bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
John 9
John 9
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 10 →
1
Ac wrth fyned heibio, gwelodd ddyn dall o’i enedigaeth.
2
A gofyn Iddo a wnaeth Ei ddisgyblion, gan ddywedyd, Rabbi, pwy a bechodd, ai hwn ai ei rieni, fel mai dall y genid ef?
3
Attebodd yr Iesu, Hwn ni phechodd nac ei rieni; eithr fel yr amlygid gweithredoedd Duw ynddo.
4
I ni y mae rhaid gweithio gweithredoedd yr Hwn a’m danfonodd tra y mae’ r dydd: dyfod y mae’ r nos, pan ni all neb weithio.
5
Tra yn y byd yr wyf, goleuni’r byd ydwyf.
6
Wedi dywedyd y geiriau hyn, poerodd ar lawr, a gwnaeth glai o’r poeryn, ac enneiniodd y clai ar ei lygaid ef, a dywedodd wrtho, Dos;
7
ymolch yn llyn Shiloam (yr hwn a gyfieithir Danfonedig). Gan hyny yr aeth efe ymaith, ac ymolchodd, a daeth yn gweled.
8
Y cymmydogion, gan hyny, ac y rhai a’i gwelent ef o’r blaen mai cardotyn ydoedd, a ddywedasant, Onid hwn yw’r dyn oedd yn eistedd ac yn cardotta?
9
Eraill a ddywedasant, Nage, eithr tebyg iddo yw. Efe a ddywedodd, Myfi yw efe.
10
Dywedasant, gan hyny, wrtho, Pa fodd, gan hyny, yr agorwyd dy lygaid di?
11
Attebodd efe, Y dyn a elwir Iesu, clai a wnaeth Efe, ac enneiniodd fy llygaid i, a dywedodd wrthyf, “Dos i Shiloam ac ymolch.” Wedi myned, gan hyny, ac wedi ymolchi, fy ngolwg a gefais.
12
A dywedasant wrtho, Pa le y mae Efe? Dywedodd, Nis gwn.
13
Dygasant ef at y Pharisheaid, sef yr hwn oedd gynt yn ddall.
14
A Sabbath oedd y dydd yn yr hwn y gwnaeth yr Iesu y clai, ac yr agorodd ei lygaid ef.
15
Trachefn, gan hyny, y gofynodd y Pharisheaid iddo pa fodd y cawsai ei olwg. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Clai a osododd Efe ar fy llygaid i, ac ymolchais, a gweled yr wyf.
16
Gan hyny y dywedodd rhai o’r Pharisheaid, Nid yw y dyn hwn o Dduw, gan mai y Sabbath ni cheidw. Ac eraill a ddywedasant, Pa fodd y gall dyn pechadurus wneuthur y fath arwyddion?
17
Ac ymraniad oedd yn eu plith. Dywedasant, gan hyny, drachefn wrth y dall, Pa beth yr wyt ti yn ei ddywedyd am Dano Ef, am agoryd o Hono dy lygaid di?
18
Ac efe a ddywedodd, Prophwyd yw. Gan hyny, ni chredodd yr Iwddewon am dano, mai dall fuasai, a chael o hono ei olwg, nes galw o honynt rieni yr hwn a gawsai ei olwg,
19
a gofyn iddynt, gan ddywedyd, Ai hwn yw eich mab, am yr hwn yr ydych chwi yn dweud mai dall y ganwyd ef? Pa fodd, gan hyny, y gwel efe yn awr?
20
Attebodd ei rieni, a dywedasant, Gwyddom mai hwn yw ein mab, ac mai dall y ganwyd ef;
21
ond pa fodd y mae efe yr awrhon yn gweled, nis gwyddom; neu pwy a agorodd ei lygaid ef, nyni nis gwyddom. Gofynwch iddo ef ei hun; mewn oedran y mae. Efe a lefara am dano ei hun.
22
Hyn a ddywedodd ei rieni, oherwydd ofni o honynt yr Iwddewon, canys eisioes y cyttunasai yr Iwddewon, os cyfaddefai neb Ef yn Grist, y cai ei roi allan o’r sunagog.
23
O achos hyn ei rieni a ddywedasant, Mewn oedran y mae; gofynwch iddo ef ei hun.
24
Gan hyny, galwasant y dyn eilwaith, sef yr hwn a fuasai ddall, a dywedasant wrtho, Dyro ogoniant i Dduw. Nyni a wyddom fod y dyn hwn yn bechadur.
25
Gan hyny yr attebodd efe, Ai pechadur yw, nis gwn. Un peth a wn, lle yr oeddwn yn ddall, yn awr y gwelaf.
26
Dywedasant, gan hyny, wrtho, Pa beth a wnaeth Efe i ti? Pa fodd yr agorodd dy lygaid di?
27
Attebodd iddynt, Dywedais wrthych eisoes, ac ni wrandawsoch. Paham yr ewyllysiwch glywed drachefn? A ydych chwi yn ewyllysio myned yn ddisgyblion iddo?
28
A difenwasant ef, a dywedasant, Tydi sydd ddisgybl Iddo Ef, ond nyni, i Mosheh yr ydym yn ddisgyblion.
29
Nyni a wyddom mai wrth Mosheh y llefarodd Duw; ond am Hwn, nis gwyddom o ba le y mae.
30
Attebodd y dyn, a dywedodd wrthynt, Yn hyn yn ddiau y mae yn rhyfedd, nad ydych chwi yn gwybod o ba le y mae, ac agorodd Efe fy llygaid i.
31
Gwyddom ar bechaduriaid nad yw Duw yn gwrando, ond os addolwr yw neb, ac Ei ewyllys Ef a wnelo efe, hwnw y mae yn ei wrando.
32
Ni chlybuwyd erioed agoryd o neb lygaid un a anesid yn ddall.
33
Oni bai Hwn o Dduw, ni allasai wneuthur dim.
34
Attebasant, a dywedasant wrtho, Mewn pechodau y’th anwyd di oll; a thydi wyt yn ein dysgu ni! A bwriasant ef allan.
35
Clywodd yr Iesu y bwriasant ef allan; a phan gafodd ef, dywedodd, A wyt ti yn credu ym Mab Duw?
36
Attebedd efe a dywedodd, A phwy yw Efe, Arglwydd, fel y credwyf Ynddo?
37
Dywedodd yr Iesu, Gwelaist Ef, ac yr Hwn sy’n llefaru â thi, Hwnw yw Efe.
38
Ac efe a ddywedodd, Credu yr wyf, Arglwydd; ac addolodd Ef.
39
A dywedodd yr Iesu, I farn Myfi a ddaethum i’r byd hwn, fel y bo i’r rhai na welant weled, ac i’r rhai sy’n gweled fyned yn ddeillion.
40
Clywodd rhai o’r Phariseaid y pethau hyn, sef y rhai oedd gydag Ef, a dywedasant Wrtho, A ydym ninnau hefyd yn ddeillion?
41
Dywedyd wrthynt a wnaeth yr Iesu, Pe deillion fyddech, ni fyddai genych bechod: ond yn awr y dywedwch, “Gwelwn,” a ’ch pechod sy’n aros.
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 10 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21