bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
John 5
John 5
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 6 →
1
Wedi’r pethau hyn yr oedd gwyl yr Iwddewon, ac aeth yr Iesu i fynu i Ierwshalem.
2
Ac y mae yn Ierwshalem, wrth borth y defaid lyn a elwir yn Hebraeg Bethesda, ag iddo bum cyntor.
3
Yn y rhai hyn y gorweddai lliaws o’r cleifion, deillion, cloffion, gwywedigion.
5
Ac yr oedd rhyw ddyn yno, wedi bod namyn dwy flynedd ddeugain yn ei glefyd.
6
Yr Iesu yn gweled hwn yn gorwedd, ac yn gwybod mai am amser maith bellach ei fod felly, a ddywedodd wrtho, A ewyllysi di fyned yn iach?
7
Iddo yr attebodd y claf, Arglwydd, nid oes genyf ddyn i’m bwrw i’r llyn pan gynhyrfer y dwfr; ond tra y deuaf fi, arall a ddisgyn o’m blaen i.
8
Wrtho y dywedodd yr Iesu, Cyfod, cymmer i fynu dy orwedd-beth, a rhodia.
9
Ac yn uniawn yr iachawyd y dyn, a chymmerodd i fynu ei orwedd-beth, a rhodiodd.
10
A’r Sabbath ydoedd y dydd hwnw. Gan hyny, dywedodd yr Iwddewon wrth yr hwn a iachesid, Y Sabbath yw, ac nid yw gyfreithlawn i ti gymmeryd i fynu dy orwedd-beth.
11
Ac efe a attebodd iddynt, Yr Hwn a’m gwnaeth yn iach, Efe a ddywedodd wrthyf, “Cymmer i fynu dy orwedd-beth a rhodia.”
12
Gofynasant iddo, Pwy yw y dyn a ddywedodd wrthyt, “Cymmer i fynu a rhodia.”
13
A’r hwn a iachesid ni wyddai pwy ydoedd, canys yr Iesu a giliasai, gan fod tyrfa yn y fan.
14
Wedi hyny, yr Iesu a’i cafodd ef yn y deml, a dywedodd wrtho, Wele, iachawyd di; na phecha mwyach, rhag i rywbeth gwaeth ddigwydd i ti.
15
Aeth y dyn ymaith, a mynegodd i’r Iwddewon mai’r Iesu yw’r Hwn a’i gwnaeth ef yn iach.
16
Ac o achos hyn erlidiodd yr Iwddewon yr Iesu, gan mai’r pethau hyn a wnelsai ar y Sabbath.
17
A’r Iesu a attebodd iddynt, Fy Nhad sydd hyd yn hyn yn gweithio, ac Myfi wyf yn gweithio.
18
O achos hyn, gan hyny, mwy y ceisiai yr Iwddewon Ei ladd Ef, oherwydd Iddo nid yn unig dorri’r Sabbath, eithr hefyd alw Duw yn Dad Iddo, gan wneuthur Ei hun yn gystal a Duw.
19
Gan hyny, yr attebodd yr Iesu, a dywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Ni all y Mab wneuthur dim o Hono Ei hun, oddieithr yr hyn a welo Efe y Tad yn ei wneuthur, canys pa bethau bynnag y mae Efe yn eu gwneuthur, y Mab hefyd yr un ffunud a’u gwna.
20
Canys y mae’r Tad yn caru’r Mab, ac yn dangos Iddo bob peth y mae Efe yn ei wneuthur; a gweithredoedd mwy na’r rhai hyn a ddengys Efe Iddo, fel y bo i chwi ryfeddu.
21
Canys fel y mae’r Tad yn cyfodi’r meirw ac yn eu bywhau, felly y Mab hefyd a fywha y rhai a fynno:
22
canys nid yw’r Tad yn barnu neb,
23
eithr pob barn a roddes Efe i’r Mab, fel y bo i bawb anrhydeddu’r Mab fel yr anrhydeddant y Tad. Yr hwn nad yw yn anrhydeddu’r Mab, nid yw yn anrhydeddu’r Tad, yr Hwn a’i danfonodd Ef.
