bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
John 17
John 17
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 16
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 18 →
1
Y pethau hyn a lefarodd yr Iesu; ac wedi codi ei lygaid i’r nef, dywedodd, Y Tad, daeth yr awr; gogonedda Dy Fab Di, fel y bo i’r Mab Dy ogoneddu Di.
2
Fel y rhoddaist Iddo awdurdod ar bob cnawd, fel i ’r cwbl a roddaist Iddo, y rhoddai iddynt fywyd tragywyddol.
3
A hwn yw’r bywyd tragywyddol, sef adnabod o honynt Dydi yr unig wir Dduw, ac yr hwn a ddanfonaist, Iesu Grist.
4
Myfi a’th ogoneddais Di ar y ddaear, gan gwblhau y gwaith a roddaist i Mi i’w wneuthur.
5
Ac yr awr hon gogonedda Di Fyfi, O Dad, gyda Thi Dy hun, â’r gogoniant oedd Genyf, cyn nad oedd y byd, gyda Thi.
6
Eglurais Dy enw Di i’r dynion a roddaist i Mi allan o’r byd; eiddot Ti oeddynt, ac i Mi y rhoddaist hwynt; a’th air a gadwasant.
7
Yn awr y gwyddant am yr holl bethau, cynnifer ag a roddaist i Mi, mai oddi Wrthyt Ti y maent;
8
canys yr ymadroddion a roddaist i Mi, a roddais iddynt, a hwy a’ u derbyniasant, a chredasant mai Tydi a’m danfonaist I.
9
Myfi a ofynaf drostynt hwy: nid tros y byd y gofynaf, eithr tros y rhai a roddaist i Mi, canys eiddot Ti ydynt.
10
A’r eiddof Fi oll, eiddot Ti yw, a’th eiddot Ti yn eiddof Fi; a gogoneddwyd Fi ynddynt.
11
Ac nid wyf mwyach yn y byd; ond y rhai hyn, yn y byd y maent; ac Myfi, Attat Ti yr wyf yn dyfod. Y Tad sancteiddiol, cadw hwynt yn Dy enw yr hwn a roddaist i Mi, fel y byddont yn un, fel Ninnau.
12
Tra y bu’m gyda hwynt, Myfi a’u cedwais yn Dy enw yr hwn a roddaist i Mi; a gwarchedwais hwynt; ac nid un o honynt a gollwyd, oddieithr mab y golledigaeth, fel y bo i’r ysgrythyr ei chyflawni.
13
Ac yn awr, Attat yr wyf yn dyfod: ac y pethau hyn yr wyf yn eu llefaru yn y byd fel y bo ganddynt Fy llawenydd yn gyflawnedig ynddynt eu hunain.
14
Myfi a roddais iddynt Dy air; ac y byd a’u casaodd hwynt gan nad ydynt o’r byd, fel nid wyf Finnau o’r byd.
15
Ni ofynaf am gymmeryd o Honot hwynt o’r byd, eithr eu cadw rhag y drwg.
16
O’r byd nid ydynt, fel nid wyf Finnau o’r byd.
17
Sancteiddia hwynt yn y gwirionedd: Dy air Di, gwirionedd yw.
18
Fel y danfonaist Fi i’r byd, Myfi hefyd a’u danfonais hwynt i’r byd.
19
Ac er eu mwyn Myfi a sancteiddiaf Fy hun, fel y byddont hwy hefyd wedi eu sancteiddio mewn gwirionedd.
20
Ac nid tros y rhai hyn yn unig y gofynaf, eithr tros y rhai hefyd a gredant Ynof trwy eu gair hwynt,
21
ar iddynt oll fod yn un; fel yr wyt Ti, O Dad, Ynof Fi, a Myfi Ynot Ti, ar iddynt hwy hefyd fod Ynom, fel y bo i’r byd gredu mai Tydi a’m danfonaist I.
22
Ac y gogoniant a roddaist i Mi, Myfi a’i rhoddais iddynt hwy, fel y byddont yn un, fel yr ydym Ninnau yn un:
23
Myfi ynddynt hwy, a Thydi Ynof Fi, fel y byddont wedi eu perffeithio yn un, fel y gwypo’r byd mai Tydi a’m danfonaist I, ac y ceraist hwynt fel y ceraist Fyfi.
24
O Dad, yr hyn a roddaist i Mi, ewyllysiaf, lle yr wyf Fi, iddynt hwythau hefyd fod ynghyda Mi, fel y gwelont Fy ngogoniant, yr hwn a roddaist i Mi oblegid caru o Honot Fi cyn seiliad y byd.
25
Y Tad cyfiawn, y byd ni’th edwyn Di, ond Myfi a’th adwaen Di, ac y rhai hyn a wyddant mai Tydi a’m danfonaist I;
26
ac hyspysais iddynt Dy enw, ac a’ i hyspysaf, fel y bo i’r cariad, â’r hwn y ceraist Fi, fod ynddynt hwy, a Minnau ynddynt hwy.
← Chapter 16
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 18 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21