bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Revelation 19
Revelation 19
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 20 →
1
Wedi hyn clywais megis llais uchel tyrfa fawr yn y nef yn dywedyd: Aleliwia; eiddo ein Duw ni yw’r iachawdwriaeth a’r gogoniant a’r gallu,
2
canys cywir a chyfiawn yw ei farnedigaethau ef; oherwydd barnodd y butain fawr a lygrodd y ddaear â’i phuteindra, a mynnodd iawn oddi ar ei llaw am waed ei weision.
3
Ac eilwaith y dywedasant: Aleliwia; ac esgyn ei mwg hi yn oes oesoedd.
4
A syrthiodd y pedwar henuriad ar hugain a’r pedwar peth byw, ac addolasant Dduw sy’n eistedd ar yr orsedd, gan ddywedyd: Amen, Aleliwia.
5
A daeth llais allan o’r orsedd yn dywedyd: Molwch ein Duw ni, ei holl weision ef y sy’n ei ofni ef, fach a mawr.
6
A chlywais megis sŵn tyrfa fawr ac megis sŵn dyfroedd lawer ac megis sŵn taranau nerthol, yn dywedyd: Aleliwia, oblegid yn awr teyrnasa yr Arglwydd ein Duw hollalluog.
7
Llawenhawn a gorfoleddwn, a rhoddwn iddo’r gogoniant, canys daeth priodas yr Oen, a’i briod ef a ymbaratôdd,
8
a rhoddwyd iddi wisgo lliain main disgleirwyn; canys cyfiawnderau’r saint yw’r lliain main.
9
Yna dywed wrthyf, Ysgrifenna: Gwyn eu byd y rhai a alwyd i wledd priodas yr Oen. A dywed wrthyf: Dyma wir eiriau Duw.
10
Yna syrthiais wrth ei draed i’w addoli, a dywed wrthyf: Gwylia, paid! cyd-was ydwyf â thi ac â’th frodyr sydd ganddynt dystiolaeth Iesu; addola Dduw. Oblegid tystiolaeth Iesu yw ysbryd proffwydoliaeth.
11
A gwelais y nef yn agored, ac wele farch gwyn a’i farchogwr, Ffyddlon a Chywir wrth ei enw, ac mewn cyfiawnder y barn ac y rhyfela.
12
A’i lygaid oedd yn fflam dân, ac ar ei ben ddïademau lawer, a chanddo enw yn ysgrifenedig nas gŵyr neb ond ef ei hun,
13
ac wedi ymwisgo â gwisg drochedig mewn gwaed, a’r enw arno oedd Gair Duw.
14
A’r byddinoedd yn y nef, canlynent ef ar feirch gwynion, wedi ymwisgo â lliain main purwyn.
15
Ac o’i enau daw allan gleddau miniog, i daro’r cenhedloedd ag ef; a bugeilia hwynt â gwialen haearn; a sathr winwryf angerdd llid Duw hollalluog.
16
Ac y mae ganddo ar ei wisg ac ar ei forddwyd enw yn ysgrifenedig: BRENIN BRENHINOEDD AC ARGLWYDD ARGLWYDDI.
17
A gwelais angel yn sefyll yn yr haul, a gwaeddodd â llais uchel, gan ddywedyd wrth yr holl adar a ehedai yn yr entrych: Deuwch, ymgesglwch i swper mawr Duw,
18
i fwyta cnawd brenhinoedd a chnawd milwriaid a chnawd gwŷr cedyrn a chnawd meirch a’u marchogion, a chnawd pawb oll, rhydd a chaeth, bach a mawr.
19
A gwelais y bwystfil a brenhinoedd y ddaear a’u byddinoedd wedi ymgynnull i ryfela â’r hwn sy’n eistedd ar y march ac â’i fyddin ef.
20
A daliwyd y bwystfil a chydag ef y gau broffwyd a wnaeth arwyddion ger ei fron a thwyllo â hwynt y sawl a gymerth nod y bwystfil ac a addolai ei ddelw ef; bwriwyd hwynt yn fyw ill dau i’r llyn tân yn llosgi â brwmstan.
21
A lladdwyd y gweddill â’r cleddau a ddaeth allan o enau’r un a eisteddai ar y march, a chafodd yr holl adar eu gwala o’u cnawd hwynt.
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 20 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22