bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
John 4
John 4
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 5 →
1
Gan hyny, pan wybu’r Arglwydd glywed o’r Pharisheaid fod yr Iesu yn gwneuthur, ac yn bedyddio, mwy o ddisgyblion nag Ioan,
2
(er hyny yr Iesu Ei Hun ni fedyddiai,
3
eithr Ei ddisgyblion), gadawodd Iwdea, ac aeth ymaith drachefn i Galilea.
4
Ac yr oedd yn rhaid Iddo fyned trwy Shamaria.
5
Daeth, gan hyny, i ddinas yn Shamaria a elwir Shicar, yn agos i’r rhandir a roddodd Iacob i Ioseph, ei fab;
6
ac yr oedd yno ffynnon Iacob. Yr Iesu, gan hyny, wedi blino gan ei daith, a eisteddodd yn uniawn wrth y ffynnon; a’r awr oedd ynghylch y chweched.
7
Daeth gwraig o Shamaria i dynnu dwfr. Wrthi y dywedodd yr Iesu, Dyro i Mi i yfed;
8
canys Ei ddisgyblion a aethent ymaith i’r ddinas fel y prynent fwyd.
9
Wrtho, gan hyny, y dywedodd y wraig o Shamaria, Pa fodd yr wyt Ti, a Thydi yn Iwddew, yn gofyn genyf fi beth i’w yfed, a minnau yn wraig o Shamaria? canys nid ymgyfeillach Iwddewon â Sharmariaid.
10
Attebodd yr Iesu, a dywedodd wrthi, Ped adwaenit ddawn Duw, a phwy yw’r Hwn sy’n dweud wrthyt, “Dyro i Mi i yfed,” ti a ofynasit Iddo, a rhoddasai i ti ddwfr byw.
11
Wrtho y dywedodd y wraig, Arglwydd, peth i dynnu dwfr nid oes Genyt, a’r pydew sydd ddwfn; o ba le, gan hyny, y mae Genyt y dwfr byw?
12
A wyt Ti yn fwy na’n tad Iacob, yr hwn a roddodd i ni y pydew, ac efe a yfodd o hono, ac ei feibion, a’i anifeiliaid?
13
Attebodd yr Iesu, a dywedodd wrthi, Pob un yn yfed o’r dwfr hwn a sycheda drachefn;
14
ond pwy bynnag a yfo o’r dwfr a roddaf Fi iddo, ni sycheda ddim yn dragywydd, eithr y dwfr a roddaf Fi iddo fydd ynddo yn ffynnon o ddwfr yn tarddu i fywyd tragywyddol.
15
Wrtho y dywedodd y wraig, Arglwydd, dyro i mi y dwfr hwn, fel na sychedwyf ac na ddelwyf yma i dynnu.
16
Wrthi y dywedodd yr Iesu, Dos, galw dy ŵr, a thyred yma.
17
Attebodd y wraig, a dywedodd Wrtho, nid oes gennyf ŵr.
18
Wrthi y dywedodd yr Iesu, Da y dywedaist, “Gŵr nid oes genyf,” canys pump o wŷr a fu genyt, ac yr hwn y sydd genyt yr awr hon, nid yw dy ŵr: hyn a ddywedaist yn wir.
19
Wrtho y dywedodd y wraig, Arglwydd, gwelaf mai prophwyd wyt Ti.
20
Ein tadau, ar y mynydd hwn yr addolasant, a chwychwi a ddywedwch mai yn Ierwshalem y mae’r fan lle y dylir addoli.
21
Wrthi y dywedodd yr Iesu, Cred Fi, O wraig, dyfod y mae’r awr pryd nac ar y mynydd hwn nac yn Ierwshalem yr addolwch y Tad.
22
Chwychwi a addolwch y peth ni wyddoch; nyni a addolwn y peth a wyddom, canys iachawdwriaeth, o’r Iwddewon y mae.
23
Eithr dyfod y mae’r awr, ac yr awr hon y mae, pan fydd y gwir addolwyr yn addoli’r Tad mewn yspryd a gwirionedd, canys y mae’r Tad yn ceisio’r cyfryw rai yn addolwyr Iddo.
24
Yspryd yw y Tad; ac y rhai a’i haddolant Ef, mewn yspryd a gwirionedd y mae rhaid iddynt addoli.
25
Wrtho y dywedodd y wraig, Gwn fod y Meshiah yn dyfod (yr Hwn a elwir Crist); pan ddelo Efe, mynega i ni bob peth.
26
Wrthi y dywedodd yr Iesu, Myfi yw, yr Hwn wyf yn ymddiddan â thi.
