bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Revelation 1
Revelation 1
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 2 →
1
Datguddiad Iesu Grist, a roddes Duw iddo, i ddangos i’w weision y pethau sydd raid iddynt ddigwydd ar fyrder; anfonodd drwy ei angel a dangosodd hwynt i’w was Ioan;
2
tystiolaethodd yntau air Duw a thystiolaeth Iesu Grist, gymaint ag a welodd.
3
Gwyn ei fyd yr hwn sy’n darllen ar goedd a’r rhai sy’n gwrando geiriau’r broffwydoliaeth ac yn cadw’r pethau sy’n ysgrifenedig ynddi; canys y mae’r amser yn agos.
4
Ioan at y saith eglwys yn Asia: Gras i chwi a thangnefedd oddi wrth yr hwn sydd a’r hwn oedd a’r hwn sydd yn dyfod, ac oddi wrth y saith ysbryd sydd gerbron ei orsedd,
5
ac oddi wrth Iesu Grist, y tyst ffyddlon, y cyntaf-anedig o’r meirw a phennaeth brenhinoedd y ddaear. I’r hwn a’n câr ni ac a’n rhyddhaodd ni oddi wrth ein pechodau drwy ei waed,
6
ac a’n gwnaeth ni yn frenhiniaeth, yn offeiriaid i Dduw a’i Dad ef — iddo ef y byddo’r gogoniant a’r gallu yn oes oesoedd; Amen.
7
Wele y mae’n dyfod gyda’r cymylau, a gwêl pob llygad ef, ie, y rhai a’i trywanodd, ac wylofain a wna holl Lwythau’r ddaear o’i herwydd. Ie’n wir, Amen.
8
Myfi yw’r Alffa a’r Omega, medd yr Arglwydd Dduw, yr hwn sydd a’r hwn oedd a’r hwn sydd yn dyfod, yr hollalluog.
9
Myfi Ioan, eich brawd a’ch cyd-gyfranogwr yn y blinfyd a’r deyrnas a’r amynedd sydd drwy Iesu, oeddwn yn yr ynys a elwir Patmos o achos gair Duw a thystiolaeth Iesu.
10
Yr oeddwn yn yr ysbryd ar ddydd yr Arglwydd, a chlywais tu ôl imi lais mawr fel utgorn yn dywedyd,
11
Yr hyn a weli, ysgrifenna mewn llyfr, ac anfon i’r saith eglwys, i Effesus ac i Smyrna ac i Pergamus ac i Thyatira ac i Sardis ac i Philadelffia ac i Laodicea.
12
Yna trois i edrych ar y llef a siaradai â mi; ac wedi troi gwelais saith ganhwyllbren aur,
13
ac ynghanol y canwyllbrenni un tebyg i fab dyn, wedi ei wisgo hyd ei draed a’i wregysu at ei fronnau â gwregys aur.
14
Yr oedd ei ben a’i wallt yn wynion fel gwlân, gwyn fel eira, a’i lygaid fel fflam dân,
15
a’i draed yn debyg i bres gloyw-eirias wedi ei buro megis mewn ffwrnais, a’i lais fel sŵn dyfroedd lawer,
16
ac yr oedd ganddo yn ei law ddeau saith seren, ac o’i enau gleddau deufin llym yn dyfod allan, a’i wedd fel yr haul yn tywynnu yn ei nerth.
17
A phan welais ef, syrthiais wrth ei draed fel un marw; gosododd yntau ei law ddeau arnaf a dywedyd, Nac ofna; myfi yw’r cyntaf a’r olaf
18
a’r un byw, a bûm farw ac wele byw ydwyf yn oes oesoedd, ac y mae gennyf allweddau marwolaeth ac Annwn.
19
Ysgrifenna gan hynny y pethau a welaist a’r pethau sydd a’r pethau a fydd wedi hyn.
20
Dirgelwch y saith seren a welaist ar fy neheulaw, a’r saith ganhwyllbren aur — y saith seren yw angylion y saith eglwys, a’r saith ganhwyllbren, saith eglwys ydynt.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22