bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
John 13
John 13
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 14 →
1
A chyn gwyl y Pasg, gan wybod o’r Iesu y daethai Ei awr i fyned trosodd o’r byd hwn at y Tad, wedi caru yr Eiddo y rhai oedd yn y byd, hyd y diwedd y carodd hwynt.
2
A swpper wedi dyfod (diafol eisoes wedi ei fwrw i’w galon i Iwdas mab Shimon, Ishcariot, Ei draddodi Ef),
3
gan wybod o’r Iesu fod pob peth wedi ei roddi Iddo, i’w ddwylaw, gan y Tad, ac mai o Dduw y daethai allan,
4
ac at Dduw Ei fod yn myned, cyfododd oddiar y swpper, a rhoddodd ymaith Ei gochl-wisg, ac wedi cymmeryd tywel, ymwregysodd.
5
Wedi hyny, tywalltodd ddwfr i’r cawg, a dechreuodd olchi traed y disgyblion, ac eu sychu â’r tywel â’r hwn yr ymwregysasai.
6
Daeth, gan hyny, at Shimon Petr. Dywedodd efe Wrtho, Arglwydd, ai Ti sy’n golchi fy nhraed i?
7
Attebodd yr Iesu a dywedodd wrtho, Yr hyn yr wyf Fi yn Ei wneuthur, tydi ni wyddost yr awr hon; ond cenfyddi ef ar ol hyn.
8
Dywedyd Wrtho a wnaeth Petr, Ni olchi er dim, fy nhraed i, byth. Atteb iddo a wnaeth yr Iesu, Oni olchaf di, nid oes i ti gyfran gyda Mi.
9
Dywedyd Wrtho a wnaeth Shimon Petr, Arglwydd, nid fy nhraed yn unig, eithr fy nwylaw hefyd ac fy mhen.
10
Dywedyd wrtho a wnaeth yr Iesu, I’r hwn a olchwyd, nid oes rhaid ond golchi ei draed, eithr y mae efe yn lân oll.
11
A chwychwi, glân ydych, eithr nid pawb o honoch; canys gwyddai pwy a’i traddodai Ef; o achos hyn y dywedodd, Nid pawb o honoch sydd lân.
12
Am hyny pan olchasai eu traed, a chymmeryd ei ddillad, a lled-orwedd trachefn, dywedodd wrthynt, A wyddoch chwi pa beth a wnaethum i chwi?
13
Chwi a’m galwch “Yr Athraw,” ac “Yr Arglwydd;” a da y dywedwch, canys felly yr wyf.
14
Os Myfi, gan hyny, a olchais eich traed chwi, “Yr Arglwydd,” ac “Yr Athraw,” chwi hefyd a ddylech olchi traed eich gilydd,
15
canys esampl a roddais i chwi er mwyn fel y bu i Mi wneuthur i chwi, y bo i chwithau hefyd wneud.
16
Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Nid yw gwas yn fwy na’i arglwydd, na chenhadwr yn fwy na’r hwn a’i danfonodd.
17
Os y pethau hyn a wyddoch, gwyn eich byd os gwnewch hwynt.
18
Nid am bawb o honoch yr wyf yn dywedyd: Myfi a wn pwy a etholais; eithr fel y bo i’r Ysgrythyr ei chyflawni, “Yr hwn sy’n bwytta fy mara, a ddyrchafodd ei sawdl i’m herbyn.”
19
Ac yn awr yr wyf yn dywedyd wrthych cyn na ddigwydd, fel y credoch pan ddigwyddo, mai Myfi yw Efe.
20
Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, yr hwn sy’n derbyn pwy bynnag a ddanfonwyf, Myfi a dderbyn efe; a’r hwn sy’n derbyn Myfi, sy’n derbyn yr Hwn a’m danfonodd.
21
A phan y pethau hyn a ddywedasai Efe, yr Iesu a gynhyrfwyd yn Ei yspryd, a thystiolaethodd, a dywedodd, Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Un o honoch a’m traddoda.
22
Edrych at eu gilydd a wnaeth y disgyblion mewn dyryswch am bwy y dywedai.
23
A lled-orwedd yr oedd un o’i ddisgyblion ym mynwes yr Iesu, yr hwn oedd hoff gan yr Iesu:
24
ar hwnw, gan hyny, yr amneidiodd Shimon Petr, a dywedodd wrtho, Dywaid i ni pwy yw yr hwn am yr hwn y dywaid Efe.
25
Efe yn gorwedd felly ar ddwyfron yr Iesu a ddywedodd Wrtho, Arglwydd, pwy yw efe?
26
Atteb, gan hyny, a wnaeth yr Iesu, Hwnw yw efe i’r hwn y bydd i Mi, wedi trochi o Honof y tammaid, ei roddi iddo. Wedi trochi’r tammaid, gan hyny, cymmerodd a rhoddodd ef i Iwdas, mab Shimon Ishcariot.
27
Ac ar ol y tammaid, yna yr aeth Satan i mewn iddo. Dywedyd wrtho gan hyny a wnaeth yr Iesu, Yr hyn yr wyt yn ei wneud, gwna ar frys.
28
A hyn nid oedd neb o’r rhai yn eu lled-orwedd yn gwybod i ba beth y dywedasai Efe wrtho;
29
canys rhai a dybient gan fod y cwd gan Iwdas, mai dywedyd wrtho yr oedd yr Iesu, Pryn y pethau y mae rhaid i ni wrthynt i’r wyl, neu I’r tlodion y rhoddai ryw beth.
30
Wedi derbyn y tammaid, gan hyny, efe a aeth allan yn uniawn. Ac yr oedd hi yn nos.
31
Gan hyny, pan aethai efe allan, dywedodd yr Iesu, Yn awr gogoneddwyd Mab y Dyn, a Duw a ogoneddwyd Ynddo:
32
a Duw a’i gogonedda Ef Ynddo Ei hun, ac yn uniawn y gogonedda Ef.
33
O blant bychain, ychydig etto gyda chwi yr wyf. Ceisiwch Fi; ac fel y dywedais wrth yr Iwddewon, Lle yr wyf Fi yn cilio, chwychwi ni ellwch ddyfod, wrthych chwi hefyd yr wyf yn dywedyd yr awr hon.
34
Gorchymyn newydd yr wyf yn ei roddi i chwi, Ar garu o honoch eich gilydd; fel y cerais chwi, ar i chwithau hefyd garu eich gilydd.
35
Wrth hyn y gwybydd pawb mai i Myfi yr ydych yn ddisgyblion, os bydd cariad genych i’ch gilydd.
36
Dywedyd Wrtho a wnaeth Shimon Petr, Arglwydd, i ba le yr wyt yn cilio? Attebodd yr Iesu, Lle yr wyf yn cilio iddo, ni elli yr awr hon Fy nghanlyn; ond canlyni ar ol hyn.
37
Dywedyd Wrtho a wnaeth Petr, Arglwydd, paham na allaf Dy ganlyn Di yr awrhon? Fy einioes, trosot Ti, a ddodaf i lawr.
38
Attebodd yr Iesu, Dy einioes, trosof Fi, a ddodi i lawr! Yn wir, yn wir y dywedaf wrthyt, Ni fydd i geiliog ganu nes y gwedi Fi dair gwaith.
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 14 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21