bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
John 12
John 12
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 13 →
1
Yr Iesu, gan hyny, chwe diwrnod o flaen y Pasg, a ddaeth i Bethania, lle’r oedd Lazarus, yr hwn a godasai yr Iesu o feirw.
2
Gwnaethant, gan hyny, Iddo swpper yno, a Martha a wasanaethai, ond Lazarus oedd un o’r rhai yn lled-orwedd ynghydag Ef.
3
Mair, gan hyny, wedi cymmeryd pwys o ennaint nard gwlyb tra-chostus, a enneiniodd draed yr Iesu, ac â gwallt ei phen y sychodd Ei draed; a’r tŷ a lanwyd ag arogl yr ennaint.
4
A dywedodd Iwdas Ishcariot, un o’i ddisgyblion Ef, yr hwn oedd ar fedr Ei draddodi Ef,
5
Paham na chafodd yr ennaint hwn ei werthu er tri chan denar, a’i roddi i dlodion?
6
A dywedodd hyn, nid am mai am y tlodion y maliai, eithr am mai lleidr ydoedd; ac, a’r cwd ganddo, y pethau a fwrid i mewn a gludai.
7
Dywedyd, gan hyny, a wnaeth yr Iesu, Gad iddi; bu fel erbyn dydd Fy nghladdedigaeth y cadwai ef;
8
canys y tlodion sydd bob amser genych ynghyda chwi; ond Myfi, nid bob amser yr wyf genych.
9
Gwybu, gan hyny, dyrfa fawr o’r Iwddewon, mai yno yr oedd Efe; a daethant, nid o achos yr Iesu yn unig, eithr fel y gwelent Lazarus hefyd, yr hwn a gododd Efe o feirw.
10
Ac ymgynghorodd yr archoffeiriaid fel y lladdent Lazarus hefyd,
11
canys o’i achos ef y ciliodd llawer o’r Iwddewon, ac y credasant yn yr Iesu.
12
Trannoeth tyrfa fawr, yr hon a ddaethai i’r wyl, wedi clywed mai dyfod y mae’r Iesu i Ierwshalem,
13
a gymmerasant gangau y palmwydd, ac aethant allan i gyfarfod ag Ef, a bloeddient, Hoshanna bendigedig yw’r Hwn sy’n dyfod yn enw’r Arglwydd a Brenhin Israel.
14
A’r Iesu, wedi cael asynyn, a eisteddodd arno, fel y mae yn ysgrifenedig,
15
“Nac ofna, ferch Tsion; wele, dy Frenhin sy’n dyfod, yn eistedd ar lwdn asyn.”
16
Y pethau hyn ni wybu Ei ddisgyblion ar y cyntaf; eithr pan ogoneddasid yr Iesu, yna y cofiasant fod y pethau hyn yn ysgrifenedig am Dano, ac mai y pethau hyn a wnaethant Iddo.
17
Tystiolaethu, gan hyny, yr oedd y dyrfa, yr hon oedd gydag Ef pan alwodd Efe Lazarus o’r bedd, a’i godi ef o feirw;
18
o achos hyn y cyfarfu y dyrfa hefyd ag Ef, am glywed o honynt Iddo wneuthur yr arwydd hwn.
19
Y Pharisheaid, gan hyny, a ddywedasant yn eu plith eu hunain, Gwelwch nad ydych yn tyccio ddim. Wele, y byd a aeth ymaith ar Ei ol Ef.
20
Ac yr oedd rhai Groegiaid ymhlith y rhai a ddaethant i fynu fel yr addolent ar yr wyl.
21
Y rhai hyn, gan hyny, a ddaethant at Philip, yr hwn oedd o Bethtsaida, a gofynasant iddo, gan ddywedyd, Syr, ewyllysiem weled yr Iesu.
22
Daeth Philip a dywedodd wrth Andreas. Daeth Andreas a Philip, a dywedasant wrth yr Iesu.
23
A’r Iesu a attebodd iddynt, gan ddywedyd, Daeth yr awr y gogonedder Mab y Dyn.
24
Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Oni bydd i’r gronyn gwenith, ar ol syrthio i’r ddaear, farw, efe a erys yn unig; ond os bydd marw, llawer o ffrwyth a ddwg efe.
25
Yr hwn sy’n caru ei einioes, a’i cyll hi; a’r hwn sy’n casau ei einioes yn y byd hwn, i fywyd tragywyddol y’i ceidw.
26
Os Myfi a wasanaetha neb, ar Fy ol I deued; a lle yr wyf Fi, yno y bydd Fy ngweinidog hefyd. Os bydd neb yn Fy ngwasanaethu I, ei anrhydeddu ef a wna’r Tad.
