bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
John 2
John 2
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 3 →
1
A’r trydydd dydd, priodas oedd yn Cana Galilea, ac yr oedd mam yr Iesu yno;
2
a galwyd yr Iesu hefyd a’i ddisgyblion i’r briodas.
3
A chwedi pallu o’r gwin, dywedodd mam yr Iesu Wrtho, Gwin nid oes ganddynt.
4
Ac wrthi y dywedodd yr Iesu, Pa beth sydd i Mi a wnelwyf â thi, wraig?
5
Ni ddaeth etto mo Fy awr. Dywedodd Ei fam wrth y gwasanaethwyr, Pa beth bynnag a ddywedo Efe wrthych, gwnewch.
6
Ac yr oedd yno ddyfr-lestri meini, chwech o honynt, yn ol defod puredigaeth yr Iwddewon, yn sefyll, ac yn dal, bob un, ddau ffircyn neu dri.
7
Wrthynt y dywedodd yr Iesu, Llenwch y dyfr-lestri o ddwfr: a llanwasant hwynt hyd at yr ymyl:
8
a dywedodd wrthynt, Tynnwch yn awr, a dygwch at lywodraethwr y wledd. A hwy a ddygasant.
9
A phan archwaethodd llywodraethwr y wledd y dwfr a wnaethpwyd yn win, ac ni wyddai o ba le yr ydoedd, (ond y gwasanaethwyr a wyddent, sef y rhai a dynnasant y dwfr), galw ar y priod-fab a wnaeth llywodraethwr y wledd,
10
a dywedodd wrtho, Pob dyn a esyd yn gyntaf y gwin da; a phan feddwont, yr hwn sydd waelach; tydi a gedwaist y gwin da hyd yr awr hon.
11
Hyn o ddechreu Ei arwyddion a wnaeth yr Iesu yn Cana Galilea, ac amlygodd Ei ogoniant; a chredu Ynddo a wnaeth Ei ddisgyblion.
12
Wedi hyn yr aeth i wared i Caphernahwm, Efe a’i fam a’i frodyr ac Ei ddisgyblion; ac yno yr arhosasant nid nemmawr o ddyddiau.
13
Ac agos oedd Pasg yr Iwddewon, ac aeth yr Iesu i fynu i Ierwshalem.
14
A chafodd yn y deml y rhai yn gwerthu eu hychen a defaid a cholommenod, a’r newidwyr arian yn eu heistedd: ac wedi gwneud fflangell o gyrt, bwriodd bawb allan o’r deml, ac y defaid, ac yr ychen;
15
ac i’r newidwyr arian y tywalltodd allan eu harian, ac eu byrddau a ddymchwelodd Efe;
16
ac wrth y rhai yn gwerthu’r colommenod y dywedodd, Cymmerwch y pethau hyn oddi yma; na wnewch dŷ Fy Nhad yn dŷ marchnad.
17
A chofiodd Ei ddisgyblion ei fod yn ysgrifenedig, “Zel am Dy dŷ a’m hysodd.”
18
Attebodd yr Iwddewon, gan hyny, a dywedasant Wrtho, Pa arwydd a ddangosi i ni, gan mai’r pethau hyn a wnei?
19
Attebodd yr Iesu, a dywedodd wrthynt, Chwalwch y deml hon, ac mewn tridiau y cyfodaf hi.
20
Dywedodd yr Iwddewon, gan hyny, Chwe blynedd a deugain y buwyd yn adeiladu’r deml hon, a thydi mewn tridiau y’i cyfodi hi!
21
Ond Efe a ddywedasai am deml Ei gorph. Gan hyny,
22
pan gyfododd o feirw, cofiodd Ei ddigyblion mai hyn a ddywedasai; a chredasant yr Ysgrythyr a’r gair a ddywedasai yr Iesu.
23
A phan yr oedd Efe yn Ierwshalem ar y Pasg, yn yr wyl, llawer a gredasant yn Ei enw, wrth weled Ei arwyddion Ef, y rhai a wnaethai;
24
ond yr Iesu Ei hun nid ymddiriedodd Ei hun iddynt am Ei fod yn adnabod pawb,
25
ac am nad oedd Iddo raid i neb dystiolaethu Iddo am ddyn, canys Efe Ei hun a wyddai pa beth oedd mewn dyn.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21