bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
John 18
John 18
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 19 →
1
Gwedi dywedyd y pethau hyn, yr Iesu a aeth allan ynghyda’i ddisgyblion, dros afon Cedron, lle yr oedd gardd i’r hon yr aeth i mewn, Efe a’i ddisgyblion.
2
Ac adwaenai Iwdas hefyd, yr hwn oedd yn Ei draddodi Ef, y lle, canys mynych y cyrchasai yr Iesu yno ynghyda’i ddisgyblion.
3
Iwdas, gan hyny, wedi cael y fyddin, a chan yr archoffeiriaid a’r Pharisheaid weinidogion, a ddaeth yno â lanternau a llusernau ac arfau.
4
Yr Iesu, gan hyny, yn gwybod yr holl bethau oedd yn dyfod Arno, a aeth allan, a dywedodd wrthynt, Pwy a geisiwch?
5
Attebasant Iddo, Iesu y Natsaread. Dywedyd wrthynt a wnaeth yr Iesu, Myfi yw. A safai Iwdas, yr hwn oedd yn ei draddodi Ef, gyda hwynt.
6
Pan, gan hyny, y dywedodd Efe wrthynt, Myfi yw, aethant ymaith yn wysg eu cefnau, a syrthiasant i lawr.
7
Trachefn, gan hyny, iddynt y gofynodd, Pwy a geisiwch? A hwy a ddywedasant, Iesu y Natsaread.
8
Attebodd yr Iesu, Dywedais wrthych mai Myfi yw; os, gan hyny, Myfi a geisiwch, gadewch i’r rhai hyn fyned ymaith;
9
fel y cyflawnid y gair a ddywedasai Efe, “O’r rhai a roddaist i Mi, ni chollais un o honynt.”
10
Shimon Petr, gan hyny, a chanddo gleddyf, a’i tynnodd ef, a tharawodd was yr archoffeiriad, a thorrodd ymaith ei glust ddehau ef; ac enw y gwas oedd Malchus.
11
Dywedodd yr Iesu, gan hyny, wrth Petr, Dod dy gleddyf yn y wain. Y cwppan a roddes y Tad i Mi, onid yfaf ef?
12
Y fyddin, gan hyny, a’r milwriad, a gweinidogion yr Iwddewon,
13
a ddaliasant yr Iesu, a rhwymasant Ef, a dygasant Ef at Chanan yn gyntaf, canys yr oedd efe yn chwegrwn i Caiaphas, yr hwn oedd archoffeiriad y flwyddyn honno.
14
A Caiaphas oedd yr hwn a gynghorasai i’r Iwddewon mai buddiol oedd marw o un dyn dros y bobl.
15
A chanlyn yr Iesu yr oedd Shimon Petr a disgybl arall. A’r disgybl hwnw oedd adnabyddus gan yr archoffeiriad,
16
ac aeth i mewn gyda’r Iesu i lys yr archoffeiriad; ond Petr a safodd wrth y drws, allan. Gan hyny yr aeth y disgybl arall allan, yr hwn oedd adnabyddus gan yr archoffeiriad, a llefarodd wrth y ddrysores, a daeth a Petr i mewn.
17
Dywedodd y llangces, gan hyny, y ddrysores, wrth Petr, Onid wyt tithau o ddisgyblion y dyn hwn? Dywedodd efe, Nac wyf.
18
A sefyll yr oedd y gweision a’r gweinidogion, wedi gwneuthur tân glo, canys oer ydoedd hi, ac ymdwymnent; ac yr oedd Petr hefyd gyda hwynt yn sefyll ac yn ymdwymno.
19
Yr archoffeiriad, gan hyny, a ofynodd i’r Iesu ynghylch Ei ddisgyblion ac ynghylch ei ddysgad.
20
Atteb iddo a wnaeth yr Iesu, Myfi a leferais yn amlwg wrth y byd; Myfi a ddysgais bob amser yn y sunagog ac yn y deml, lle y mae’r holl Iwddewon yn dyfod ynghyd, ac yn y dirgel ni leferais ddim.
21
Paham mai i Mi y gofyni? Gofyn i’r rhai a glywsant, pa beth a leferais wrthynt. Wele, y rhai hyn a wyddant pa bethau a ddywedais I.