27
Yn awr Fy enaid a gynhyrfwyd: a pha beth a ddywedaf? O Dad, gwared Fi allan o’r awr hon. Eithr oherwydd hyn y daethum i’r awr hon.
28
O Dad, gogonedda Dy enw Di. Daeth, gan hyny, lef o’r nef, Gogoneddais, ac etto y’i gogoneddaf.
29
Y dyrfa, gan hyny, yr hon oedd yn sefyll ac a glywodd a ddywedodd mai taran fu; eraill a ddywedasant, Angel a lefarodd Wrtho.
30
Attebodd yr Iesu a dywedodd, Nid o’m hachos I y mae’r llef hon wedi dyfod, eithr o’ch achos chwi.
31
Yn awr y mae barn y byd hwn: yn awr llywodraethwr y byd hwn a fwriwyd allan;
32
ac Myfi, os dyrchefir Fi oddiar y ddaear, pawb a dynnaf Attaf Fy hun.
33
A hyn a ddywedodd Efe gan arwyddo o ba fath angau yr oedd ar fedr marw.
34
Atteb, gan hyny, Iddo a wnaeth y dyrfa, Nyni a glywsom o’r Gyfraith fod Crist yn aros yn dragywydd: a pha fodd yr wyt Ti yn dywedyd, Rhaid dyrchafu Mab y Dyn?
35
Pwy yw’r Mab y Dyn hwn? Dywedyd, gan hyny, iddynt a wnaeth yr Iesu, Etto ychydig ennyd y mae’r goleuni yn eich plith. Rhodiwch tra y mae’r goleuni genych, rhag i dywyllwch eich goddiweddyd: a’r hwn sy’n rhodio yn y tywyllwch, ni ŵyr i ba le y mae yn myned.
36
Tra y mae’r goleuni genych, credwch yn y goleuni, fel y byddoch feibion y goleuni. Y pethau hyn a lefarodd yr Iesu, ac wedi myned ymaith ymguddiodd rhagddynt.
37
Ac Efe wedi gwneuthur cymmaint o arwyddion yn eu gwydd, ni chredasant Ynddo;
38
fel y byddai i ymadrodd Eshaiah y prophwyd ei gyflawni, yr hwn a ddywedodd efe, “Arglwydd, pwy a gredodd i’n hymadrodd? A braich Iehofah, i bwy y dadguddiwyd hi?”
39
Ac o achos hyn ni allent gredu oblegid dywedyd o Eshaiah drachefn,
40
“Dallodd eu llygaid hwynt, a chaledodd eu calon hwynt, Rhag gweled o honynt â’u llygaid, a deall â’u calon, Ac ymchwelyd o honynt, ac eu hiachau Genyf.”
41
Y pethau hyn a ddywedodd Eshaiah, am weled o hono Ei ogoniant; a llefarodd am Dano Ef.
42
Er hyny i gyd, hyd yn oed o’r pennaethiaid llawer a gredasant Ynddo; ond oblegid y Pharisheaid ni chyffesasant, rhag eu rhoi allan o’r sunagog,
43
canys carent ogoniant dynion yn fwy na gogoniant Duw.
44
A’r Iesu a lefodd, ac a ddywedodd, Yr hwn sy’n credu Ynof, nid credu Ynof Fi y mae, eithr yn yr Hwn a’m danfonodd:
45
a’r hwn sydd yn Fy ngweled, gweled yr Hwn a’m danfonodd y mae.
46
Myfi, yn oleuni y daethum i’r byd hwn, fel pob un y sy’n credu Ynof, yn y tywyllwch nad arhoso.
47
Ac os neb a glywo Fy ngeiriau I, ac na’u cadwo, Myfi ni farnaf ef, canys ni ddaethum fel y barnwn y byd, eithr fel yr achubwn y byd.
48
Yr hwn sydd yn Fy nirmygu, ac heb dderbyn Fy ymadroddion, sydd ag iddo yr hwn a’i barn: y gair yr hwn a leferais, efe a’i barn ef yn y dydd diweddaf.
49
Canys Myfi, nid o Honof Fy hun y lleferais, ond y Tad, yr Hwn a’m danfonodd, Efe a roddes i Mi orchymyn pa beth a ddywedwn a pha beth a lefarwn:
50
ac Ei orchymyn, gwn mai bywyd tragywyddol yw; y pethau, gan hyny, yr wyf Fi yn eu llefaru, fel y dywedodd y Tad Wrthyf, felly yr wyf yn llefaru.
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21