bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
John 7
John 7
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 8 →
1
Ac ar ol y pethau hyn, rhodiodd yr Iesu yn Galilea, canys nid ewyllysiai rodio yn Iwdea, canys ei geisio yr oedd yr Iwddewon, i’w ladd Ef.
2
Ac agos oedd gwyl yr Iwddewon, sef Gwyl y Pebyll.
3
Gan hyny, dywedodd Ei frodyr Wrtho, Dos drosodd oddiyma, a chilia i Iwdea, fel y bo i’th ddisgyblion hefyd weled Dy weithredoedd y rhai yr wyt yn eu gwneuthur:
4
canys nid yw neb yn gwneuthur dim yn y dirgel, ac yntau yn ceisio bod yn gyhoedd.
5
Os y pethau hyn a wnai, amlyga Dy hun i’r byd; canys nid oedd hyd yn oed Ei frodyr yn credu Ynddo.
6
Gan hyny y dywedodd yr Iesu wrthynt, Fy amser I ni ddaeth etto; ond eich amser chwi sydd yn wastad yn barod.
7
Ni all y byd eich casau chwi; ond Myfi a gasa, gan Fy mod I yn tystiolaethu am dano fod ei weithredoedd yn ddrwg.
8
Ewch chwi i fynu i’r wyl; Myfi nid wyf etto yn myned i fynu i’r wyl hon, gan nad yw Fy amser I etto wedi ei gyflawni.
9
Ac wedi dywedyd y pethau hyn wrthynt, arhosodd yn Galilea.
10
A phan aethai Ei frodyr i fynu i’r wyl, yna Efe hefyd a aeth i fynu, nid yn amlwg, eithr fel yn ddirgel.
11
Yr Iwddewon, gan hyny, a’i ceisient Ef yn yr wyl, a dywedasant, Pa le y mae’r dyn hwnw?
12
A’r murmur am Dano oedd fawr yn y torfeydd: rhai a ddywedent, Dyn da yw; ac eraill a ddywedent, Nage, eithr ar gyfeiliorn yr arwain Efe y dyrfa.
13
Nid oedd neb, beth bynnag, yn llefaru yn eglur am Dano oherwydd ofn yr Iwddewon.
14
A’r wyl, weithian, yn ei chanol, aeth yr Iesu i fynu i’r deml, ac yr oedd yn dysgu.
15
Gan hyny, rhyfeddodd yr Iwddewon, gan ddywedyd, Pa fodd y mae Hwn yn medru ar lythyrenau, heb ddysgu o Hono?
16
Iddynt, gan hyny, yr attebodd yr Iesu, a dywedodd, Fy nysgad I nid yw Fy eiddo Fi, eithr eiddo yr Hwn a’m danfonodd.
17
Os ewyllysia neb wneuthur Ei ewyllys Ef, caiff wybod am y dysgad, pa un ai o Dduw y mae, ai Myfi o Honof Fy hun wyf yn llefaru.
18
Yr hwn sy’n llefaru o hono ei hun, ei ogoniant ef ei hun a gais efe; ond yr hwn sy’n ceisio gogoniant yr hwn a’i danfonodd ef, hwn sydd wir, ac anghyfiawnder nid oes ynddo ef.
19
Oni fu i Mosheh roddi i chwi y Gyfraith, ac nid oes un o honoch yn gwneuthur y Gyfraith?
20
Paham y ceisiwch Fy lladd I? Attebodd y dyrfa, Cythraul sydd Genyt: pwy sy’n ceisio Dy ladd Di?
21
Attebodd yr Iesu, a dywedodd wrthynt, Un weithred a wnaethum, a’r oll o honoch sy’n rhyfeddu.
22
O achos hyn y bu i Mosheh roddi i chwi yr amdorriad (nid gan mai o Mosheh y mae, eithr o’r tadau), ac ar Sabbath yr amdorrwch ar ddyn.
23
Os amdorriad a dderbyn dyn ar Sabbath, fel na thorrer Cyfraith Mosheh, ai wrthyf Fi y llidiwch am mai yr holl ddyn a wnaethum yn iach ar y Sabbath.
24
Na fernwch yn ol y golwg, eithr y gyfiawn farn bernwch.
25
Gan hyny y dywedodd rhai o’r Ierwshalemitiaid, Onid Hwn yw’r un a geisient Ei ladd?
26
Ac wele, yn gyhoedd y llefara, ac Wrtho ni ddywedant ddim. Ysgatfydd a ŵyr y pennaethiaid yn wir mai Hwn yw’r Crist?
