bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Revelation 12
Revelation 12
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 13 →
1
Yna gwelwyd arwydd mawr yn y nef, gwraig wedi ei gwisgo â’r haul, a’r lleuad dan ei thraed, ac ar ei phen goron o ddeuddeg seren,
2
ac yn feichiog, a gwaedda mewn gwewyr a phoen esgor.
3
A gwelwyd arwydd arall yn y nef, wele ddraig goch fawr ac iddi saith ben a deg corn, ac ar ei phennau saith ddïadem,
4
a llusg ymaith ei chynffon draean sêr y nef, a bwriodd hwynt i’r ddaear. A safodd y ddraig o flaen y wraig a oedd ar fin esgor, i lyncu ei phlentyn pan esgorai arno.
5
Ac esgorodd ar fab, gwryw, y sydd i fugeilio’r holl genhedloedd â gwialen haearn, a chipiwyd ei phlentyn at Dduw ac at ei orsedd ef.
6
A ffodd y wraig i’r anialwch, lle y mae iddi fan wedi ei baratoi gan Dduw, fel y porthont hi yno fil deucant a thrigain o ddyddiau.
7
A bu rhyfel yn y nef, Mihangel a’i angylion yn rhyfela yn erbyn y ddraig. A rhyfelodd y ddraig a’i hangylion hithau,
8
eithr ni orfuant, a’u lle hwynt nis cafwyd mwyach yn y nef.
9
A bwriwyd i lawr y ddraig fawr, yr hen sarff, a elwir Diafol a Satan, twyllwr yr holl fyd, bwriwyd ef i’r ddaear, a bwriwyd i lawr ei angylion gydag ef.
10
Yna clywais lais mawr yn y nef yn dywedyd: Yn awr y daeth iachawdwriaeth a gallu a brenhiniaeth ein Duw ni ac awdurdod ei Grist ef, canys bwriwyd i lawr gyhuddwyr ein brodyr, sy’n eu cyhuddo gerbron ein Duw ddydd a nos.
11
A gorchfygasant hwy ef drwy waed yr Oen a thrwy air eu tystiolaeth, a dibris hyd at angau fu ganddynt eu heinioes.
12
Am hynny llawenhewch, nefoedd a’i phreswylwyr; gwae’r ddaear â’r môr, canys disgynnodd y diafol arnoch gyda llid mawr, gan wybod mai byr amser sydd ganddo.
13
A phan welodd y ddraig ei bwrw i’r ddaear, ymlidiodd ar ôl y wraig a esgorasai ar y plentyn.
14
A rhoddwyd i’r wraig ddwy adain eryr mawr fel yr ehedai i’r anialwch, i’w lle ei hun, i’w hymgeleddu yno am amser ac amserau a hanner amser o olwg y sarff.
15
A bwriodd y sarff o’i safn ddwfr fel afon ar ôl y wraig i beri ei chludo ymaith gyda’r llif.
16
A chynorthwyodd y ddaear y wraig; agorodd y ddaear ei safn a llyncodd yr afon a fwriodd y ddraig o’i safn.
17
A llidiodd y ddraig wrth y wraig, ac aeth ymaith i ryfela â’r gweddill o’i had hi sy’n cadw gorchmynion Duw a dal tystiolaeth Iesu.
18
A safodd ar dywod y môr.
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22