, eithr aeth ymaith oddiyno i’r wlad yn agos i’r anialwch, i ddinas Ephraim, fel y’i gelwir, ac yno yr arhosodd ynghyda’r disgyblion.
55
Ac agos oedd Pasg yr Iwddewon, ac aeth llawer i fynu i Ierwshalem, o’r wlad, cyn y Pasg fel y glanhaent eu hunain.
56
Gan hyny, ceisiasant yr Iesu, a dywedasant wrth eu gilydd, pan yn sefyll yn y deml, Pa beth a dybygwch chwi?
57
Ai na ddaw Efe ddim i’r wyl? A rhoddasai yr archoffeiriaid a’r Pharisheaid orchymynion, os byddai neb yn gwybod pa le y mae, ar fynegi o hono fel y dalient Ef.
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 12 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21