bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
John 10
John 10
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 11 →
1
Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Yr hwn nad yw’n myned i mewn trwy’r drws i gorlan y defaid, eithr yn dringo o ochr arall, efe sydd leidr ac yspeiliwr.
2
Ond yr hwn sy’n myned i mewn trwy’r drws, bugail y defaid yw.
3
I hwn y drysor a egyr; a’r defaid, ar ei lais ef y gwrandawant; ac ei ddefaid ei hun a eilw efe erbyn enw, ac a’u harwain allan.
4
Pan ei holl ddefaid ei hun a ddygwyd allan ganddo, o’u blaen y mae efe yn myned, a’r defaid a’i canlynant ef,
5
oherwydd adnabod o honynt ei lais ef: ond dieithryn ni chanlynant ddim, eithr ffoant oddiwrtho, canys nid adwaenant lais y dieithriaid.
6
Y ddammeg hon a ddywedodd yr Iesu wrthynt; ond hwy ni wyddent pa beth oedd y pethau a lefarai wrthynt.
7
Dywedyd, gan hyny, trachefn wrthynt a wnaeth yr Iesu, Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Myfi yw drws y defaid;
8
yr holl rai, cynnifer ag a ddaethant o’m blaen I, lladron oeddynt, ac yspeilwyr; eithr ni wrandawodd y defaid arnynt.
9
Myfi yw’r drws. Os trwof Fi yr aiff neb i mewn, cadwedig fydd; ac aiff i mewn, a daw allan; a phorfa a gaiff efe.
10
Y lleidr ni ddaw oddieithr fel y lladrattao a lladd a distrywio; Myfi a ddaethum fel y bo bywyd iddynt, ac yn helaethach y bo iddynt.
11
Myfi yw’r bugail da. Y bugail da, ei einioes a ddyd efe i lawr tros y defaid.
12
Y cyflog-ddyn, yr hwn nid yw fugail, yr hwn nid yw’r defaid ei eiddo ef, a wêl y blaidd yn dyfod, a gadael y defaid y mae, ac yn ffoi, a’r blaidd a’u cipia hwynt ac a’u gwasgara;
13
gan mai cyflog-ddyn yw, ac na waeth ganddo am y defaid.
14
Myfi yw’r bugail da, ac adwaenaf Fy nefaid, ac Fy adnabod I y mae Fy nefaid,
15
fel yr adwaen y Tad Fi, a Minnau yn adnabod y Tad; ac Fy einioes a ddodaf i lawr tros y defaid.
16
A defaid eraill sydd Genyf, y rhai nid ynt o’r gorlan hon; hwythau hefyd y mae rhaid i Mi eu cyrchu, ac ar Fy llais y gwrandawant: a byddant un praidd, ac un bugail.
17
O achos hyn y mae’r Tad yn Fy ngharu I, oherwydd i Mi ddodi i lawr Fy einioes fel y cymmerwyf hi drachefn.
18
Nid yw neb yn ei chymmeryd oddi Arnaf, eithr Myfi wyf yn ei dodi i lawr o Honof Fy hun. Meddiant sydd Genyf i’w dodi i lawr, a meddiant sydd Genyf i’w chymmeryd trachefn. Y gorchymyn hwn a dderbyniais gan Fy Nhad.
19
Ymranniad a ddigwyddodd drachefn ymhlith yr Iwddewon o achos y geiriau hyn.
20
Dywedodd llawer o honynt, Cythraul sydd Ganddo, ac allan o’i bwyll y mae; paham Arno Ef y gwrandewch?
21
Eraill a ddywedasant, Yr ymadroddion hyn nid ydynt eiddo un a chythraul ynddo. Ai cythraul all agoryd llygaid y deillion?
22
Ac yr oedd y gyssegr-wyl yn Ierwshalem, a’r gauaf oedd hi.
23
A rhodio yr oedd yr Iesu yn y deml ym mhorth Shalomon.
24
Yn ei amgylch Ef, gan hyny, y daeth yr Iwddewon, a dywedasant Wrtho, Pa hyd y cedwi ein henaid mewn ammheuaeth? Os Tydi yw y Crist, dywaid wrthym yn eglur.
25
Atteb iddynt a wnaeth yr Iesu, Dywedais wrthych, ac nid ydych yn credu. Y gweithredoedd y rhai yr wyf Fi yn eu gwneuthur yn enw Fy Nhad, y rhai hyn sy’n tystiolaethu am Danaf:
26
ond chwychwi nid ydych yn credu gan nad ydych o’m defaid.
27
Fy nefaid, ar Fy llais y gwrandawant, ac Myfi a’u hadwaen, a chanlynant Fi.
28
A Myfi bywyd tragywyddol yr wyf yn ei roddi iddynt, ac ni chyfrgollir hwynt yn dragywydd; ac ni chipia neb hwynt o’m llaw.
29
Fy Nhad, yr Hwn a’u rhoddes i Mi, mwy na phawb yw; ac ni all neb eu cipio o law Fy Nhad.
30
Myfi a’r Tad, un ydym. Trachefn y cododd yr Iwddewon gerrig fel y llabyddient Ef.
31
Atteb iddynt a wnaeth yr Iesu,
32
Llawer o weithredoedd da a ddangosais i chwi oddi wrth Fy Nhad; am ba weithred o honynt y llabyddiwch Fi?
33
Atteb Iddo a wnaeth yr Iwddewon, Am “weithred dda” nid ydym yn Dy labyddio, eithr am gabledd, ac am i Ti, a Thi yn ddyn, wneuthur Dy hun yn Dduw.
34
Attebodd yr Iesu iddynt, Onid yw yn ysgrifenedig yn eich Cyfraith, “Myfi a ddywedais, Duwiau ydych.”
35
Os hwynt-hwy a alwodd Efe “yn Dduwiau,” at y rhai y daeth gair Duw (ac ni all yr Ysgrythyr ei thorri),
36
am yr Hwn y bu i’r Tad Ei sancteiddio ac Ei ddanfon Ef i’r byd, a ydych chwi yn dweud “Cablu yr wyt,” am ddywedyd o Honof, “Mab Duw ydwyf?”
37
Os nad wyf yn gwneuthur gweithredoedd Fy Nhad, na chredwch Fi;
38
ond os eu gwneuthur yr wyf, er i Mi na chredwch, credwch y gweithredoedd, fel y gwybyddoch ac y gweloch mai Ynof y mae y Tad, a Minnau yn y Tad.
39
Ceisiasant trachefn Ei ddal Ef; ac allan yr aeth Efe o’u dwylaw hwynt.
40
Ac aeth ymaith trachefn dros yr Iorddonen i’r lle yr oedd Ioan ar y cyntaf yn bedyddio,
41
ac arhosodd yno: a llawer a ddaethant Atto, a dywedasant, Ioan yn wir ni wnaeth un arwydd, ond yr holl bethau, cynnifer ag a ddywedodd Ioan am Hwn, oeddynt wir.
42
A llawer a gredasant Ynddo yno.
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 11 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21