bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
John 19
John 19
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 20 →
1
Yna, gan hyny, y cymmerodd Pilat yr Iesu, a fflangellodd Ef.
2
A’r milwyr, wedi plethu coron o ddrain, a’i gosodasant ar Ei ben Ef; a chochl burpur a roisant am Dano;
3
a daethant Atto, a dywedasant, Henffych well, Brenhin yr Iwddewon; a rhoisant Iddo gernodiau.
4
A myned allan trachefn a wnaeth Pilat, a dywedodd wrthynt, Wele, Ei ddwyn Ef allan attoch yr wyf, fel y gwypoch nad wyf yn cael Ynddo ddim bai.
5
Aeth yr Iesu, gan hyny, allan, yn gwisgo y goron ddrain a’r gochl burpur. A dywedodd Pilat wrthynt, Wele y dyn.
6
Gan hyny, pan welodd yr archoffeiriaid a’r gweinidogion Ef, bloeddiasant, gan ddywedyd, Croes-hoelia; croes-hoelia Ef. Dywedyd wrthynt a wnaeth Pilat, Cymmerwch chwi Ef, a chroes-hoeliwch; canys nid wyf fi yn cael Ynddo fai.
7
Atteb iddo a wnaeth yr Iwddewon, Nyni sydd a Chyfraith genym; ac yn ol y Gyfraith dylai farw, am mai Mab Duw y gwnaeth Efe Ef Ei hun.
8
Gan hyny, pan glywodd Pilat yr ymadrodd hwn, mwy yr ofnodd;
9
ac aeth i mewn i’r llys drachefn, a dywedodd wrth yr Iesu, O ba le yr wyt Ti?
10
A’r Iesu ni roddes atteb iddo. Dywedyd, gan hyny, Wrtho a wnaeth Pilat, Ai wrthyf fi na leferi? Oni wyddost fod genyf awdurdod i’th ollwng yn rhydd, a bod genyf awdurdod i’th groes-hoelio?
11
Atteb iddo a wnaeth yr Iesu, Ni fuasai genyt ddim awdurdod yn Fy erbyn, oni bai ei rhoddi i ti oddi uchod: o achos hyn, yr hwn a’m traddodes i ti sydd â phechod mwy arno.
12
O hyny allan, ceisiodd Pilat Ei ollwng Ef yn rhydd; ond yr Iwddewon a waeddasant, gan ddywedyd, Os Hwn a ollyngi yn rhydd, nid wyt gyfaill i Cesar. Pob un y sy’n gwneuthur ei hun yn frenhin, dywedyd yn erbyn Cesar y mae.
13
Pilat, gan hyny, wedi clywed y geiriau hyn, a ddug allan yr Iesu, ac eisteddodd ar y frawd-faingc yn y lle a elwir y Palmant, ac yn Hebraeg, Gabbatha.
14
A Pharottoad y Pasg oedd hi; ac ynghylch y chweched awr; a dywedodd efe wrth yr Iwddewon, Wele eich Brenhin.
15
Gan hyny y bloeddiasant hwy, Ymaith ag Ef; ymaith ag Ef; croes-hoelia Ef. Wrthynt y dywedodd Pilat, Ai eich Brenhin a groes-hoeliaf? Attebodd yr archoffeiriaid, Nid oes genym frenhin oddieithr Cesar.
16
Yna, gan hyny, y traddododd Ef iddynt i’w groes-hoelio.
17
Gan hyny y cymmerasant yr Iesu. A chan ddwyn y groes Iddo Ei hun, yr aeth Efe allan i’r lle a elwir Lle ’r benglog,
18
yr hyn a elwir yn Hebraeg, Golgotha; lle y croes-hoeliasant Ef, ac ynghydag Ef ddau eraill, un o bob tu, a’r Iesu yn y canol.
19
Ac ysgrifenodd Pilat ditl, a dododd ef ar y groes: ac yr oedd yn ysgrifenedig, Iesu y Natsaread, Brenhin yr Iwddewon.
20
Y titl hwn, gan hyny, llawer o’r Iwddewon a ddarllenasant, canys agos i’r ddinas oedd y lle y croes-hoeliwyd yr Iesu; ac yr oedd yn ysgrifenedig yn Hebraeg, yn Lladin, ac yn Groeg.
21
Gan hyny, wrth Pilat y dywedodd archoffeiriaid yr Iwddewon, Nac ysgrifena Brenhin yr Iwddewon, eithr mai Efe a ddywedasai, Brenhin yr Iwddewon ydwyf.
