bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
John 8
John 8
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 9 →
1
A’r Iesu a aeth i fynydd yr Olewydd.
2
Ac ynghyda’r wawr, daeth drachefn i’r deml, a’r holl bobl a ddaeth Atto; ac wedi eistedd o Hono, dysgodd hwynt.
3
A daeth yr ysgrifenyddion a’r Pharisheaid â gwraig a ddaliesid mewn godineb:
4
ac wedi ei gosod hi yn y canol, dywedasant wrtho, Athraw, y wraig hon a ddaliwyd ar y weithred yn godinebu.
5
Ac yn y Gyfraith Mosheh a orchymynodd i ni labyddio y cyfryw wragedd. Tydi, gan hyny, pa beth a ddywedi yn ei chylch?
6
A hyn a ddywedasant gan Ei demtio, fel y byddai ganddynt yr hyn i’w gyhuddo Ef o hono. A’r Iesu, wedi ymgrymmu tua’r llawr, a ’sgrifenodd â’i fys ar y ddaear.
7
Ac wrth barhau o honynt yn gofyn Iddo, ymsythodd a dywedodd wrthynt, Y dibechod o honoch, bydded y cyntaf i daflu carreg atti.
8
A thrachefn wedi ymgrymmu tua’r llawr, â’i fys yr ysgrifenodd ar y ddaear.
9
A hwy wedi clywed hyn, a aethant allan o un i un, gan ddechreu o’r hynaf hyd yr olaf; a gadawyd yr Iesu yn unig, a’r wraig yn y canol.
10
Ac wedi ymsythu, yr Iesu a ddywedodd wrthi, Ha wraig, pa le y maent? Oni fu i neb dy gondemnio di?
11
A hi a ddywedodd, Naddo neb, Arglwydd. A dywedodd yr Iesu, Nid wyf Finnau chwaith yn dy gondemnio di. Dos. O hyn allan na phecha mwyach.]
12
Trachefn, gan hyny, yr Iesu a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Myfi yw goleuni’r byd: yr hwn sydd yn Fy nghanlyn, ni rodia ddim yn y tywyllwch, eithr bydd a chanddo oleuni’r bywyd.
13
Gan hyny, Wrtho y dywedodd y Pharisheaid, Tydi, am Danat Dy hun y tystiolaethi; Dy dystiolaeth nid yw wir.
14
Attebodd yr Iesu a dywedodd wrthynt, Er mai Myfi a dystiolaethaf am Danaf Fy hun, gwir yw Fy nhystiolaeth, canys gwn o ba le y daethum, ac i ba le y ciliaf: ond chwychwi ni wyddoch o ba le y daethum, nac i ba le y ciliaf.
15
Chwychwi, yn ol y cnawd y bernwch; Myfi nid wyf yn barnu neb.
16
Ac os barnu a wnaf Fi, Fy marn sydd wir; canys nid yn unig yr wyf, eithr Myfi, ac yr Hwn a’m danfonodd, sef y Tad.
17
Ac yn eich Cyfraith chwi yr ysgrifenwyd, “Tystiolaeth dau ddyn, gwir yw.”
18
Myfi yw’r Hwn sy’n tystiolaethu am Danaf Fy hun, a thystiolaethu am Danaf y mae’r Hwn a’m danfonodd, sef y Tad.
19
Dywedasant, gan hyny, Wrtho, Pa le y mae Dy Dad? Attebodd yr Iesu, Nid adwaenoch na Myfi, na’m Tad: ped adnabuasech Fi, Fy Nhad hefyd a adnabuasech.
20
Yr ymadroddion hyn a lefarodd Efe yn y drysorfa, pan yn dysgu yn y deml; ac ni ddaliodd neb Ef, am na ddaethai Ei awr etto.
21
Gan hyny y dywedodd drachefn wrthynt, Myfi wyf yn cilio, a cheisiwch Fi, ac yn eich pechod y byddwch feirw: lle yr wyf Fi yn cilio, chwychwi ni ellwch ddyfod.
22
Gan hyny y dywedodd yr Iwddewon, A ladd Efe Ei hun, gan Ei fod yn dweud, “Lle yr wyf Fi yn cilio, chwychwi ni ellwch ddyfod?”
23
A dywedodd wrthynt, Chwychwi, oddi isod yr ydych; Myfi, oddi uchod yr wyf: Chwychwi, o’r byd hwn yr ydych; Myfi, nid wyf o’r byd hwn.
24
Gan hyny y dywedais wrthych, “Byddwch feirw yn eich pechodau;” canys oni chredwch mai Myfi yw Efe, byddwch feirw yn eich pechodau.
25
Gan hyny y dywedasant Wrtho, Tydi, pwy wyt? Wrthynt y dywedodd yr Iesu, Yr hyn a ddywedais wrthych hyd yn oed o’r dechreuad.
26
Llawer o bethau sydd Genyf i’w llefaru ac i’w barnu am danoch; eithr yr Hwn a’m danfonodd, gwir yw; ac Myfi, y pethau a glywais Ganddo, y rhai hyn yr wyf yn eu llefaru i’r byd.
27
Ni wyddent mai am y Tad y dywedai wrthynt.
28
Gan hyny y dywedodd yr Iesu, Pan ddyrchafoch Fab y Dyn, yna y gwybyddwch mai Myfi yw Efe, ac o Honof Fy hun nad wyf yn gwneuthur dim; eithr fel y dysgodd Fy Nhad I, y pethau hyn yr wyf yn eu llefaru.