22
Ac Efe wedi dywedyd y pethau hyn, un o’r gweinidogion a oedd yn sefyll ger llaw, a roddes gernod i’r Iesu, gan ddywedyd, Ai felly yr attebi yr archoffeiriad?
23
Atteb iddo a wnaeth yr Iesu, Os yn ddrwg y lleferais, tystiolaetha am y drwg; ond os yn dda, paham y tarewi Fi?
24
Ei ddanfon Ef ymaith, gan hyny, a wnaeth Chanan, yn rhwym, at Caiaphas yr archoffeiriad.
25
Ac yr oedd Shimon Petr yn sefyll ac yn ymdwymno. Dywedasant, gan hyny, wrtho, Tithau hefyd, onid o’i ddisgyblion Ef yr wyt? Gwadodd efe, a dywedodd, Nac wyf.
26
Dywedodd un o weision yr archoffeiriad, ac yntau yn gâr i’r hwn y torrasai Petr ei glust, Oni fu i mi dy weled yn yr ardd gydag Ef?
27
Trachefn, gan hyny, y gwadodd Petr, ac yn uniawn ceiliog a ganodd.
28
Dygasant, gan hyny, yr Iesu oddiwrth Caiaphas i’r llys, a’r bore ydoedd; a hwy nid aethant i mewn i’r llys, rhag eu halogi, eithr fel y bwyttaent y Pasg.
29
Gan hyny yr aeth Pilat allan attynt, a dywedodd, Pa gyhuddiad a ddygwch yn erbyn y dyn hwn?
30
Attebasant, a dywedasant wrtho, Oni bai fod Hwn yn ddrwg-weithredwr, ni thraddodasem Ef i ti.
31
Dywedyd, gan hyny, wrthynt a wnaeth Pilat, Cymmerwch chwi Ef, ac yn ol eich Cyfraith bernwch Ef. Dywedyd wrtho a wnaeth yr Iwddewon, I nyni nid cyfreithlawn yw lladd neb.
32
Fel y byddai i air yr Iesu ei gyflawni, yr hwn a ddywedasai Efe, gan arwyddoccau o ba fath ar angau yr oedd Efe ar fedr marw.
33
Gan hyny, myned i mewn trachefn i’r llys a wnaeth Pilat, a galwodd yr Iesu, a dywedodd Wrtho, Ai Tydi yw Brenhin yr Iwddewon?
34
Attebodd yr Iesu, Ai o honot dy hun yr wyt ti yn dywedyd hyn, ai eraill a ddywedasant wrthyt am Danaf?
35
Attebodd Pilat, A ydwyf fi yn Iwddew? Dy genedl a’r archoffeiriaid a’th draddodasant i mi.
36
Pa beth a wnaethost? Attebodd yr Iesu, Fy nheyrnas I nid yw o’r byd hwn. Ped o’r byd hwn y buasai Fy nheyrnas I, Fy ngweinidogion I a ymdrechasent fel na’m traddodid i’r Iwddewon: ond yn awr Fy nheyrnas I nid yw oddiyma.
37
Dywedyd Wrtho, gan hyny, a wnaeth Pilat, Ai brenhin, ynte, wyt Ti? Attebodd yr Iesu, Ti a ddywedi mai brenhin wyf Fi. Myfi a’m ganed er mwyn hyn, ac er mwyn hyn y daethum i’r byd, fel y tystiolaethwn i’r gwirionedd. Pob un y sydd o’r gwirionedd a wrendy Fy llais.
38
Dywedyd Wrtho a wnaeth Pilat, Pa beth yw gwirionedd? Ac wedi dywedyd hyn yr aeth efe allan trachefn at yr Iwddewon, a dywedodd wrthynt, Nid wyf fi yn cael dim bai ynddo.
39
Ond y mae defod genych, i mi ollwng un yn rhydd i chwi ar y Pasg. A fynwch chwi, gan hyny, i mi ollwng yn rhydd i chwi Frenhin yr Iwddewon?
40
Bloeddiasant, gan hyny, drachefn, gan ddywedyd, Nid Hwn, ond Barabbas. Ac yr oedd Barabbas yn lleidr.
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 19 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21