bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Revelation 20
Revelation 20
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 21 →
1
A gwelais angel yn disgyn o’r nef, a chanddo allwedd y pwll a chadwyn fawr yn ei law.
2
A gafaelodd yn y ddraig, yr hen sarff, sef Diafol a Satan, a rhwymodd ef am fil o flynyddoedd;
3
yna bwriodd ef i’r pwll, a chloi a selio arno fel na thwyllo’r cenhedloedd mwyach, hyd oni chyflawner y mil blynyddoedd; wedi hynny rhaid yw ei ryddhau am ychydig amser.
4
Yna gwelais orseddau, ac yn eistedd arnynt y sawl y rhoddwyd iddynt hawl i farnu, sef eneidiau’r rhai a ddienyddiwyd am dystiolaeth Iesu ac am air Duw, a’r rhai nad addolasant y bwystfil na’i ddelw ef ac na chymerasant y nod ar eu talcen ac ar eu llaw. A buant fyw a theyrnasu gyda Christ fil o flynyddoedd.
5
A’r gweddill o’r meirw, ni fuant fyw nes cyflawni’r mil blynyddoedd. Dyma’r atgyfodiad cyntaf.
6
Gwyn ei fyd a sanctaidd yw’r hwn sydd iddo ran yn yr atgyfodiad cyntaf; ar y rhai hyn ni fedd yr ail farwolaeth awdurdod, eithr byddant yn offeiriaid Duw a Christ, a theyrnasant gydag ef am y mil blynyddoedd.
7
A phan gyflawner y mil blynyddoedd, gollyngir Satan o’i garchar,
8
ac â allan i dwyllo’r cenhedloedd sydd ym mhedair congl y ddaear, Gog a Magog, i’w cynnull ynghyd i’r rhyfel, a’u nifer fel tywod y môr.
9
Ac aethant i fyny dros led y ddaear, ac amgylchu gwersyll y saint a’r ddinas gu; a disgynnodd tân o’r nef a difaodd hwynt;
10
a bwriwyd diafol, eu twyllwr, i’r llyn o dân a brwmstan, lle hefyd, y mae’r bwystfil a’r gau-broffwyd, a phoenydir hwynt ddydd a nos yn oes oesoedd.
11
A gwelais orsedd fawr wen ac yn eistedd arni yr un y ffodd y ddaear a’r nef o’i ŵydd, a lle nis cafwyd iddynt.
12
A gwelais y meirw, fawr a mân, yn sefyll gerbron yr orsedd, ac agorwyd llyfrau. Yna agorwyd llyfr arall — llyfr y bywyd — a barnwyd y meirw wrth y pethau ysgrifenedig yn y llyfrau, yn ôl eu gweithredoedd.
13
A rhoddodd y môr y meirw oedd ynddo, a rhoddodd angau ac annwn y meirw oedd ynddynt, a barnwyd pob un yn ôl eu gweithredoedd.
14
A bwriwyd angau ac annwn i’r llyn tân. Dyma’r ail farwolaeth, y llyn tân.
15
A phwy bynnag nis cafwyd yn ysgrifenedig yn llyfr y bywyd, bwriwyd ef i’r llyn tân.
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 21 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22