bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Revelation 5
Revelation 5
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 6 →
1
A gwelais ar ddeheulaw yr hwn a eisteddai ar yr orsedd lyfr wedi ei ysgrifennu oddi mewn ac ar ei gefn, wedi ei selio â saith sêl.
2
A gwelais angel cryf yn cyhoeddi â llais uchel: Pwy sydd deilwng i agor y llyfr ac i ddatod ei seliau?
3
Ac ni allai neb yn y nef nac ar y ddaear na than y ddaear agor y llyfr nac edrych arno.
4
Ac wylwn lawer oblegid na chafwyd neb teilwng i agor y llyfr nac i edrych arno.
5
A dywed un o’r henuriaid wrthyf: Nac wyla; wele trechodd y llew o lwyth Jwda, Gwreiddyn Dafydd, i agor y llyfr a’i saith sêl.
6
A gwelais ynghanol yr orsedd a’r pedwar peth byw ac ynghanol yr henuriaid oen yn sefyll megis wedi ei ladd, a chanddo saith gorn a saith lygad, y rhai yw saith ysbryd Duw, danfonedig i’r holl ddaear.
7
A daeth ef a chymerth o law ddeau yr un a eisteddai ar yr orsedd;
8
a phan gymerth y llyfr syrthiodd y pedwar peth byw a’r pedwar henuriad ar hugain o flaen yr Oen, a chanddynt bob un delyn a ffialau aur yn llawn arogl-darth, sef gweddïau’r saint.
9
A chanant gân newydd gan ddywedyd: Teilwng wyt i gymryd y llyfr ac agor ei seliau, canys ti a laddwyd, a phrynaist i Dduw â’th waed rai o bob llwyth ac iaith a phobl a chenedl,
10
a gwnaethost hwy i’n Duw ni yn frenhiniaeth ac offeiriaid, a theyrnasant ar y ddaear.
11
Ac edrychais a chlywais lais angylion lawer o gylch yr orsedd a’r pethau byw a’r henuriaid, a’u nifer oedd fyrddiynau ar fyrddiynau a miloedd ar filoedd,
12
yn dywedyd â llef uchel: Teilwng yw’r Oen a laddwyd i dderbyn y gallu a chyfoeth a doethineb a nerth ac anrhydedd a gogoniant a mawl.
13
A phob creadur a’r sydd yn y nef ac ar y ddaear a than y ddaear ac yn y môr, a’r cwbl y sydd ynddynt, a glywais yn dywedyd: I’r hwn sy’n eistedd ar yr orsedd ac i’r Oen y bo’r mawl a’r anrhydedd a’r gogoniant a’r nerth yn oes oesoedd.
14
A dywedai’r pedwar peth byw, Amen; a syrthiodd yr henuriaid i lawr ac addolasant.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22