24
Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Y neb sy’n clywed Fy ngair, ac yn credu i’r Hwn a’m danfonodd, ganddo y mae bywyd tragywyddol, ac i farn ni ddaw, eithr wedi myned trosodd y mae o farwolaeth i’r bywyd.
25
Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Dyfod y mae’r awr, ac yn awr y mae, pan fydd i’r meirw glywed llais Mab Duw, a’r rhai a glywsant fyddant byw.
26
Canys fel y mae gan y Tad fywyd Ynddo Ei hun, felly i’r Mab hefyd y rhoddes i fod a bywyd Ynddo Ei hun;
27
ac awdurdod a roddes Efe Iddo i wneuthur barn, gan mai Mab y Dyn yw.
28
Na ryfeddwch wrth hyn, Dyfod y mae’r awr yn yr hon y bydd i bawb y sydd yn y beddau glywed Ei lais Ef, a deuant allan;
29
y rhai a wnaethant yr hyn sy dda, i adgyfodiad bywyd; ond y rhai a wnaethant yr hyn sy ddrwg, i adgyfodiad barn.
30
Ni allaf Fi wneuthur dim o Honof Fy hun; fel yr wyf yn clywed, yr wyf yn barnu; ac Fy marn sydd gyfiawn, canys nid wyf yn ceisio Fy ewyllys Fy hun, eithr ewyllys yr Hwn a’m danfonodd.
31
Os Myfi wyf yn tystiolaethu am Danaf Fy hun, Fy nhystiolaeth nid yw wir.
32
Arall sydd yn tystiolaethu am Danaf, a gwn mai gwir yw’r dystiolaeth y mae Efe yn ei thystiolaethu am Danaf.
33
Chwi a ddanfonasoch at Ioan, a thystiolaethodd efe i’r gwirionedd.
34
Ond Myfi, nid gan ddyn y derbyniaf dystiolaeth; eithr y pethau hyn a ddywedais fel y’ch gwareder chwi.
35
Efe oedd y llusern yn llosgi ac yn disgleirio; a chwychwi oeddych ewyllysgar i orfoleddu am amser yn ei oleuni ef.
36
Ond Genyf Fi y mae tystiolaeth fwy nag Ioan, canys y gweithredoedd y rhai a roddes y Tad i Mi i’w gorphen, y gweithredoedd eu hunain, y rhai yr wyf yn eu gwneuthur, sy’n tystiolaethu am Danaf mai y Tad a’m danfonodd.
37
Ac y Tad, yr Hwn a’m danfonodd, Efe a dystiolaethodd: nac Ei lais Ef a glywsoch erioed, nac Ei wedd a welsoch;
38
a’i air Ef nid yw genych yn aros ynoch, canys yr Hwn a ddanfonodd Efe, Iddo Ef chwychwi nid ydych yn credu.
39
Chwiliwch yr Ysgrythyrau, canys chwi a feddyliwch mai ynddynt hwy y mae bywyd tragywyddol i chwi; a hwynt-hwy yw y rhai sy’n tystiolaethu am Danaf;
40
ac nid ewyllysiwch ddyfod Attaf, fel y caffoch fywyd.
41
Gogoniant oddiwrth ddynion nid wyf yn ei dderbyn;
42
eithr eich adnabod chwi yr wyf, nad yw cariad Duw genych ynoch eich hunain.
43
Myfi a ddaethum yn enw Fy Nhad, ac nid ydych yn Fy nerbyn: os arall a ddaw yn ei enw ei hun, hwnw a dderbyniwch.
44
Pa fodd y gellwch chwi gredu, yn derbyn gogoniant gan eich gilydd, ac y gogoniant y sydd oddiwrth Dduw yn unig nid ydych yn ei geisio?
45
Na thybiwch mai Myfi a’ch cyhuddaf wrth y Tad: y mae yr hwn yn eich cyhuddo, Mosheh, yn yr hwn yr ydych chwi yn gobeithio.
46
Canys pe credech Mosheh, credech Finnau, canys am Danaf efe a ysgrifenodd;
47
ond os i’w ysgrifeniadau ef na chredwch, pa fodd i’m geiriau I y credwch?
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21