22
Attebodd Pilat, Yr hyn a ’sgrifenais a ’sgrifenais.
23
Y milwyr, gan hyny, pan groeshoeliasant yr Iesu, a gymmerasant Ei ddillad, a gwnaethant bedair rhan, i bob milwr ran, ac Ei bais: ac yr oedd y bais yn ddiwnïad, wedi ei gwau o’r cwr uchaf trwyddi oll.
24
Dywedasant, gan hyny, wrth eu gilydd, Na rwygwn hi, eithr bwriwn goel-brennau am dani, eiddo pwy fydd hi, fel y byddai i’r ysgrythyr ei chyflawni, yr hon a ddywaid, “Rhannu fy nillad y maent yn eu mysg, Ac ar fy ngwisg yn bwrw coelbren.”
25
Y milwyr, gan hyny, a wnaethant y pethau hyn. A safai wrth groes yr Iesu, Ei fam, a chwaer Ei fam, Mair gwraig Cleophas, a Mair Magdalen.
26
Yr Iesu, gan hyny, gan weled Ei fam, a’r disgybl a garai Efe, yn sefyll gerllaw, a ddywedodd wrth Ei fam, O wraig, wele dy fab.
27
Gwedi’n y dywedodd wrth y disgybl, Wele, dy fam; ac o’r awr honno allan y cymmerodd y disgybl hi i’w gartref.
28
Gwedi’r pethau hyn, yr Iesu yn gwybod fod pob peth weithian wedi ei orphen, fel y cyflawnid yr Ysgrythyr, a ddywedodd, Sychedaf.
29
Llestr oedd yn gorwedd yno, llawn o finegr; wedi rhoddi ysbwng llawn o’r finegr, ynghylch isop, dodasant ef wrth Ei enau.
30
Gan hyny, pan gafodd yr Iesu y finegr, dywedodd, Gorphenwyd; a chan ogwyddo Ei ben, rhoddes i fynu yr yspryd.
31
Yr Iwddewon, gan hyny, gan mai’r Parottoad ydoedd, fel nad arhosai y cyrph ar y groes ar y Sabbath, (canys mawr oedd dydd y Sabbath hwnw), a ofynasant i Pilat am gael torri eu hesgeiriau hwynt, a’u tynnu i lawr.
32
Gan hyny, daeth y milwyr, ac esgeiriau y cyntaf a dorrasant,
33
ac eiddo’r llall a groes-hoeliasid gydag Ef; ac wedi dyfod at yr Iesu, pan welsant Ef wedi marw eisoes, ni thorrasant Ei esgeiriau Ef;
34
eithr un o’r milwyr, â gwayw-ffon, a wanodd Ei ystlys Ef, a daeth allan, yn uniawn, waed a dwfr.
35
A’r hwn a welodd a dystiolaethodd; a gwir yw ei dystiolaeth ef; ac efe a ŵyr mai gwir a ddywaid efe, fel y bo i chwithau hefyd gredu;
36
canys digwyddodd y pethau hyn fel y byddai i’r ysgrythyr ei chyflawni, “Asgwrn o Hono ni thorir:”
37
ac etto ysgrythyr arall a ddywaid, “Edrychant ar yr Hwn a wanasant.”
38
Ac ar ol y pethau hyn, Ioseph o Arimathea, ac yntau yn ddisgybl i’r Iesu, ond yn guddiedig rhag ofn yr Iwddewon, a ofynodd i Pilat am gael dwyn ymaith gorph yr Iesu; a chaniattaodd Pilat. Daeth efe, gan hyny, a dug ymaith Ei gorph Ef.
39
A daeth Nicodemus hefyd, yr hwn a ddaethai Atto liw nos yn gyntaf, gan ddwyn cymmysg o fyrr ac aloes, ynghylch can pwys.
40
Cymmerasant, gan hyny, gorph yr Iesu, a rhwymasant ef â llieiniau ynghyda’r aroglau, fel y mae arfer yr Iwddewon ar gladdu.
41
Ac yr oedd yn y fan lle y croes-hoeliwyd Ef ardd; ac yn yr ardd fedd newydd, yn yr hwn ni ddodasid neb etto.
42
Yno, gan hyny, o achos Parottoad yr Iwddewon, gan mai agos oedd y bedd, y rhoddasant yr Iesu.
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 20 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21