bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Revelation 8
Revelation 8
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 9 →
1
A phan agorodd y seithfed sêl, bu distawrwydd yn y nef am ynghylch hanner awr.
2
A gwelais y saith angel sy’n sefyll gerbron Duw, a rhoddwyd iddynt saith utgorn.
3
A daeth angel arall a safodd wrth yr allor, a chanddo thuser aur, a rhoddwyd iddo arogl-darth lawer i’w gyflwyno gyda gweddïau’r holl saint ar yr allor aur o flaen yr orsedd.
4
Ac esgynnodd mwg yr arogl-darth gyda gweddïau’r saint o law yr angel gerbron Duw.
5
A chymerth yr angel y thuser, a llanwodd hi o dân yr allor a’i bwrw i’r ddaear; yna bu taranau a lleisiau a mellt a daeargryn.
6
Ac ymbaratôdd y saith angel, yn dal y saith utgorn, i utganu.
7
Ac utganodd y cyntaf; yna bu cenllysg a thân cymysgedig â gwaed, a bwriwyd i’r ddaear, a llosgwyd traean y ddaear, a llosgwyd traean y coed, a llosgwyd pob gwelltyn glas.
8
Ac utganodd yr ail angel; yna bwriwyd i’r môr megis mynydd mawr ar dân, a thrôdd traean y môr yn waed,
9
a bu farw draean y creaduriaid byw sydd yn y môr, a dinistriwyd traean y llongau.
10
Ac utganodd y trydydd angel; yna syrthiodd o’r nef seren fawr yn llosgi fel fflamdorch, a syrthiodd ar draean yr afonydd ac ar ffynhonnau’r dyfroedd.
11
Ac enw’r seren yw Wermod; a thrôdd traean y dyfroedd yn wermod, a bu farw lawer o bobl o’r dyfroedd oherwydd eu chwerwi.
12
Ac utganodd y pedwerydd angel; yna trawyd traean yr haul a thraean y lloer a thraean y sêr, fel y tywyllwyd eu traean hwynt ac nad ymddangosodd y dydd draean ohono, na’r nos yr un modd.
13
Ac edrychais a chlywais eryr yn ehedeg yn entrych nef yn dywedyd â llais mawr: Gwae, gwae, gwae ar drigolion y ddaear oherwydd gweddill chwythiadau utgorn y tri angel sydd ar utganu.
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22