27
Ac ar hyn daeth Ei ddisgyblion, a rhyfeddent mai â gwraig y siaradai; ni fu i neb, er hyny, ddywedyd, Pa beth a geisi? neu, Paham yr ymddiddani â hi?
28
Gadael ei dwfr-lestr, gan hyny, a wnaeth y wraig, ac aeth ymaith i’r ddinas,
29
a dywedodd wrth y dynion, Deuwch, gwelwch ddyn a ddywedodd wrthyf bob peth a wnaethum. Ai Hwn yw y Crist?
30
Aethant allan o’r ddinas, a daethant Atto.
31
Yn y cyfamser, gofynodd y disgyblion Iddo, gan ddywedyd, Rabbi, bwytta?
32
Ac Efe a ddywedodd wrthynt, Yr wyf Fi a Chenyf fwyd i’w fwytta, am yr hwn ni wyddoch chwi.
33
Dywedodd y disgyblion, gan hyny, wrth eu gilydd, A fu i ryw un ddyfod a pheth Atto i’w fwytta?
34
Dywedodd yr Iesu wrthynt, Fy mwyd I yw gwneuthur ewyllys yr Hwn a’m danfonodd, a gorphen Ei waith Ef.
35
Onid ydych chwi yn dweud, Etto pedwar mis sydd, ac y cynhauaf a ddaw? Wele, dywedaf wrthych, Codwch eich llygaid, ac edrychwch ar y maesydd, mai gwynion ydynt eisoes i’r cynhauaf.
36
Yr hwn sy’n medi, cyflog a dderbyn efe, a chasglu ffrwyth y mae i fywyd tragywyddol, fel y bo i’r hauwr ac i’r medwr lawenychu ynghyd;
37
canys yn hyn y mae’r gair yn wir, “Arall yw’r hauwr, ac arall y medwr.”
38
Myfi a’ch danfonais i fedi yr hyn na lafuriasoch chwi; eraill a lafuriasant; a chwychwi, i’w llafur y daethoch i mewn.
39
Ac o’r ddinas honno, llawer a gredasant Ynddo, ïe, o’r Shamariaid, oherwydd gair y wraig yn tystiolaethu, “Dywedodd wrthyf bob peth a wnaethum.”
40
Pan, gan hyny, y daeth y Shamariaid Atto, gofynasant Iddo aros gyda hwynt: ac arhosodd yno ddeuddydd.
41
A llawer mwy a gredasant Ynddo oherwydd Ei ymadrodd;
42
ac wrth y wraig y dywedasant, Dim mwyach oherwydd dy siarad di y credwn, canys ni ein hunain a glywsom, a gwyddom mai Hwn yw, yn wir, Iachawdwr y byd.
43
Ac wedi’r ddeuddydd aeth allan oddiyno i Galilea;
44
canys yr Iesu Ei Hun a dystiolaethodd fod prophwyd yn ei wlad ei hun heb anrhydedd iddo.
45
Pan ddaeth Efe, gan hyny i Galilea, derbyniodd y Galileaid Ef, wedi gweled o honynt yr holl bethau a wnaeth Efe yn Ierwshalem ar yr wyl, canys hwythau hefyd a ddeuent i’r wyl.
46
Aeth, gan hyny, drachefn i Cana Galilea, lle y gwnaeth y dwfr yn win. Ac yr oedd rhyw bendefig, mab yr hwn oedd glaf yn Caphernahwm.
47
Hwn, wedi clywed fod yr Iesu wedi dyfod, o Iwdea i Galilea, aeth Atto, a gofynodd Iddo ddyfod i wared ac iachau ei fab ef, canys yr oedd ym mron marw.
48
Dywedodd yr Iesu, gan hyny, wrtho, Os nad arwyddion a rhyfeddodau a welwch, ni chredwch ddim.
49
Dywedodd y pendefig Wrtho, Arglwydd, tyred i wared cyn marw fy mhlentyn.
50
Dywedodd yr Iesu wrtho, Dos; y mae dy fab yn fyw. A chredodd y dyn y gair a ddywedodd yr Iesu wrtho, ac aeth ei ffordd.
51
Ac efe yn awr yn myned i wared, ei weision a gyfarfuant ag ef, gan ddywedyd, Dy fab sydd fyw.
52
Gofynodd, gan hyny, iddynt yr awr y gwellhasai arno. Dywedasant, gan hyny, wrtho, Doe, y seithfed awr, y gadawodd y cryd ef.
53
Yna y gwybu’r tad mai yr awr honno ydoedd, yn yr hon y dywedodd yr Iesu wrtho, “Y mae dy fab yn fyw;” a chredodd, efe a’i dŷ i gyd.
54
Hwn yr ail arwydd, drachefn, a wnaeth yr Iesu wedi dyfod o Iwdea i Galilea.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21