bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
John 15
John 15
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 16 →
1
Myfi yw’r winwydden wir; ac Fy Nhad, y llafurwr yw.
2
Pob cangen Ynof nad yw yn dwyn ffrwyth, cymmer Efe hi ymaith; a phob un y sy’n dwyn ffrwyth, ei glanhau y mae Efe, fel y dygo fwy o ffrwyth.
3
Yn awr chwychwi ydych lân o achos y gair a leferais wrthych.
4
Arhoswch Ynof, ac Myfi ynoch chwi. Fel nad yw’r gangen yn abl i ddwyn ffrwyth o honi ei hun os nad erys yn y winwydden, felly ni ellwch chwithau os nad Ynof yr arhoswch.
5
Myfi yw’r winwydden, chwychwi yw’r canghennau. Yr hwn sy’n aros Ynof, ac Myfi ynddo yntau, efe sy’n dwyn ffrwyth lawer; canys yn wahan Oddiwrthyf ni ellwch wneuthur dim.
6
Onid erys un Ynof, bwrir ef allan, fel y gangen, a gwywa: a chasglant hwynt, ac i’r tân y’u bwriant, a llosgir hwynt.
7
Os arhoswch Ynof, ac Fy ngeiriau a arhosant ynoch, pa beth bynnag a ewyllysiwch, gofynwch ef, a bydd i chwi.
8
Yn hyn y gogoneddir Fy Nhad, pan ffrwyth lawer a ddygoch; a byddwch Fy nisgyblion I.
9
Fel y carodd y Tad Fi, Minnau hefyd a’ch cerais chwi. Arhoswch yn Fy nghariad I.
10
Os Fy ngorchymynion a gedwch, arhoswch yn Fy nghariad; fel y cedwais I orchymynion Fy Nhad, ac yr wyf yn aros yn Ei gariad Ef.
11
Y pethau hyn a leferais wrthych, fel y bo Fy llawenydd ynoch, ac i’ch llawenydd ei gyflawni.
12
Hwn yw Fy ngorchymyn, Ar garu o honoch eich gilydd fel y cerais chwi.
13
Cariad mwy na hwn nid oes gan neb, sef fod i ddyn ddodi i lawr ei einioes dros ei gyfeillion.
14
Chwychwi yw Fy nghyfeillion, os gwnewch y pethau yr wyf Fi yn eu gorchymyn i chwi.
15
Nid wyf mwyach yn eich galw yn weision, canys y gwas ni wŷr pa beth y mae ei arglwydd ef yn ei wneuthur; ond chwi a elwais yn gyfeillion, canys pob peth o’r a glywais gan Fy Nhad, a hyspysais i chwi.
16
Nid chwi a’m dewisasoch I, eithr Myfi a ddewisais chwi, ac a’ch gosodais fel yr eloch chwi, a ffrwyth a ddygoch, ac y bo i’ch ffrwyth aros; fel pa beth bynnag a ofynoch gan y Tad, y rhoddo Efe i chwi.
17
Hyn a orchymynaf i chwi, Garu o honoch eich gilydd.
18
Os y byd a’ch casa chwi, gwyddoch y bu’m I o’ch blaen chwi yn gas ganddo.
19
Os o’r byd y byddech, y byd a garai ei eiddo; ond gan nad o’r byd yr ydych, eithr Myfi a’ch dewisais allan o’r byd, o achos hyn eich casau y mae y byd.
20
Cofiwch yr ymadrodd a ddywedais I wrthych, Nid yw’r gwas yn fwy na’i arglwydd. Os Myfi a erlidiasant, chwychwi hefyd a erlidiant: os Fy ngair I a gadwasant, yr eiddoch chwithau hefyd a gadwant.
21
Ond y pethau hyn oll a wnant i chwi o achos Fy enw, gan nad adnabuant yr Hwn a’m danfonodd.
22
Pe na ddelswn a llefaru wrthynt, pechod ni fuasai arnynt; ond yr awrhon nid oes esgus ganddynt am eu pechod.
23
Yr hwn a’m casao I, Fy Nhad hefyd a gasa efe.
24
Pe na wnelswn yn eu plith weithredoedd na fu i neb arall eu gwneud, pechod ni fuasai arnynt; ond yn awr, gwelsant a chasasant Fyfi ac Fy Nhad.
25
Eithr fel y cyflawnid y gair sydd ysgrifenedig yn eu Cyfraith, “Casasant fi yn ddïachos.”
26
Ond pan ddel y Diddanydd, yr Hwn a ddanfonaf Fi i chwi oddiwrth y Tad, Yspryd y gwirionedd, yr Hwn o’r Tad y deilliaw, Efe a dystiolaetha am Danaf;
27
a chwychwi a dystiolaethwch, canys o’r dechreuad yr ydych gyda Mi.
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 16 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21