29
Ac yr Hwn a’m danfonodd, ynghyda Mi y mae; ni adawodd Fi yn unig, canys y pethau sydd foddlawn Ganddo, yr wyf Fi yn eu gwneuthur bob amser.
30
Ac Efe yn llefaru y pethau hyn, llawer a gredasant Ynddo.
31
Gan hyny y dywedodd yr Iesu wrth yr Iwddewon a gredasant Ynddo, Os chwi a arhoswch yn Fy ngair I, Fy nisgyblion mewn gwirionedd ydych;
32
a chewch wybod y gwirionedd, a’r gwirionedd a’ch rhyddha.
33
Attebasant Iddo, Had Abraham ydym, ac i neb ni fuom gaeth erioed. Pa fodd yr wyt Ti yn dweud, Rhyddion fyddwch?
34
Atteb iddynt a wnaeth yr Iesu, Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Pob un y sy’n gwneuthur pechod, caethwas yw i bechod.
35
Y caethwas ni erys yn y tŷ am byth; y Mab a erys am byth.
36
Gan hyny, os y Mab a’ch rhyddha chwi, gwir-ryddion fyddwch.
37
Gwn mai “had Abraham” ydych; eithr ceisio Fy lladd I yr ydych, gan nad yw Fy ngair a lle iddo ynoch.
38
Y pethau a welais I gyda’r Tad, yr wyf yn eu llefaru; a chwithau hefyd, y pethau a glywsoch gan eich tad, yr ydych yn eu gwneud.
39
Attebasant a dywedasant Wrtho, Ein tad, Abraham yw. Wrthynt y dywedodd yr Iesu,
40
Pe plant Abraham fyddech, gweithredoedd Abraham a wnaech. Ond yn awr ceisio Fy lladd I yr ydych, dyn a ddywedodd i chwi y gwirionedd yr hwn a glywais gan Dduw.
41
Hyn ni wnaeth Abraham. Chwi ydych yn gwneuthur gweithredoedd eich tad.
42
Dywedasant Wrtho, Nyni, nid trwy butteindra y’n cenhedlwyd. Un Tad sydd genym, sef Duw. Dywedyd wrthynt a wnaeth yr Iesu, Pe Duw fyddai eich Tad, carech Fi, canys Myfi, oddiwrth Dduw y daethum allan, ac yr wyf wedi dyfod,
43
canys nid o Honof Fy hun y deuais, eithr Efe a’m danfonodd I. Paham na ddeallwch Fy ymadrodd? Am na ellwch wrando Fy ngair I.
44
Chwychwi, o’ch tad, y diafol, yr ydych; a thrachwantau eich tad a ewyllysiwch eu gwneuthur. Efe, lleiddiad dyn yr oedd o’r dechreuad, ac yn y gwirionedd ni safodd, gan nad oes gwirionedd ynddo. Pan lefaro gelwydd, o’r eiddo ei hun y llefara, canys celwyddwr yw, ac yn dad iddo.
45
Ond Myfi, gan mai y gwirionedd yr wyf yn ei ddywedyd, nid ydych yn Fy nghredu.
46
Pwy o honoch a’m hargyhoedda am bechod? Os y gwirionedd yr wyf yn ei ddywedyd, paham nad ydych chwi yn Fy nghredu?
47
Yr hwn sydd o Dduw, ymadroddion Duw a wrendy efe; o achos hyn nid ydych chwi yn eu gwrando, am nad o Dduw yr ydych.
48
Attebodd yr Iwddewon a dywedasant Wrtho, Onid da y dywedwn mai Shamariad wyt Ti, a chythraul sydd Genyt.
49
Attebodd yr Iesu, Myfi nid wyf a chythraul Genyf, eithr anrhydeddu Fy Nhad yr wyf, a chwychwi ydych yn Fy nianrhydeddu I.
50
Ond Myfi nid wyf yn ceisio Fy ngogoniant; y mae a’i cais, ac a farn.
51
Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Os Fy ngair I a geidw dyn, marwolaeth ni wel efe yn dragywydd.
52
Dywedyd Wrtho a wnaeth yr Iwddewon, Yn awr y gwyddom fod cythraul Genyt. Abraham a fu farw, ac y prophwydi; a Thydi a ddywedi, “Os Fy ngair a geidw dyn, nid archwaetha farwolaeth yn dragywydd.”
53
A wyt Ti yn fwy na’n tad Abraham, yr hwn a fu farw? A’r prophwydi a fuant feirw? Pwy yr wyt yn Dy wneuthur Dy hun?
54
Attebodd yr Iesu, Os wyf Fi yn gogoneddu Fy hun, Fy ngogoniant nid yw ddim; Fy Nhad yw’r Hwn sydd yn Fy ngogoneddu, am yr Hwn chwi a ddywedwch mai eich Duw yw, ac nid adwaenoch Ef.
55
Ond Myfi a’i hadwaen Ef, ac os dywedaf nad adwaen Ef, byddaf debyg i chwi, yn gelwyddwr: eithr Ei adnabod yr wyf, a’i air Ef yr wyf yn ei gadw.
56
Abraham eich tad a orfoleddodd am weled Fy nydd I: a gwelodd ef, a llawenychodd.
57
Gan hyny y dywedodd yr Iwddewon Wrtho, Deng mlwydd a deugain nid oes etto Genyt, ac Abraham a welaist!
58
Dywedyd wrthynt a wnaeth yr Iesu, Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Cyn i Abraham ei eni, Myfi wyf.
59
Gan hyny y codasant gerrig fel y’u taflent Atto. A’r Iesu a ymguddiodd, a ac aeth allan o’r deml.
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21