bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
John 20
John 20
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 21 →
1
Ac y dydd cyntaf o’r wythnos Mair Magdalen a ddaeth y bore, a hi etto yn dywyll, at y bedd; a gwelodd y maen wedi ei ddwyn ymaith oddiwrth y bedd.
2
Rhedodd, gan hyny, a daeth at Shimon Petr, ac at y disgybl arall yr hwn oedd hoff gan yr Iesu, a dywedodd wrthynt, Dygasant yr Arglwydd o’r bedd, ac nis gwyddom pa le y dodasant Ef.
3
Gan hyny, allan yr aeth Petr a’r disgybl arall, a daethant at y bedd:
4
a rhedasant ill dau ar unwaith; ac y disgybl arall a rag-redodd yn gynt na Petr, ac a ddaeth yn gyntaf at y bedd;
5
ac wedi ymgrymmu, gwelodd y llieiniau yn gorwedd, ond nid aeth i mewn.
6
Yna y daeth Shimon Petr yn ei ganlyn ef, ac yr aeth i mewn i’r bedd, a chanfu y llieiniau yn gorwedd,
7
a’r napcyn a fuasai am Ei ben, nid yn gorwedd gyda’r llieiniau, eithr wedi ei blygu yn rhyw le ar wahan.
8
Yna, gan hyny, yr aeth y disgybl arall hefyd i mewn, yr hwn a ddaethai yn gyntaf at y bedd, a gwelodd, a chredodd;
9
canys ni wyddent etto yr ysgrythyr fod rhaid Ei gyfodi o feirw.
10
Gan hyny yr aeth y disgyblion ymaith drachefn i’w cartref.
11
A Mair a safai wrth y bedd, oddi allan, yn gwylo; ac wrth wylo o honi ymgrymmodd i’r bedd;
12
a chanfu ddau angel, mewn gwisgoedd gwynion, yn eistedd, un wrth y pen ac un wrth y traed o’r lle y gorweddodd corph yr Iesu;
13
ac wrthi y dywedasant hwy, O wraig, paham y gwyli? Dywedodd wrthynt, Am ddwyn o honynt fy Arglwydd ymaith, ac na wn pa le y dodasant Ef.
14
Wedi dywedyd hyn y trodd hi drach ei chefn, a chanfu yr Iesu yn sefyll; ac ni wyddai mai’r Iesu ydoedd.
15
Wrthi y dywedodd yr Iesu, O wraig, paham y gwyli? Pwy a geisi? Hithau yn tybied mai y garddwr ydoedd, a ddywedodd Wrtho, Syr, os tydi a’i cymmeraist Ef, dywaid wrthyf pa le y dodaist Ef, ac myfi a’i dygaf Ef ymaith.
16
Wrthi y dywedodd yr Iesu, Mair. Wedi troi o honi, hi a ddywedodd Wrtho, yn Hebraeg, Rabboni, yr hyn yw dywedyd, Athraw.
17
Wrthi y dywedodd yr Iesu, Na chyffwrdd â Myfi, canys nid esgynais etto at y Tad; ond dos at Fy mrodyr, a dywaid wrthynt, Esgyn yr wyf at Fy Nhad a’ch Tad chwi, a’m Duw a’ch Duw chwi.
18
Daeth Mair Magdalen gan fynegi i’r disgyblion, Gwelais yr Arglwydd, ac mai’r pethau hyn a ddywedasai Efe wrthi.
19
Yna pan oedd yr hwyr y dydd hwnw, y cyntaf o’r wythnos, a’r drysau yn gauad lle yr oedd y disgyblion, rhag ofn yr Iwddewon, daeth yr Iesu, a safodd yn y canol, a dywedodd wrthynt, Tangnefedd i chwi.
20
Ac wedi dywedyd hyn, dangosodd iddynt Ei ddwylaw ac Ei ystlys. Gan hyny y llawenychodd y disgyblion wrth weled yr Arglwydd.
21
Gan hyny, wrthynt y dywedodd yr Iesu drachefn, Tangnefedd i chwi. Fel y danfonodd y Tad Fi, Myfi hefyd wyf yn eich gyrru chwi.
22
Ac wedi dywedyd hyn, anadlodd arnynt, a dywedodd wrthynt, Derbyniwch yr Yspryd Glân.
23
Pwy bynnag y maddeuoch eu pechodau, maddeuir hwy iddynt; a’r eiddo pwy bynnag a attalioch, attaliwyd hwynt.
24
A Thomas, un o’r deuddeg, yr hwn a elwir Didymus, nid oedd gyda hwynt pan ddaeth yr Iesu.
25
Gan hyny, wrtho y dywedodd y disgyblion eraill, Gwelsom yr Arglwydd. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni welaf yn Ei ddwylaw ol yr hoelion, a dodi o honof fy mys yn ol yr hoelion, a dodi o honof fy llaw yn Ei ystlys, ni chredaf ddim.
26
Ac wedi wyth niwrnod, drachefn yr oedd Ei ddisgyblion i mewn, a Thomas gyda hwynt. Daeth yr Iesu, a’r drysau yn gauad, a safodd yn y canol, a dywedodd, Tangnefedd i chwi.
27
Yna y dywedodd wrth Thomas, Moes dy fys yma, a gwel Fy nwylaw; a moes dy law, a dod yn Fy ystlys; ac na fydd anghredadyn, eithr yn gredadyn.
28
Attebodd Thomas a dywedodd Wrtho, Fy Arglwydd ac fy Nuw.
29
Wrtho y dywedodd yr Iesu, Am i ti Fy ngweled y credaist; gwyn eu byd y rhai na welsant, ac a gredasant.
30
Llawer hefyd o arwyddion eraill a wnaeth yr Iesu yngwydd y disgyblion, y rhai nid ydynt ysgrifenedig yn y llyfr hwn;
31
ac y pethau hyn a ysgrifenwyd fel y credoch mai yr Iesu yw y Crist, Mab Duw; a chan gredu y caffoch fywyd yn Ei enw Ef.
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 21 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21