bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
John 14
John 14
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 15 →
1
Na chynhyrfer eich calon chwi. Credu yr ydych yn Nuw; ac Ynof Finnau hefyd credwch.
2
Yn nhy Fy Nhad trigfannau lawer sydd; a phe amgen, dywedaswn i chwi, canys myned yr wyf i barottoi lle i chwi.
3
Ac os af a pharottoi i chwi le, trachefn y deuaf a chymmeraf chwi Attaf Fy hun, fel lle yr wyf Fi, y bo i chwithau hefyd fod.
4
Ac i ba le yr wyf Fi yn cilio, gwyddoch y ffordd.
5
Dywedyd Wrtho a wnaeth Thomas, Arglwydd, nis gwyddom i ba le yr wyt yn cilio.
6
Pa fodd y gwyddom y ffordd? Dywedyd wrtho a wnaeth yr Iesu, Myfi wyf y ffordd a’r gwirionedd a’r bywyd; nid oes neb yn dyfod at y Tad, oddieithr trwof Fi.
7
Ped adnabuasech Fi, Fy Nhad hefyd a adnabuasech.
8
O hyn allan yr adwaenoch Ef, a gwelsoch Ef. Dywedyd Wrtho a wnaeth Philip, Arglwydd, dangos i ni y Tad, a digon yw i ni.
9
Dywedyd wrtho a wnaeth yr Iesu, Ai cyhyd o amser yr wyf gyda chwi, ac nid adnabuost Fi, Philip? Yr hwn a’m gwelodd I a welodd y Tad. Pa fodd yr wyt Ti yn dweud, “Dangos i ni y Tad?”
10
Oni chredi Fy mod I yn y Tad, a’r Tad Ynof Finnau? Yr ymadroddion y rhai yr wyf Fi yn eu llefaru wrthych, nid o Honof Fy hun yr wyf yn eu llefaru, ond y Tad y sy’n aros Ynof Fi sy’n gwneuthur Ei weithredoedd.
11
Credwch Fi Fy mod I yn y Tad, ac y Tad Ynof Finnau: ac onite, o achos y gweithredoedd eu hunain credwch Fi.
12
Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Yr hwn sy’n credu Ynof, y gweithredoedd y rhai yr wyf Fi yn eu gwneuthur, hwnw hefyd a’u gwna, ac rhai mwy na’r rhai hyn a wna efe, gan mai at y Tad yr wyf Fi yn myned.
13
A pha beth bynnag a ofynoch yn Fy enw, hyny a wnaf, fel y gogonedder y Tad yn y Mab.
14
Os gofynwch i Mi ryw beth yn Fy enw, hyny a wnaf.
15
Os caru Fi yr ydych, Fy ngorchymynion a gedwch,
16
ac Myfi a ofynaf i’r Tad, a Diddanydd arall a rydd Efe i chwi,
17
fel y bo gyda chwi yn dragywydd, sef Yspryd y gwirionedd, yr Hwn ni all y byd Ei dderbyn am na wel Ef, ac nad adwaen efe Ef. Chwi a’i hadwaenoch Ef, gan mai gyda chwi y mae yn aros, ac ynoch y bydd.
18
Nis gadawaf chwi yn amddifaid: deuaf attoch.
19
Etto ennyd bach, a’r byd nid yw mwyach yn Fy ngweled, ond chwi a’m gwelwch. Oherwydd Fy mod I yn fyw, chwithau hefyd fyddwch fyw.
20
Yn y dydd hwnw y gwybyddwch chwi Fy mod I yn y Tad, a chwithau Ynof Fi, ac Myfi ynoch chwi.
21
Yr hwn sydd a’m gorchymynion ganddo, ac yn eu cadw, hwnw yw’r hwn sydd yn Fy ngharu; a’r hwn a’m câr, a gerir gan Fy Nhad; ac Myfi a’i caraf ef, ac egluraf Fy hun iddo.
22
Dywedyd Wrtho a wnaeth Iwdas (nid yr Ishcariot), Arglwydd, pa beth yw’r achos mai i nyni yr wyt ar fedr egluro Dy hun, ac nid i’r byd?
23
Attebodd yr Iesu, a dywedodd wrtho, Os neb a’m câr, Fy ngair a geidw efe; ac Fy Nhad a’i câr ef; ac atto y deuwn, a thrigfa gydag ef a wnawn.
24
Yr hwn nad yw yn Fy ngharu, Fy ngeiriau ni cheidw; ac y gair a glywch nid yw Fy eiddo I, eithr eiddo y Tad yr Hwn a’m danfonodd.
25
Y pethau hyn a leferais wrthych, tra gyda chwi yr wyf yn aros;
26
ond y Diddanydd, yr Yspryd Glân, yr Hwn a ddenfyn y Tad yn Fy enw, Efe a ddysg i chwi bob peth, ac a ddwg i’ch cof yr holl bethau a ddywedais wrthych.
27
Tangnefedd yr wyf yn ei adael i chwi; Fy nhangnefedd yr wyf yn ei roddi i chwi; nid fel y mae’r byd yn rhoddi, yr wyf Fi yn rhoddi i chwi. Na chynhyrfer eich calon, ac nad ofned.
28
Clywsoch, canys Myfi a ddywedais wrthych, “Ciliaf, a deuaf attoch.” Pe carech Fi, llawenychech oherwydd myned o Honof at y Tad; canys y Tad, mwy na Myfi yw.
29
Ac yr awr hon y dywedais wrthych cyn na ddigwydd, fel pan ddigwyddo, y credoch.
30
Nid llawer peth mwyach a lefaraf gyda chwi, canys dyfod y mae llywodraethwr y byd, ac Ynof Fi nid oes iddo ddim:
31
eithr fel y gwypo’r byd Fy mod yn caru y Tad, ac fel y gorchymynodd y Tad i Mi, felly yr wyf yn gwneuthur. Codwch, awn oddi yma.
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 15 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21