27
Eithr Hwn, gwyddom o ba le y mae; ond y Crist, pan ddelo, nid oes neb yn gwybod o ba le y mae.
28
Gan hyny, y gwaeddodd yr Iesu, pan yn dysgu yn y deml, a chan ddywedyd, Yn gystal Myfi a adwaenoch, a gwyddoch o ba le yr wyf: ac nid o Honof Fy hun y daethum, eithr gwir yw’r Hwn a’m danfonodd, yr Hwn nid ydych chwi yn Ei adnabod:
29
Myfi a’i hadwaen, canys oddiwrtho Ef yr wyf, ac Efe a’m danfonodd I.
30
Ceisiasant, gan hyny, Ei ddal Ef; ac ni osododd neb ei law Arno, canys ni ddaethai Ei awr etto.
31
Ac o’r dyrfa, llawer a gredasant Ynddo, a dywedasant, Y Crist, pan ddelo, ai mwy o arwyddion a wna Efe na’r rhai y mae Hwn wedi eu gwneuthur?
32
A chlywodd y Pharisheaid y dyrfa yn murmur y pethau hyn am Dano; a danfonodd yr archoffeiriaid a’r Pharisheaid swyddogion, fel y dalient Ef.
33
Gan hyny, dywedodd yr Iesu, Etto am ychydig amser ynghyda chwi yr wyf, a chiliaf at yr Hwn a’m danfonodd.
34
Ceisiwch Fi, ac ni’m cewch: a lle yr wyf Fi, chwychwi ni ellwch ddyfod.
35
Gan hyny y dywedodd yr Iwddewon wrth eu gilydd, I ba le y mae Hwn ar fedr myned, gan mai nyni na chawn Ef? Ai at y rhai ar wasgar ymhlith y Groegiaid y mae Efe ar fedr myned a dysgu’r Groegiaid?
36
Pa beth yw’r gair hwn a ddywedodd Efe, “Ceisiwch Fi, ac ni’m cewch,” a “Lle yr wyf Fi, chwychwi ni ellwch ddyfod?”
37
Ac ar y dydd diweddaf, y dydd mawr o’r wyl, safodd yr Iesu, a gwaeddodd, gan ddywedyd, Os oes ar neb syched, deued Attaf, ac yfed.
38
Yr hwn sydd yn credu Ynof, fel y dywedodd yr Ysgrythyr, “O’i groth ef y rhed afonydd o ddwfr byw.”
39
A hyn a ddywedodd Efe am yr Yspryd, yr Hwn yr oedd y rhai a gredasant Ynddo ar fedr Ei dderbyn; canys nid oedd yr Yspryd wedi ei roddi etto, am nad oedd yr Iesu etto wedi Ei ogoneddu.
40
Rhai o’r dyrfa, gan hyny, wedi clywed y geiriau hyn, a ddywedasant, Hwn yw’r Prophwyd yn wir.
41
Eraill a ddywedasant, Hwn yw’r Crist. Ond rhai a ddywedasant, Nage, canys ai o Galilea y mae Crist yn dyfod?
42
Onid yw’r Ysgrythyr wedi dweud mai o had Dafydd, ac o Bethlehem, y pentref lle yr oedd Dafydd, y mae’r Crist yn dyfod?
43
Ymraniad, gan hyny, a wnaed yn y dyrfa o’i blegid Ef.
44
A rhai o honynt a ewyllysient Ei ddal Ef; ond ni osododd neb ei ddwylaw Arno.
45
Gan hyny y daeth y swyddogion at yr archoffeiriaid a’r Pharisheaid. Ac wrthynt y dywedasant hwy, Paham na ddaethoch ag Ef?
46
Attebodd y swyddogion, Ni lefarodd dyn erioed yn y fath fodd.
47
Gan hyny, atteb iddynt a wnaeth y Pharisheaid, A ydych chwithau hefyd wedi myned ar gyfeiliorn?
48
A fu i neb o’r pennaethiaid gredu Ynddo, neu o’r Pharisheaid?
49
Eithr y dyrfa hon, yr hon ni ŵyr y Gyfraith, melldigedig ydynt.
50
Dywedodd Nicodemus wrthynt (yr hwn a ddaeth Atto o’r blaen, ac yntau yn un o honynt),
51
A ydyw ein Cyfraith yn barnu dyn oni chlywo yn gyntaf ganddo, a gwybod pa beth a wnaeth efe?
52
Attebasant, a dywedasant wrtho, A thydi ai o Galilea yr wyt? Chwilia a gwel mai o Galilea nid oes prophwyd yn cyfodi.
53
[Ac aethant, bob un i’w dŷ ei hun.
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21