bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Revelation 13
Revelation 13
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 14 →
1
A gwelais fwystfil yn codi o’r môr, a chanddo ddeg corn a saith ben, ac ar ei gyrn ddeg diadem, ac ar ei bennau enwau cabledd.
2
A thebyg oedd y bwystfil a welais i lewpard, a’i draed fel traed arth, a’i safn fel safn llew. A rhoddodd y ddraig iddo ei gallu a’i gorsedd ac awdurdod mawr;
3
ac un o’i bennau oedd megis wedi ei archolli i farwolaeth, ond iachawyd ei glwyf marwol. Ac aeth yr holl ddaear mewn rhyfeddod ar ôl y bwystfil,
4
ac addolasant y ddraig am roddi ohoni’r awdurdod i’r bwystfil, ac addolasant y bwystfil gan ddywedyd: Pwy sydd debyg i’r bwystfil, a phwy a all ryfela ag ef?
5
A rhoddwyd iddo e nau yn llefaru pethau mawreddog a chableddau, a rhoddwyd iddo awdurdod i weithredu am ddau fis a deugain.
6
Ac agorodd ei enau mewn cableddau yn erbyn Duw, i gablu ei enw ef a’i babell ef, y sawl sy’n pabellu yn y nef.
7
A rhoddwyd iddo ryfela yn erbyn y saint a’u gorchfygu, a rhoddwyd iddo awdurdod ar bob llwyth a phobl ac iaith a chenedl.
8
A’r holl breswylwyr ar y ddaear, addolant ef, pob un nad yw ei enw’n ysgrifenedig yn llyfr bywyd yr Oen a laddwyd er seiliad y byd.
9
Od oes gan neb glust, gwrandawed.
10
Os yw neb i’w gaethiwo, i gaethiwed yr â; os lladd neb â chleddyf, rhaid yw ei ladd yntau â chleddyf. Yn hyn y mae amynedd a ffydd y saint.
11
Yna gwelais fwystfil arall yn codi o’r ddaear, ac yr oedd ganddo ddau gorn fel oen, a siaradai fel draig.
12
A holl awdurdod y bwystfil cyntaf a arfer ef ger ei fron; a gwna i’r ddaear a’i phreswylwyr addoli’r bwystfil cyntaf, yr un yr iachawyd ei glwyf marwol.
13
A gwna arwyddion mawrion, gwneuthur i dân ddisgyn o’r nef ar y ddaear yng ngŵydd dynion.
14
A thwylla breswylwyr y ddaear drwy’r arwyddion y rhoddwyd iddo eu gwneuthur gerbron y bwystfil, gan ddywedyd wrth breswylwyr y ddaear am wneuthur delw i’r bwystfil sydd ag archoll y cleddau ganddo ac a fu fyw.
15
A rhoddwyd iddo roi anadl yn nelw’r bwystfil, fel y siarado delw’r bwystfil a pheri bod lladd cynifer ag nad addolo ddelw’r bwystfil.
16
A phair roddi i bob un, bychan a mawr, cyfoethog a thlawd, rhydd a chaeth, nod ar eu llaw ddeau neu ar eu talcen,
17
fel na allo neb brynu na gwerthu oni bo ganddo’r nod, enw’r bwystfil neu rif ei enw ef.
18
Yn hyn y mae doethineb: cyfrifed y deallgar rif y bwystfil, canys rhif dyn ydyw, a’i rif yw 666.
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 14 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22